Showing 132 results

Archival description
Papurau Iorwerth C. Peate, file
Print preview View:

Llythyrau amrywiol: 1924-1974

Llythyrau amrywiol, 1924-1974, gan gynnwys rhai oddi wrth Huw T. Edwards (4); Ralph Edwards (3); T. I. Ellis (2); Sigurd Erixon (2); Beriah Gwynfe Evans (6); D. Emrys Evans (2); D. Tecwyn Evans (4); E. Lewis Evans (18); George Eyre Evans; Gwynfor Evans (2); Ifor Leslie Evans (5); a Robert Evans.

T. Gwynn Jones

Llythyrau a chardiau post (amryw ohonynt yn lungopïau), 1928-1942, gan T. Gwynn Jones at Iorwerth Peate. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys llungopïau o lythyrau, 1915-1939 (gyda bylchau), oddi wrth T. Gwynn Jones at John Davies; llungopi o lythyr, 1903, ganddo i Silyn; copïau printiedig o'r gerdd 'In Memoriam. (Richard Ellis, 1928.)', ac erthygl ganddo 'Th. M. Chotzen. Rechérches sur la Poésie de Dafydd ab Gwilym . . .', 1928; a llythyr, 1971, gan Derwyn Jones at Iorwerth Peate yn amgau adysgrif o epigramau T. Gwynn Jones a'i gywydd i Silyn ar achlysur ei briodas.

Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949

Rhwng dau fyd

Llythyrau, 1976-1977, yn ymwneud â'r gyfrol Rhwng dau fyd. Darn o hunangofiant (Dinbych, 1976), gan gynnwys rhai oddi wrth David Jenkins; a Kate Roberts; ynghyd ag adolygiadau o'r llyfr.

Jenkins, David, 1912-2002.

Barddoniaeth

Llawysgrifau a theipysgrifau, 1911-[1982], o gerddi a ymddengys i gyd i fod yn waith Iorwerth Peate, yn eu plith pryddestau ar gyfer eisteddfodau, a theipysgrif Cerddi diweddar (Dinbych, 1982). Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys cyfieithiadau Saesneg o gerddi Iorwerth Peate gan Leonard Owen.

Owen, Leonard

Erthyglau, adolygiadau a llythyrau i'r wasg

Teipysgrifau, copïau printiedig a llawysgrif, 1921-[1980], o erthyglau, adolygiadau a llythyrau i'r wasg gan Iorwerth Peate, yn cynnwys torion a gohebiaeth, 1942-1948, yn ymwneud â'i golofn yn Y Cymro, 'Cymru Heddiw' gan 'Gwerinwr'. Ymhlith y testunau ceir trafodaethau am yr iaith Gymraeg, hanes Cymru, diwylliant gwerin, y celfyddydau, llenyddiaeth, addysg, diwinyddiaeth, ac unigolion, yn cynnwys teyrngedau i Melville Richards, O. T. Jones, Åke Campbell, Calum Maclean, H. J. Fleure, a George M. Ll. Davies. Mae'n bosib fod rhai ohonynt yn anerchiadau neu sgyrsiau radio.

Amrywiol

Teipysgrif, [1920x1945], o'r sgript 'Y Berllan Geirios. Comedi mewn pedair act'. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys torion, 1928, adolygiadau Y cawg aur a cherddi eraill (Llundain, 1928); torion, 1931, adolygiadau Cymru a'i phobl (Caerdydd, 1931); toriad, 1933, o adolygiad Plu'r gweunydd (Lerpwl, 1933); dau lythyr, 1942, a thoriad, [1943], yn cynnwys sylwadau am Diwylliant gwerin Cymru (Lerpwl, 1942); toriad, [1957], o adolygiad Canu chwarter canrif (Dinbych, 1957); toriad, 1962, o adolygiad Dyfodol ein llenyddiaeth (Llandybïe, 1962); a dau lythyr, 1969, yn ymwneud â Syniadau (Llandysul, 1969).

Staff: amrywiol

Papurau amrywiol, 1928-1976, sef llythyrau swyddogol yn bennaf, gydag amryw ohonynt gan Iorwerth Peate, ynglŷn â materion cyffredinol yn ymwneud â staff Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn cynnwys 'Conditions of Appointment for Keepers', 'Welsh-speaking members on the National Museum of Wales staff', a theipysgrif yn trafod dwy-ieithrwydd yn Amgueddfa Werin Cymru. Yn eu plith mae cais Ffransis G. Payne ar gyfer swydd Cynorthwy-ydd yn yr Adran Ddiwylliant Gwerin a Diwydiannau yn yr Amgueddfa Genedlaethol, ac atgofion R. Albert Jones ar achlysur ei ymddeoliad o'r Amgueddfa Werin, 1976.

