Dangos 982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd
Rhagolwg argraffu Gweld:

D. Derwenydd Morgan, Pencader,

Mae ei enw yn cael ei grybwyll am radd M.A. trwy anrhydedd. Hydera y caiff gefnogaeth W. J. Gruffydd. Mae'n debyg iddo gyhoeddi mwy o lyfrau Cymraeg a Saesneg nag unrhyw awdur Cymreig sy'n fyw. Mae'n amgau rhestr o'i ddramâu. Rhestrir y mathau o lyfrau a baratowyd ganddo. Nid yw wedi cyhoeddi llyfrau ysgolheigaidd - mae'n anodd cael y rheiny i dalu. Mae wedi astudio seicoleg y Cymry. Treuliodd ddeng mlynedd yn nhaleithiau gorllewinol America yn ceisio hybu a diogelu'r Gymraeg. Mae'n anfon copi o un o'i gyhoeddiadau at W. J. Gruffydd. Gofyn i W. J. Gruffydd am ei gefnogaeth i'r cais.

D. E[mrys] E[vans], Bangor,

Llongyfarch W. J. Gruffydd ar anerchiad yn Nhy'r Cyffredin. Hoffai weld rhai ysgolion gramadeg yn cael eu codi na fyddai'n atebol i'r un awdurdod addysg lleol, a'r rheiny yn rhai preswyl. Cerdyn post.

D. Emrys Evans, C.P.G.C. Bangor,

Mae'n ceisio ysgrifennu erthygl ar osgo'r llenor a'r damcaniaethwr gwleidyddol tuag at y rhyfel. A fyddai diddordeb gan W. J. Gruffydd ei derbyn ar gyfer Y Llenor. Cred bod angen gwrthweithio dylanwad 'y truth a gynhyrcha'r blaid'.

D. Emrys James ['Dewi Emrys'], Llundain,

Y mae ar orffen llawlyfr ar y gynghanedd sef Odl a Chynghanedd ar gyfer ysgolion, beirdd ieuainc a dosbarthiadau nos. Mae'n bwriadu cynnwys darnau o waith W. J. Gruffydd fel enghreifftiau yn y gyfrol ac y mae'n gofyn caniatâd i wneud hynny. Tair pennod yn unig sydd ganddo ar ôl heb eu cwblhau. Mae T. Gwynn Jones yn darllen y gyfrol cyn iddi fynd i'r wasg ac ef hefyd fydd yn ysgrifennu'r rhagair.

D. Emrys James, ['Dewi Emrys'], Castell-nedd,

Mae'n amgau telyneg 'Cwsg' ar gyfer Y Llenor [cyf. VI (1927), t. 71). Mae'n gresynu iddo fethu â tharo arni wrth baratoi Rhigymau'r Ffordd Fawr. Canmol beirniadaeth 'odidog' W. J. Gruffydd ar gystadleuaeth y Goron yn Abertawe. Dyna'r math o feirniadaeth sydd ei hangen ar farddoniaeth Cymru heddiw 'yn wyneb cymaint o sbwriel pregethwrol a bentyrrwyd arni yn enw awen'. Gwrthododd D. Emrys James bum gini gan bapur newydd a ofynnodd iddo ymateb i feirniadaeth W. J. Gruffydd. Nid personau ond eu gwaith sy'n cyfrif i W. J. Gruffydd. Canmolir Y Llenor. Mae'n nodi tlodi llenyddiaeth Cymru o safbwynt cynnyrch gan enweirwyr.

D. Emrys [James, 'Dewi Emrys'], Llundain,

Mae'n ddiolchgar ac yn llawen iawn o dderbyn cystal cannoliaeth gan W. J. Gruffydd ar ei gyfrol o gerddi Saesneg, [Rhymes of the Road (Llundain, 1928)]. Mae'n anfon rhagflas o ddiwyg y gyfrol orffenedig. Bu'n cywiro proflenni y diwrnod blaenorol. Maent yn rhuthro i gyhoeddi'r llyfr ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Hoffai petai W. J. Gruffydd yn adolygu'r gyfrol un ai yn y Western Mail neu yn y South Wales Daily News. Cyfarfu â Charadog Evans y noson gynt a buwyd yn sôn am W. J. Gruffydd. Cafodd air â [Rhys] Hopkyn Morris y prynhawn Gwener cynt a dywedodd fod W. J. Gruffydd wedi rhoi anerchiad gwych yn yr Undeb. Adroddodd D. Emrys James ei gerdd Saesneg 'Magdalene' i Hopkyn Morris. Ceir adysgrif o'r gerdd honno ar ddiwedd y llythyr.

