Dangos 950 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

R. W[illiams] Parry, Bethesda,

Mae'n anfon soned ['Rhyfeddodau'r Wawr', Y Llenor, cyfrol XVI (1937), t. 69] yn gyfnewid am y ddwy gerdd a ddychwelwyd iddo. Mae ganddo soned arall ond nid yw'n meiddio ei chyhoeddi rhag ofn iddo gael ei ddiswyddo. ['Y Dieithryn', Y Llenor, cyfrol XVI (1937), t. 129]. Saunders Lewis yw ei thestun. Esbonio rhai pwyntiau yngl?n â 'Rhyfeddodau'r Wawr'. Awgrymir pedwar fersiwn o'r llinell 'Rhyfeddaf oll ...' (ll. 9).

R. W[illiams] Parry, Bethesda,

Y mae wedi edifaru anfon soned 'Y Dieithryn' at W. J. Gruffydd [ar hyn gweler Prys Morgan, 'Manylder Cyfewin R. Williams Parry', Y Genhinen, cyfrol XXII (1972), tt. 31-3]. Mae ei wraig o'i chof am iddo bostio'r soned heb ddweud wrthi. Dywedodd [T. H. Parry-Williams] wrtho pan ofynnodd R. Williams Parry iddo a gai ei ddiswyddo o ganlyniad i gyhoeddi'r soned: 'Ma'n dibynnu'n hollol oes arnyn' nhw isio esgus i dy sacio ai peidio'. Y mae [Thomas Parry] yn gefnogol iddo gyhoeddi'r soned, fodd bynnag. Y mae wedi ailfeddwl, er hynny, gan nad yw ei sefyllfa yng Ngholeg Bangor yn un sicr iawn. Mae'n gofyn felly i W. J. Gruffydd beidio â chyhoeddi'r 'Dieithryn' dim ond 'Rhyfeddodau'r Wawr' a honno dan y ffugenw 'Brynfardd'. Mae'r coleg yn ei gyhuddo o gael inferiority complex ond ar yr un pryd ânt allan o'u ffordd i wneud iddo deimlo'n inferior. Yr enghraifft ddiweddaraf oedd Ifor [Williams] yn cynnig [Thomas Parry] am le ar y Bwrdd Celtaidd ac yntau'n gwybod mai dyna'r unig bwyllgor y buasai R. Williams Parry yn hoffi bod arno. Petasai'n ddyn sengl buasai wedi rhoi'r gorau i'w swydd yn 1929. Bwriada gyhoeddi soned 'Y Dieithryn' yn ei gyfrol, efallai, yn 1944, bydd yn drigain oed y pryd hwnnw. Teitl y gyfrol fydd 'Cerddi Myfyrdod a Phensiyndod'.

R. W[illiams] Parry, Bethesda,

Mae'n anfon soned - ystori fer yn null O. Henry [sef 'Angau ar y Ffridd', Y Llenor cyfrol XVII (1938), t. 69]. Y mae'n esbonio rhai pwyntiau yn y soned yn fanwl.

R. W[illiams] Parry, Bethesda,

Mae'n anfon fersiwn arall o'r soned, ond nid ei fai ef yw hynny. Pan ddangosodd ef i'w fam-yng-nghyfraith ac i Emrys Williams o'r Felinheli nid oeddynt yn ei deall. Camarweiniol oedd y gair 'cyw' a chenedl 'y bychan'. Gwnaeth fân newidiadau a newidiwyd y teitl i 'Angau ar y Ffridd' - mae ganddo wrthwynebiad cryf i'w galw 'Y Fronwen' neu 'Y Wenci'.

R. W[illiams] P[arry], Bethesda,

Mae mewn penbleth eto yngl?n â soned arall. Mae'n amgau dau gopi eto. Nid oes gwahaniaeth rhyngddynt, dim ond bod atodiad i'r ail. Roedd J. O. Williams ac Idris Foster yn edrych y naill mor syn â'i gilydd ar ôl darllen i'r diwedd. 'Pa obeith yssyd i'r glêr?' Nid yw'n awyddus i atodi y tair llinell berthnasol o'r gerdd Saesneg o dan y pennawd fel mae cofianwyr Cymreig yn sodro dyfyniad o Carlyle neu Arnold uwch pob pennod.

E. M[yfanwy] Parry, Bethesda,

Gofyn i W. J. Gruffydd wneud un cywiriad bach arall pan ddaw'r proflenni sef rhoi 'y' o flaen 'Siluriad' yn lle 'ryw'. Mae ar R. Williams Parry ormod o gywilydd anfon ato. Cerdyn post.

