Showing 246 results

Archival description
Only top-level descriptions Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales file
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Papurau Mrs Morfudd Hughes Ellis, Caernarfon, a'i thad, R. E. Hughes,

  • NLW Misc. Records 521.
  • file
  • 1887-1913.

A small bundle of papers and a few volumes which belonged to the late Mrs. Morfudd Hughes Ellis and her father, R. E. Hughes. They include four essays, 1887-1892, submitted for competition at Salem (C.M.) Chapel, Pwllheli; notebook of the "Blue Ribbon Army" of Engedi (C.M.) Chapel, Caernarfon, 1882, as well as papers read to the literary society at Engedi; a volume containing an index, A-G, of articles contained in Welsh periodicals of the period 1890-1913; notebook of the hospitality committee of the monthly meeting held at Engedi, 12 December 1913; food ration books from the First World War period; hymn-tunes composed by R. E. Hughes; sermon notes etc.

Erthygl ar 'Thomas Jones, Caerfyrddin, Yr Esboniwr' gan Glyn Ashton,

  • NLW Misc. Records 536.
  • file
  • [1980].

Copi holograff o erthygl Dr Glyn Ashton, 'Thomas Jones, Caerfyrddin, Yr Esboniwr (1761-1831)' a gyhoeddwyd yn Y Traethodydd, Ebrill 1980, tt. 97-112. = Holograph copy of article on 'Thomas Jones, Caerfyrddin, Yr Esboniwr (1761-1831)' by Glyn Ashton, published in Y Traethodydd, April 1980, pp. 97-112.

Traethodau gan D. T. Evans, Llandysul,

  • NLW Misc. Records 538-539.
  • file
  • 1921-1923.

Two essays submitted by D. T. Evans, Cross Lane, Croes-lan Llandysul for local eisteddfodau, namely 'Tai Dadfeiliedig Plwyfi Bangor, Llanfair, a Llandysul hyd ochr orllewinol Afon Cerdin' (1921), and 'Diffygion Amaethyddiaeth Sir Aberteifi' (1923). = Dau draethawd a gyflwynwyd gan y diweddar Mr. D. T. Evans, Cross Lane, Croes-lan Llandysul, mewn eisteddfodau lleol, sef 'Tai Dadfeiliedig Plwyfi Bangor, Llanfair, a Llandysul hyd ochr orllewinol Afon Cerdin' (1921), a 'Diffygion Amaethyddiaeth Sir Aberteifi' (1923).

Eitemau yn ymwneud â'r Eglwys Gymraeg, Trafford Street, Farnworth,

  • NLW Misc. Records 551.
  • file
  • 1903-1905 and [1981].

Adroddiad blynyddol (printiedig) Eglwys Gymraeg (M.C.), Trafford Street, Farnworth, 1903; rhestr o enwau aelodau a'u cyfraniadau, 1905; rhestr gyffelyb, d.d.; a chopi llawysgrif, [1981], o anerchiad ar hanes yr eglwys a draddodwyd gan y rhoddwr. = Annual report (printed) of the Welsh Church (C. M.), Trafford Street, Farnworth, 1903; a list of members and their contributions, 1905; a similar list, n.d.; and a manuscript copy, [1981], of an address delivered by the donor on the history of the church.

Ystadegau Cronfa Ad-drefnu Undeb y Bedyddwyr,

  • NLW Misc. Records 556.
  • file
  • 1945.

Ystadegau ynglŷn â gwahanol gylchoedd mewn cyswllt â Chronfa Ad-drefnu Undeb y Bedyddwyr. = Statistics relating to various areas in connection with the Baptist Union Reconstruction Fund.

Deuddeg emyn dôn gan John Harris, Drefach, Llanelli,

  • NLW Misc. Records 561.
  • file
  • 1927-1932.