D. Emrys James, ['Dewi Emrys'], Llundain,

Gofynnwyd iddo ysgrifennu erthygl ar feirdd cyfoes Cymru ar gyfer John O'London's Weekly. Mae'n gofyn i W. J. Gruffydd anfon cerdd o'i ddewis ato yn Saesneg a'i sylwadau ar farddoniaeth gyfoes yng Nghymru. Cyhoeddir yr erthygl adeg Eisteddfod [Genedlaethol] Caergybi. Cafodd swydd sy'n talu'n dda yn Fleet Street. Cyhoeddwyd cerdd a stori Saesneg o'i eiddo a chafodd dâl amdanynt. Gwendid Cymru yw'r duedd i gymysgu celfyddyd a moesoldeb. Mae gweinidogion a blaenoriaid anghydffurfiol Cymru yn elynion celfyddyd. Hyn sydd i gyfrif na chafwyd bardd mawr o Gymro ers dyddiau Dafydd ap Gwilym. Bydd ganddo bethau brathog i'w dweud am elynion celfyddyd yng Nghymru yn Tit-Bits ymhen wythnos. Mae ganddo gyfrol o farddoniaeth Saesneg yn nwylo cyhoeddwr.

D. J. Jones, Hedgerley, Buckinghamshire,

Cafodd bleser mawr o glywed anerchiad eneiniedig W. J. Gruffydd i'r Cymmrodorion ar y radio. Y mae'n cytuno â barn W. J. Gruffydd ar beth ddylai cynnwys Y Bywgraffiadur fod. Ni ddylai fod yn 'apologia pro vita sua' i'r Saeson nac yn ymgais i brofi bod Cymru wedi cynhyrchu gwyr mawr. Y mae o'r farn y ddylai gwyr fel Evan Phillips, Castellnewydd Emlyn, a David Lewis, y teiliwr a'r cerddor o Lanrhystud, fod ynddo.