Jones, R. Albert

Cadeiriau

Papurau, 1938-1939, yn ymwneud â chadeiriau, yn cynnwys teipysgrifau 'The chair', a'r ddarlith 'Some Welsh Light on the Evolution of the Chair'; llungopïau o enghreifftiau o gadair yn llawysgrif Peniarth 28; a theipysgrif o ddarn o lythyr gan yr Athro Ifor Williams yn trafod y pwnc.

Coryglau

Gohebiaeth, 1938, rhwng Iorwerth Peate a F. C. Llewellyn, Cenarth, ynglŷn â'i gyfraniad i raglen radio am 'Y Coryglwr'; a thoriad o'r Tyst, 1933, 'Hen alwedigaeth yr afon. Y cwrwgl a physgotwyr Dwylan Tywi'.

Llewellyn, F. C.

Gefeiliau cŵn (Dog tongs)

Adysgrif, [1930x1940], o'r rhestr gefeiliau cŵn a gyhoeddwyd yn The Relinquary, 1897, ynghyd â chopi printiedig o ddarlith W. E. T. Morgan, 'Dog doors in churches and dog tongs', a gyhoeddwyd yn 1931. Yn ogystal, ceir nodiadau teipysgrif, [1930x1940], 'Tread-mill churns worked by dogs', sef adroddiadau o'r Liverpool Courier, 1901.

Gwahanglwyf

Llythyrau a thorion o'r wasg, 1974, yn eu plith rhai oddi wrth George C. Boon (2); O. A. W. Dilke; a Don R. Brothwell. Yn ogystal ceir erthygl gan Iorwerth Peate, 'The antiquity of leprosy in Wales', ynghyd â llungopïau o ddwy erthygl arall ar y testun.

Boon, George C.

Gwlân

Deunydd printiedig, 1909, 1937 a 1940, yn ymwneud â'r diwydiant wlân, yn cynnwys H. Ling Roth, Hand Woolcombing (1909); ac E. Kilburn Scott, 'The Shrinking of Woollens' (1937).

Cyngor Rhyngwladol Amgueddfeydd, 1957

Copi teipysgrif o ddatganiad a rhestr aelodau cynhadledd Cyngor Rhyngwladol Amgueddfeydd (International Council of Museums), 'Reunion de L'icom sur les problemes des Musees de Plein Air', Copenhagen-Stockholm, 1957; ynghyd â nodiadau gan Iorwerth Peate.

Gweisg preifat

Papurau printiedig, 1928-1962, sef prosbectysau, 1929-1940, ar gyfer llyfrau i'w cyhoeddi gan Wasg Gregynog yn bennaf. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys prosbectws yn disgrifio amcanion a rhaglen y Tintern Press, ynghyd â llythyr gan Vincent Graham Stuart, 1935; prosbectws ar gyfer llyfrau i'w cyhoeddi gan y Raven Press, 1931; a phrintiau amrywiol.

Stuart, Vincent Graham.

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, 1826, [?1843] a [1899]-[1982], sy'n adlewyrchu diddordebau Iorwerth Peate yn bennaf. Crynhowyd hwy gan Iorwerth Peate ac o bosib gan aelodau eraill o'r teulu. Yn eu plith ceir rhestr o lyfrau gan Samuel Roberts Llanbryn-mair; torion o'r wasg, yn cynnwys llythyrau at Olygydd Y Dydd, 1930, gan Bob Owen ac eraill ynglŷn â 'Mary Jones a'r Beibl'; adroddiad The Fellowship of Reconciliation, 1953-1954; papurau yn ymwneud â'r International Society for Folk-narrative Research a'r Encyclopädie des Märchens, 1972-1973; teipysgrif erthygl, gyda lluniau, am bensaernïaeth wledig yn Ffrainc; ffotograff a thorion o'r wasg, 1911, ynglŷn ag anrhegu Dr Edwards, Llanbrynmair; trefn gwasanaeth angladdol Frank Price Jones, 1975; nodiadau pregeth yn llaw John Elias, 1826; a chopi o'r gyfrol Gwaith Aristotle, yr enwog philosophydd ... (Llanrwst, [1843?]), o lyfrgell Iorwerth Peate.

Owen, Bob, 1885-1962

Dyddiadur : 1875

Dau ddyddiadur, 1875, sef Dyddiadur yr Annibynwyr a Blackwood's Shilling Scribbling Diary. Mae rhai tudalennau ar goll o'r un gyntaf.

Results 101 to 120 of 132