Showing 556 results

Archival description
series Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Y Bwrdd Gwybodau Celtaidd

Mae'r gyfres yn cynnwys deunydd amrywiol, [1950 x 1999], yn ymwneud yn bennaf â chyhoeddi Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 1971-1972, dan olygyddiaeth yr Athro Thomas Jones.

University of Wales. Board of Celtic Studies.

Darlithoedd ac anerchiadau

Mae'r gyfres yn cynnwys darlithoedd amrywiol, [1930 x 1999], gan yr Athro J. E. Caerwyn Williams ac, o bosib, gan yr Athro J. Lloyd-Jones; ynghyd â rhai anerchiadau a phregethau.

Lloyd-Jones, J. (John), 1885-1956

Llythyrau gohebwyr cyson,

Llythyrau, [1940]-1989, oddi wrth ohebwyr cyson sef Gwynfor Evans, R. Tudur Jones, Clem C. Linnenberg a Geoffrey Nuttall. Ceir nifer fawr o lythyrau oddi wrth y pedwar hyn hefyd o fewn cyfres PD1.

Colegau Coffa,

Papurau'n ymwneud â'r cyfnod y bu'n Athro a Phrifathro yng Ngholeg Coffa Aberhonddu, 1950-1959, ac yn Brifathro yng Ngholeg Coffa Abertawe, 1959-1981.

Rhyddiaith,

Gwaith llenyddol, [1944]-[1993], gan gynnwys nifer fawr o sgriptiau, sgyrsiau, cerddi ac adolygiadau.

Adeilad ac eiddo,

Llawysgrifau gyda manylion adeiladu'r capel a chynlluniau o welliannau i'r capel ac ar gyfer Mans newydd, 1837x[1908], ynghyd â phapurau'n ymwneud â'r capel a'r tŷ capel, 1999-2004.

Traethawd MA

Papurau'n ymwneud â llunio traethawd Erfyl Fychan 'The Wayside Entertainer in Wales in the Nineteenth Century' (Lerpwl, 1939), gan gynnwys 'Gwerslyfr y delyn Deir-res' gan Ellis Roberts ('Eos Meirion'), 1858.

'Telynor Cymru'

Llyfr 'testimonials' John Roberts ('Telynor Cymru'), 1853-1887, gydag adysgrif Erfyl Fychan, ynghyd â thorion o'r wasg yn ymwneud â'i fab Ernest Roberts.

Deunydd amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau'n ymwneud â Chapel Bethel, Aberhonddu, 1854-[c.1945], a Chapel Horeb, Pum-hewl, Llanelli, [1910]-[1939], ynghyd â phapurau amrywiol yn ymwneud ag Undeb y Bedyddwyr, Undeb Bedyddwyr Ieuanc Cymru, Seren y Plant a Seren yr Ysgol Sul, 1922-1954.

Llythyrau at David Bowen

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau at David Bowen, 1890-1955, sy'n ymwneud yn bennaf â'i waith fel awdur colofn papur newydd, a golygydd cylchgronau amrywiol a chyhoeddiadau o waith Ben Bowen.

Results 101 to 120 of 556