D. J. Jones, Portsmouth,

Llwyddodd i fenthyg llyfrau ar Ddewi Sant o'r Llyfrgell Genedlaethol a phenderfynodd gadw at bwyntiau cyffredinol gan osgoi ffeithiau. Tybia fod ei bregeth yn eithaf llwyddiannus. Ei uchelgais yw cael plwyf tawel gwledig heb fod ymhell o'i sefyllfa bresennol ar gyfer y deg i bymtheg mlynedd sy'n weddill o'i yrfa. Atgoffa W. J. Gruffydd o'u hymweliad â bazaar y Groes Goch yn Ismailia. Holi beth yw ystyr yr enw Mabws ym mhlwyf Llanrhystud a beth yw'r esboniad am y ffurf 'Llangwrddon' ar lafar am enw'r plwyf Llangwyryfon.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Dymuno blwyddyn newydd dda iddo, yn enwedig gyda'r Llenor. Amgau stori fer. ['Y Cwpwrdd Tridarn', Y Llenor, cyf. XVIII (1939), tt. 9-18]. Bu ar ei lasog tra yn y carchar ond nad oedd cyfle yno iddo ei chofnodi. Os nad yw hi'n dderbyniol mae'n gofyn am ei chael yn ôl gan nad oes ganddo gopi arall ohoni. Mae'n gofyn hefyd am i W. J. Gruffydd ddychwelyd hanes y cwrcyn a gafodd ddwy flynedd ynghynt. Fe gaiff hwnnw ymddangos mewn casgliad o storïau yng nghyflawnder yr amser. 'Dyn bach fel Methusalah wyf i, a wnâi lawer o waith mewn llawer o amser'.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Mae'n falch fod cerdd George [M. LL.] Davies i ymddangos yn Y Llenor. Diolch i W. J. Gruffydd hefyd am ei lythyr caredig yn esbonio ei safbwynt yn fanylach. Mae'n ceisio cymod er mwyn osgoi dadl agored rhwng W. J. Gruffydd a Saunders [Lewis]. Byddai anghytundeb cyhoeddus yn drasiedi, er yn wledd wrth fodd calon gwyr Philistia. Anghytuno am ddamcaniaethau crefydd a gwleidyddiaeth y maent. Nid dadlau dros Gatholigiaeth y mae D. J. Williams ond ceisio rhoi ei lle i athrylith anghyffredin o rymus sy'n ceisio achub einioes y genedl. Nid oes gan D. J. Williams ragfarn gref yn erbyn Pabyddiaeth. Ni all y grefydd a gadwodd wareiddiad Ewrop yn fyw am bymtheg canrif fod yn ddrwg i gyd. Cred ei fod yn deall tipyn ar W. J. Gruffydd ac ar Saunders Lewis. Onid oes modd iddynt gyfarfod i anghytuno'n breifat er mwyn medru cytuno i gyd-arwain Cymru yn yr argyfwng presennol. Ni fedrai Saunders Lewis fyw hanner awr yn y Gymru sy'n annwyl iddo ef ac W. J. Gruffydd. Mewn theori y mae Saunders Lewis yn werinwr, nid mewn calon ac ysbryd. Yn hynny o beth y mae'n debyg iawn i Parnell. Nid yw'n credu fod W. J. Gruffydd yn gywir wrth honni bod Saunders Lewis yn ddilynwr yr Action Française. Mae'n ei atgoffa o adolygiad Saunders Lewis ar ddyddlyfr pythefnos [W. Ambrose] Bebb, lle dywedodd ei fod yn synnu fod Cymro fel Bebb yn gallu llyncu'r Action Française yn gwbl ddihalen. Mae gwraig D. J. Williams yn cytuno â W. J. Gruffydd yngl?n â Chatholigiaeth. Mae D. J. Williams yn mentro anghytuno ag W. J. Gruffydd yngl?n ag ysgrifau 'Cwrs y Byd'. Cred mai hwy yw 'y pethau gorau a chywiraf o ddim a gyhoeddir ym Mhrydain'. Hoffai petai W. J. Gruffydd a Saunders Lewis yn setlo'u hanawsterau yng nghegin gefn y Red Lion yn hytrach nag ar y sgwâr o'i flaen.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Dymuno'n dda i W. J. Gruffydd yn y gynhadledd bwysig iawn yn Amwythig y dydd Gwener canlynol. Hoffai D. J. Williams fod yno ond nid yw hynny i fod. 