R. W[illiams] P[arry], Bethesda,

Cred iddo gael hwyl dda ar y soned y mae'n ei hamgau. Os nad yw i weld golau-dydd yn rhifyn y Gwanwyn o'r Llenor, yna fe hoffai ei chael yn ôl i'w rhoi i rai o hogiau'r Blaid yng Ngholeg Bangor sydd wedi gofyn am gyfraniad i'w cylchgrawn rhyfel Yr Her. Siawns na bydd y rhyfel drosodd erbyn Llenor yr Haf, cred Mussolini y bydd. Dic, ei frawd-yng-nghyfraith sy'n byw yn yr hen gartref yn Nhalysarn sy'n gyfrifol am y soned. Y mae'n holwr cwestiynau di-baid. Peidiodd â rhoi'r holiadau yn eu ffurf uniongyrchol rhag peri effaith staccato i'r gwaith. [Cyfeiriad at 'Taw, Socrates', Cerddi'r Gaeaf, t. 77].

Tom Parry, Bangor,

Llythyr yngl?n â beirniadaeth y bryddest yn Aberpennar. Mae 'Cynan' am anfon y tair pryddest sydd ag un copi yn unig ohonynt at W. J. Gruffydd - ni raid poeni amdanynt, y maent yn perthyn i'r trydydd dosbarth. Rhestrir yr ymgeiswyr sydd yn yr ail ddosbarth o'r dosbarth cyntaf. Cred Cynan a Tom Parry mai 'Blodau'r Grug' yw'r gorau, mae'n denau mewn mannau ond nid yw'n cynnwys athronyddu gwag fel rhai ohonynt. Mae rhywbeth diffuant yn ei symledd. Rhyfedd iddo beidio â sôn am Frwydr Mynydd Carn a charchariad Gruffydd ap Cynan yng Nghaer. Mae ei waith yn fwy o gyfres o faledi telynegol nag o bryddest. Hoffai wybod os yw W. J. Gruffydd yn gytûn yngl?n â phryddest 'Blodau'r Grug'. A yw hi'n ddigon da i'w choroni? Buasai'n dda medru dyfarnu'r Goron gan fod ym mryd y BBC 'wneud tipyn o firi o'r peth ar y radio'.

I[orwerth] C. P[eate], Caerdydd,

Mae'n amgau copi o lythyr a ymddangosodd yn Y Tyst y diwrnod hwnnw. Dylai W. J. Gruffydd ateb y Parch. Trebor Lloyd Evans gan ei fod yn wr digon pwysig i lu mawr o bobl wrando arno a'i gredu.

Iorwerth C. Peate, Caerdydd,

Mae'n diolch i W. J. Gruffydd am y cyfan a wnaeth drosto yn ystod y tri mis blaenorol. Y diwrnod cynt fe ysgrifennodd at chwaer W. J. Gruffydd i ddiolch iddi hi am ei llythyr gan ddweud mai W. J. Gruffydd fel arfer oedd ei gyfaill gorau yn yr helynt hwn. Mae ganddo bentwr o lythyrau i'w hateb bu wrthi'n ddygn drwy'r dydd. Mae'r wlad i gyd yn cymryd diddordeb yn yr achos. Gwahoddiad i alw, mae'r pryd o gig moch yn ei aros o hyd. Gofyn iddo a fyddai'n llywyddu darlith ar ddiwylliant gwerin yn un o gapeli'r ddinas - neu hwyrach y byddai'n ormod o 'stunt' ar ôl yr hyn sydd wedi digwydd. Dylai dderbyn dyfarniad y Cyngor cyn 11 Tachwedd.

I[orwerth] C. P[eate], Caerdydd,

Cafodd gais gan J. W. Jones, Blaenau Ffestiniog, yn gofyn am ddeg copi o ddarlith W. J. Gruffydd ar 'Islwyn'. Dywed mai Alexander Smith yw'r bardd a ddyfynnir ar glawr Caniadau 'Islwyn' a bod mwy o ddylanwad hwnnw na neb arall ar waith 'Islwyn'.

J. D. Powell, Caerfyrddin,

Mae'n ymddiheuro am y dryswch sydd wedi codi yngl?n â'r detholion o lythyrau'r Morrisiaid. Bu'n chwilio drwy'r ty amdanynt ac y mae am holi awdurdodau'r post yn eu cylch.

J. D. Powell, Porthcawl,

Dywedodd Swyddfa'r Post yn derfynol fod y llythyr yn cynnwys detholiad o waith y Morrisiaid wedi ei golli. Nid oes dim amdani ond ailddechrau ar y gwaith. Mae wrthi yn ceisio trefnu Cwrs Rhydychen am eleni. Gwahodd W. J. Gruffydd i roi dwy ddarlith ar lenyddiaeth gyfoes Lloegr yn ystod y cwrs. Mae T .J. Morgan wedi cytuno darlithio ar rai o elfennau barddoniaeth Gymraeg. Y mae J. D. Powell wedi cael ei ddyrchafu'n H.M.I. llawn.

Canlyniadau 101 i 120 o 950