Showing 361 results
Archival description- B27.
- File
- 1947.
Part of Papurau Gwenallt
Dalen olaf deipiedig rhaglen ar fywyd a gwaith Idwal Jones gan Gwenallt, dyddiedig 10 Tachwedd [19]47. [Am y rhaglen gyfan, gweler B 28].
- C8.
- File
- 1951.
Part of Papurau Gwenallt
Copi teipiedig [anghyflawn], 6 ff., o anerchiad 'Neges Dewi Sant' a draddododd Gwenallt mewn gwasanaeth crefyddol dan nawdd Merched Plaid Cymru, Aberystwyth, 1 Mawrth 1951. Ceir copi o raglen y gwasanaeth ynghlwm wrth yr anerchiad.
- CH2.
- File
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 50 ff. yn cynnwys nodiadau ar gymdeithasau'r Cymmrodorion, y Cymreigyddion a'r Gwyneddigion, ff. 1-6, a Goronwy Owen, ff. 7-12, 21-34, 37-50, ynghyd â nodiadau o lawysgrifau amrywiol. Ceir enw John Vincent Williams, Trefenter ar y clawr cefn. [gweler hefyd CH 101].
- CH19.
- File
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 20 ff. yn cynnwys nodiadau [darlithiau] ar J. J. Williams a'i awdl 'Y Lloer', ff. 1-2; ar gyfieithiad o'r nofel La Terre Qui Meurt [gan Rene Bazin], ff. 3-6; ar awdlau 'Yr Arwr' - Hedd Wyn, 'Yr Amaethwr' - Geraint Bowen, 'Y Glowr' - Gwilym R. Tilsley, a 'Madog' - T. Gwynn Jones, ff. 7-15. Ar f. 15 ceir pennill pedair llinell i'r 'Gwanwyn' [gan ?] wedi ei ddyddio Mawrth 18 1916, a rhwng ff. 15-25, ceir nodiadau [darlith] ar hanes Orpheus gan gymharu cerdd Fyrsil 'The Georgies', awdl William Morris 'Orpheus', a gwaith Rainer Maria Rilke.
- CH20.
- File
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 24 ff. yn cynnwys nodiadau wedi eu cymryd o lyfrau a chylchgronau yn ymwneud â hanes Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn bennaf.
- CH31.
- File
- 1934.
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 70 ff. yn cynnwys copi drafft hwy [gweler CH 30, a 32-3] o ragymadrodd Gwenallt i'w gyfrol Yr Areithiau Pros (Caerdydd, 1934).
- CH36.
- File
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 15 ff. yn dwyn enw Nel Gwenallt, ond a ddefnyddiwyd gan Gwenallt i nodi teitlau cyfrolau a cherddi gan feirdd Ceredigion, hanes rhai beirdd, alawon gwerin a hanes lleol.
- CH39.
- File
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau ysgol Gwenallt [26 ff., ond 10 ff. a ddefnyddiwyd] yn cynnwys enghreifftiau o linellau cynganeddol beirdd y 18g. a'r 19g.
- CH41.
- File
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 68 ff. yn cynnwys dwy act o ddrama 'Y Dyfroedd Mawr', ff, 127, sy'n cyflwyno hanes dychmygol Dafydd William yn cyfansoddi'r emyn "Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau". [rhif 556 yn Y Llawlyfr Moliant Newydd]. Ar y clawr blaen a f. 1 ceir dalen yn cynnwys cyfeiriadau rhai personau, ynghyd â chyfeiriadau ffynonellol.
- CH51.
- File
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 62 ff. o gyfnod ysgol yn cynnwys geirfa Saesneg, ff. 1-30; nodiadau ynglyn â chrefydd [ar gyfer pregeth?], ff. 30-3; dywediadau, penillion a nodiadau Cymraeg a Saesneg ar wleidyddiaeth, rhyfel a chrefydd, clawr cefn - f. 33.
- CH55.
- File
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 100 ff. yn dwyn enw L. A. Jones, yn cynnwys ymarferion mewn gramadeg Eidaleg, ff. 1-8. Ar y clawr blaen ceir cerdyn cais gwag am sampl o 'Ovaltine' â'r llinell "a golau'r lloer yn crynu yn y don" ar y cefn [yn llaw Gwenallt].
- CH59.
- File
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr 36 ff., yn cynnwys nodiadau [darlithiau] ar ddylanwad llenyddiaeth Almaeneg ar lenyddiaeth Saesneg, ff. 1-25, ac ar Lewis Edwards, ff. 25-36 [gweler CH 50].
- CH73.
- File
Part of Papurau Gwenallt
Llyfr nodiadau 68 ff. yn cynnwys nodiadau ar lenyddiaeth Gymraeg y 19g. yn bennaf, wedi eu cymryd o lyfrau, cylchgronau a llawysgrifau, ynghyd â rhai nodiadau ar lenyddiaeth Saesneg.
- CH90.
- File
Part of Papurau Gwenallt
Bwndel o nodiadau, cyfeiriadau a dyfyniadau, 105 ff., wedi eu cymryd o lyfrau, cylchgronau a llawysgrifau Cymraeg a Saesneg yn ymdrin â barddoniaeth y 19g. a llenyddiaeth yn gyffredinol. [gweler hefyd CH 120].