'Y mae'r Quislingiaid yng Nghymru yn ddigon i dorri calon y diawl ei hunan ambell dro, yn enwedig y rhyw Galfinaidd ohonynt'. Mae'n anghytuno'n llwyr â W. J. Gruffydd ar fater y rhyfel gan gredu mai ef, D. J. Williams sy'n iawn, wrth gwrs. Nid yw ei edmygedd o ddewrder a didwylledd W. J. Gruffydd fymryn yn llai. Bydd y cyfarfod ddydd Gwener yn un o'r rhai mwyaf tyngedfennol yn hanes Cymru. Os gellir llwyddo i sicrhau ymddiriedaeth Cymru yn y gynhadledd er gwaethaf pob dallineb a llyfrdra, yna fe fydd gobaith i Gymru.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Ysgrifenna yn dilyn adroddiad yn y Western Mail am araith W. J. Gruffydd yn y Senedd y diwrnod blaenorol ar y Bil Addysg newydd. Rhagorol iawn. Yn ail, ysgrif ddiweddaraf Saunders Lewis yng 'Nghwrs y Byd' (19/1/44). Mae'r ddwy erthygl yn waith gweledydd a gwladweinydd mawr sydd â thynged Cymru yn pwyso'n drwm ar ei enaid. Mae'r sbonc o egni newydd a welwyd yn ddiweddar gan y Blaid Seneddol Gymreig yn fwy dyledus i sbardun cyson W. J. Gruffydd nag i ddim arall. A oes modd i'r seneddwyr Cymreig roi ystyriaeth ddifrifol i argymhellion gwerthfawr Y Faner? Dim ond ar berygl einioes y genedl y gellir anwybyddu'r fath faterion. Un o'r pethau tristaf oll i lawer yw nad yw Saunders Lewis a W. J. Gruffydd yn yr un gwersyll. Diolch iddo am ei eiriau hael i Storïau'r Tir Coch yn Y Llenor.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Diolch am lythyr W. J. Gruffydd fe'i cafodd ef yn nhy Wil Ifan ym Mhen-y-bont [ar Ogwr]. Mae'n gweld yr anhawster o ysgrifennu llythyr i'r Wasg ar ran Saunders [Lewis] ac yntau. Byddai absenoldeb enwau gwyr amlwg yn adrannau Cymraeg y Brifysgol yn tynnu cryn dipyn oddi wrth rym y neges. Synnodd weld enw Dr Parry-Williams ymhlith y gwyr gochelgar - nid cachgi mohono ef. Mae mor gadarn â neb yng Nghymru dros yr hyn y cred ynddo. Y mae hefyd yn aelod o'r Blaid. Clywodd Cassie Davies yn dweud ei fod yn gwbl gefnogol i losgi'r Ysgol Fomio. Ond ni chafodd D. J. Williams air ganddo ar y mater er hynny. Bu'n gyfaill gwerthfawr bob amser. Mae Mr Tim Lewis o'u plaid hefyd er na chafodd air ganddo yntau. Yn yr Old Bailey y dydd o'r blaen yr oedd y cyfan wedi ei drefnu gan y tri barnwr ymlaen llaw. Gwnaeth Norman Birkett araith wych drostynt yn erbyn symud lle'r prawf. Ond hynny a benderfynwyd. Bwriad D. J. Williams yw peidio â dadlau ei achos a thrwy hynny wrthod cydnabod hawl rheithwyr estron i eistedd mewn barn arno. Am y cwrcyn y mae croeso i W. J. Gruffydd gadw'r stori ar gyfer rhifyn y Pasg o'r Llenor, os na fydd ei sawr yn rhy gryf!.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Mae'n amgau cân oddi wrth George M. Ll. Davies, cân sy'n gwbl nodweddiadol ohono. ['Heddwch', Y Llenor, cyf. XIX (1940), tt. 172-3]. Mae'n methu â chytuno â rhai o sylwadau diweddar W. J. Gruffydd yngl?n â'r rhyfel. Mae hefyd yn methu cytuno â Saunders [Lewis] weithiau er cymaint ei edmygedd ohono. Dim ond gwahaniaeth graddau sydd yna rhwng totalitariaeth Hitler a thotalitariaeth Seisnig. Os oes rhaid i D. J. Williams ufuddhau i Churchill a'i debyg, yna y mae popeth y credodd ynddo erioed ac y ceisiodd fod yn ffyddlon iddo wedi bod yn gyfeiliornus. Mae'n eironig fod W. J. Gruffydd yn gofyn gan Gymru gyflwyno ei holl ynni i gynorthwyo Prydain i gyflawni ei gwyrth. Mae gwraig D. J. Williams wedi ailgopïo cerdd George M. Ll. Davies gan fod yr ysgrifen yn anodd a'r papur yn wael yn y gwreiddiol.

