Showing 113 results

Archival description
Papurau Pennar Davies, file
Print preview View:

Rhaglenni cyngherddau,

Rhaglenni cyngherddau clasurol a dramâu a fynychodd yn ystod ei gyfnod yn yr Unol Daleithiau, 1937-1938, ac eitemau printiedig eraill.

Traethodau,

Nifer o draethodau a ysgrifennodd fel myfyriwr yn y Brifysgol, 1936-1938, gan gynnwys 'Henry Vaughan and the Welsh mind'; 'Puritan and Cavalier sentiment in the broadside ballads';'The theory of satire in the age of Dryden'; 'Donne as apoet of love'; 'Specimens of the English translations of the Bible up to the authorized version'; 'Fiction in the Bible: Judith, Tobit and Esther' ; a 'Burton’s prose style'. Nododd ei fod yn fyfyriwr yn y ‘Graduate School’ ar y mwyafrif ohonynt.

Traethawd BLitt,

Traethawd 'John Bale and his dramatic works' - 'Life and work' (cyfrol 1) a 'Works' (cyfrol 2). [Cyhoeddwyd ei lyfryddiaeth A Bibliography of John Bale yn Transactions of the Oxford Bibliographical Society yn 1940].

Papurau amrywiol,

Papurau, [1933]-[1936], yn ymwneud â'i gyfnod yn y coleg, gan gynnwys Rules and other information respecting members of Balliol College (1933), a llythyrau at ei rieni, 1934-1935.

Dyddiadur,

Dyddiadur poced yn cyfeirio at ei fywyd diwylliannol yn Rhydychen, 1934-1935.

Graddio,

Taflen ei seremoni graddio yn BA gydag Anrhydedd yn y Dosbarth Cyntaf mewn Lladin, 1932, ynghyd â rhestri o'r rhai fu'n llwyddiannus yn arholiadau Prifysgol Cymru, 1932-1934.

Cofiant Pennar Davies,

Papurau ymchwil Densil Morgan, [1999]-[2001], gan gynnwys llungopïau o ysgrif goffa i Pennar Davies, The Times, 1997, a chyfraniadau Pennar Davies i'r Mansfield College Magazine ac adolygiadau ganddo ac o'i weithiau yntau, ynghyd ag atgofion J. Gwyn Griffiths ar gyfer y gyfrol.

Griffiths, John Gwyn.

Papurau amrywiol,

Papurau amrywiol, printiedig, teipysgrif a nodiadau mewn llawysgrif, [1928]-[?1992], gan gynnwys llyfrau nodiadau, deunydd printiedig am hanes Aberpennar, 1953-5, a chofnodion cyfarfodydd blynyddol cangen Abertawe o CCJ [Council of Christians and Jews], 1966-7, ynghyd â thoriad o ysgrif Rosemarie Wolff [Davies] ar 'Martin Niemholler', Seren Cymru, 17 Ionawr 1941.

Gwrthwynebydd cydwybodol,

Papurau, 1940, yn ymwneud â'i gais i gofrestru fel gwrthwynebydd cydwybodol yn erbyn gwasanaeth milwrol, ynghyd â deunydd a dderbyniodd oddi wrth CBCO (Central Board for Conscientious Objectors), 1942-1954.

Results 101 to 113 of 113