Deuddeg emyn dôn gan John Harris, glöwr o Drefach, Llanelli, a dreuliodd ei flynyddoedd olaf yn ei gadair gornel yn diodde o fogfa'r glöwr. Mae geiriau'r cyfan ond un gan y rhoddwr, a geiriau'r llall gan y Parch. R. M. Rhys, Drefach. Rhaglenni Cyngerdd y Plant, Gŵyl Ddewi, yng Nghapel Esgairlas, Ffaldybrenin, 1927-1932, trefnydd Daniel Williams, Pantmaen, Cellan, hen ewythr i'r rhoddwr, gyda llythyron ynglŷn â'r cyngherddau at Daniel Williams oddi wrth Ben Davies, 'Glantegwen', B. Morgan, D. Lloyd Morgan a D. T. Owen, 1929-1930, a phenillion gan D. O. Jenkins a 'Glantegwen'. = Twelve hymn tunes by John Harris, a miner from Drefach, Llanelli, who spent his last years confined to his chair by silicosis. The words of eleven of them are by the donor, and the words of the other by the Rev. R. M. Rhys, Drefach. Programmes of St David's Day children's concerts held at Esgairlas Chapel, Ffaldybrenin, 1927-1932, organised by Daniel Williams, Pantmaen, Cellan, an old uncle of the donor, with letters concerning the concerts to Daniel Williams from Ben Davies, 'Glantegwen', B. Morgan, D. Lloyd Morgan and D. T. Owen, 1929-1930, and verses by D. O. Jenkins and 'Glantegwen'.

Hanes marwolaeth Rees Brongwyn Williams,

  • NLW Misc. Records 564.
  • file
  • 1978-1981.

Copi ffotostat o doriad o'r Pacific Tribune (1 Mawrth 1978), sef hanes marwolaeth Rees Brongwyn Williams (1891-1978) o Ilwaco, Pacific County, Washington, ynghyd â nodiadau ar hanes ei deulu a ymfudodd i'r Amerig o ardal Cwmtudu, Ceredigion, yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf. = Photocopy of a cutting from the Pacific Tribune (1 March 1978), concerning the death of Rees Brongwyn Williams (1891-1978) of Ilwaco, Pacific County, Washington, together with notes on the history of his family who emigrated to America from the Cwmtudu area, Ceredigion, during the second half of the last century.

Llyfrau nodiadau'r Parchedig Dan Jones a phapurau David Caronian Jones = : Reverend Dan Jones notebooks and David Caronian Jones papers,

  • NLW ex 1015.
  • file
  • 1868, 1929-1951.

Dau lyfr nodiadau'r Parch. Dan Jones (1888-1943), gweinidog Capel Bwlchgwynt, Tregaron, a ddefnyddiwyd ganddo i gofnodi manylion am gyfarfodydd eglwysig, angladdau a phriodasau, ynghyd â phapurau David Caronian Jones, Medical Hall, Tregaron, cynghorydd ac ymgyrchydd. = Two notebooks of the Reverend Dan Jones (1888-1943), minister of Bwlchgwynt Chapel, Tregaron, used for recording details of church meetings, funeral and weddings, together with the papers of David Caronian Jones, Medical Hall, Tregaron, councillor and campaigner.

Jones, Dan. 1888-

Adysgrifau o ddyddiaduron taith i'r Andes, 1889-97.

  • NLW ex 1775.
  • file

Adysgrif deipysgrif gan Marian Elias Roberts o ddyddiaduron, 1889-1897 â bylchau, William T Williams, Y Gaiman, Chubut, yn disgrifio teithiau ymchwil yng ngodre’r Andes (gweler NLW MSS 23551-8A); ynghyd ag adysgrif o ddau ddyddiadur tebyg (a ddychwelwyd at Fred Green, Chubut) am y cyfnod 8-26 Medi, 16 Hydref-21 Tachwedd 1889, a 27 Tachwedd 1889-4 Chwefror 1890. = A typescript transcript by Marian Elias Roberts of the diaries, in Welsh, 1889-97 with gaps, of William T. Williams, Gaiman, Chubut, Patagonia, describing expeditions to the Andes (now NLW MSS 23551-8A); together with a transcript of two similar diaries (returned to Fred Green, Chubut) for the period 8-26 September, 16 October-21 November 1889, and 27 November 1889-4 February 1890.

Roberts, Marian Elias.

'Cân y caniadau',

  • NLW ex 2130.
  • file
  • [1960] /

Llawysgrif holograff o 'Cân y Caniadau' sef 'trosiad telynegol' gan Cynan a gyflwynodd i Olwen Caradoc Evans ym mis Ebrill 1960.

Cynan, 1895-1970.

Cyfrol o gerddi gan Ioan Anwyl,

  • NLW ex 2277.
  • file
  • 1866-1909.

Cyfrol o gerddi llawysgrif gan Ioan Anwyl (John Anwyl, ?1841-1921), a gyfansoddwyd rhwng 1866 a 1909.

Ioan Anwyl, 1841?-1921.

Results 101 to 120 of 246