D. J. Williams, Abergwaun,

Gofynnodd ysgrifennydd Cymrodorion Abergwaun iddo wahodd W. J. Gruffydd i roi darlith iddynt yn ystod y gaeaf dilynol. Bydd Eisteddfod Abergwaun wedi mynd heibio erbyn hynny a hoffent fanteisio ar olion y llanw cenedlaethol a adewir ar ei hôl. Mae wedi gwerthfawrogi sylwadau W. J. Gruffydd ar fywyd Cymru bob amser. Mae rhyw ddawn wyrthiol gan W. J. Gruffydd i dreiddio i mewn at graidd cydwybod y genedl. Awgrymir dyddiadau pwrpasol ar gyfer y ddarlith.

D. J. Williams, Abergwaun,

Diolch am lythyr gwerthfawr W. J. Gruffydd o gefnogaeth [yn dilyn llosgi'r Ysgol Fomio]. Mae brenin Lloegr, am y tro cyntaf ers canrifoedd, wedi cael trwyn coch gan Gymru, y barchusaf, y boneddigeiddiaf, a'r llyfraf o'r cenhedloedd. Dywedodd W. J. Gruffydd beth gwir iawn am Saunders Lewis yn y Western Mail, sef ei fod ef yn tragic figure. Dyma'r unig ddyn sydd â gweledigaeth gwleidydd mawr ganddo yng Nghymru heddiw. Mae rhagfarn gibddall, ddiystyr Ymneilltuaeth Cymru yn erbyn Pabyddiaeth yn golygu bod Cymru yn gwrthod derbyn arweiniad Saunders Lewis. Byddai'n edrych ymlaen at garchar y Sais gyda gorfoledd pe gwyddai y byddai'r brotest yn gorfodi Cymru i ddechrau teimlo drosti ei hunan. Mae ei wraig yn ddewr iawn yn wyneb y dyfodol. Bu llythyr W. J. Gruffydd yn wir ysbrydiaeth iddynt eu dau. Y mae Mr Watcyn Evans, Ysgrifennydd Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun a Chastell Nedd yn cynnig am swydd Ysgrifennydd Eisteddfod Caerdydd ac y mae W. J. Gruffydd ar y Pwyllgor Dewis. Y mae yn ysgrifennydd tan gamp. Bu Eisteddfod Abergwaun yn llwyddiant gwirioneddol. Mae'n meddu doniau'r gwir drefnydd.

D. J. [Williams], Abergwaun,

Diolch am ateb i'w lythyr. Yr oedd yn anghytuno'n llwyr â phopeth bron a ddywedodd ynddo. Mae'n dyfynnu darn o lythyr ato gan wr amlwg: 'Yr wyf innau'n gobeithio na hud-ddenir mo W. J. Gruffydd i sefyll yr etholiad. Diau y byddai ganddo gyfle gwych i fynd i mewn, ond trwy bleidlais y gwrth-Gymry a phobl ddiddrwg ddidda yr âi'. Dyna hefyd farn D. J. Williams ar y sefyllfa a phawb arall y bu'n siarad â hwy. Gellid eu galw y 'Royal Welsh Standbacks'. Byddai pawb a fu o'i blaid ar hyd ei oes yn ei erbyn, petai hynny o ryw bwys iddo. Un o bethau godidocaf W. J. Gruffydd oedd ei araith yn lle Lloyd George yn Eisteddfod Caerdydd yn 1938. Sut y gall fod yn gyson â'r hyn a ddywedodd yno. Y mae'r llythyr y dyfynnodd W. J. Gruffydd ohono yn gelwyddog wrth gyhuddo'r Blaid Genedlaethol o ladd y Gymraeg ar aelwydydd Arfon. Os yw'n credu'r fath lythyrau nid oes ryfedd ei fod yn ymgeisio yn erbyn Saunders Lewis a'r Blaid. Nid yw'n bwriadu ateb yr haeriadau eraill a wna yn erbyn y Blaid. Dangoswyd i W. J. Gruffydd fod ganddo gyfle gwych i ddinistrio'r Blaid. Y ffordd hawsaf at y gwaith yw codi'r rhagfarn wrth-Gatholig. Dywed W. J. Gruffydd mai ei gydwybod sy'n peri iddo ddod allan yn erbyn y Blaid. Rhaid angori'r gydwybod wrth egwyddor sylfaenol. Rhaid fod cydwybod W. J. Gruffydd wedi cael mwy nag un droedigaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'n debyg y bydd iddo ennill yr etholiad ond fe wneir hynny ar gôst ddifrifol i Gymru ac ar gôst uchel i enw da a choffa W. J. Gruffydd. Syniad uchel a hoffter D. J. Williams o W. J. Gruffydd sy'n rhoi'r hawl iddo ysgrifennu fel hyn ato. Ni all fyth anghofio caredigrwydd W. J. Gruffydd i'w wraig, Siân, tra fu 'ymhell o dre'.

Canlyniadau 101 i 120 o 982