Showing 2204 results

Archival description
Papurau Carneddog File
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Robert Henry Jones,

R1 Conokas, Alberta, Canada. Llythyr yn archebu copïau o Gerddi Eryri. Ceir hefyd ychydig sôn am ei gysylltiadau teuluol yng Nghymru (a dau ddarn o lythyr).

Robert Evan Jones,

14 Columbus Street, Granville, N.Y. Llythyr yn diolch am y copi o Cerddi Eryri a gafodd fel anrheg gan Carneddog a sut y bu raid iddo werthu hwnnw hefyd. Ceir sôn am ambell gymeriad, sefyllfa'r Gymraeg yn yr Unol Daleithiau, a'i deulu.

Robert Evan Jones,

14 Columbus Street, Granville, N.Y. Llythyr gyda'r arian yn ddyledus am y cyfrolau yn amgaeedig. Hanes sut y gwerthodd ei gopi ef ei hun.

Robert Evan Jones,

14 Columbus Street, Granville, N.Y. Llythyr yn cydnabod derbyn y llyfrau ac yn trafod eu pris.

Robert Evan Jones,

14 Columbus Street, Granville, N.Y. Sôn am ei dad ac archeb arall, un William Jones, am y gyfrol Cerddi Eryri.

Robert Evan Jones,

14 Columbus Street, Granville, N.Y. Sôn am ei dad a chystadlu mewn eisteddfodau fel Cynanfardd. Rhestr o archebion am Cerddi Eryri.

Robert Evan Jones,

14 Columbus Street, Granville, N.Y. Llythyr yn archebu copi o Hen Gerddi Sir Gaernarfon ac yn sôn am ei gysylltiadau teuluol yng Nghymru.

[Robert] a Janet Jones,

Cerniog Bach, Nefyn. Sôn am ei iechyd ef a Janet, ei wraig. Sôn am John Davies, 'Doctor Dail'. Wedi darllen Rolant y Teiliwr gan J. Owen gan sôn hefyd am rai o ddisgynyddion yr awdur.

[Robert Jones],

Cerniog Bach, Nefyn. Ychydig o hanes Ellis Wyn Edwards, yr argraffydd a'i deulu (diwedd yn eisiau).

Robert a Janet Jones,

Cerniog Bach, Nefyn. Diolch am gopi O Greigiau'r Grug. Egluro ei berthynas i Owain Lleyn a hanes ei deulu. Sôn am ei iechyd a'i fferm. Bwriadu cystadlu yng nghyfarfod llenyddol ei gapel gydag englyn i'r 'Gath'. Gofyn enw awdur englyn arall.

Robert Jones,

Graig Villa, Mills Row, Blaenau Ffestiniog. Diolch am anfon beibl ei ewythr ato a sôn am gyfarfod misol.

Results 101 to 120 of 2204