Showing 567 results

Archival description
series
Print preview View:

Papurau Gwyneth Lloyd,

Llythyrau oddi wrth Tecwyn Lloyd ati, papurau'n ymwneud â'r gyfrol yn coffáu D. Tecwyn Lloyd (Bro a Bywyd) a theyrngedau iddo, [1968]-1998.

Lloyd, Gwyneth, d.2005.

Llythyrau

Llythyrau at Norah Isaac oddi wrth Saunders Lewis, 1953-[1979], llythyrau oddi wrth hoelion wyth yr Eisteddfod Genedlaethol, a llythyrau pan y'i gwnaed yn Gymrawd o'r sefydliad hwnnw yn 1988.

Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Papurau, [1936]-1970, yn deillio'n bennaf o'r cyfnod pan oedd Norah Isaac yn Brifathrawes Yr Ysgol Gymraeg, Aberystwyth, 1939-1949, gan gynnwys rhai'n ymwneud â'r gwersi a gweithgareddau allgyrsiol.

Ysgol Gymraeg Aberystwyth (Aberystwyth, Wales)

Papurau eraill

Papurau amrywiol, 1886-2003, yn ymwneud â gyrfa a diddordebau Norah Isaac. Ceir enghreifftiau o gerddi a ysgrifennwyd ganddi ac amdani; papurau a grynhowyd ganddi; a phapurau yn ymwneud â'i chyfnod fel darlithydd yn Y Barri; ynghyd â thaflen ei hangladd.

Llythyrau oddi wrth gyfeillion a llenorion

Llythyrau, 1911-1969, a anfonwyd at D. J. Williams, gan gynnwys ffeiliau unigol ar gyfer cyfeillion agos ato fel Saunders Lewis, Kate Roberts a Lewis Valentine, a ffrindiau oedd yn filwyr adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Ceir llythyrau o gefnogaeth adeg achos Penyberth a llythyrau'n trafod materion gwleidyddol megis ei waith gyda Phlaid Cymru. Mae nifer yn mynegi gwerthfawrogiad o'i waith fel llenor a llawer yn ymwneud â'i weithgareddau fel siaradwr gwadd a darlithydd poblogaidd. Yn fynych ceir drafft o ateb D. J. Williams.

Dyddiaduron

Dyddiaduron, 1923-1966, gan gynnwys un yn cofnodi ei daith i Lydaw yng nghwmni Ambrose Bebb yn [1924], a 'Dyddiadur dyn anonest', 1941-1951. Trafodir y Blaid, ei waith llenyddol, ei weithgareddau cyhoeddus, ei iechyd, a'i ymwelwyr ac maent yn tueddu i fod yn llawnach yn ystod degawd olaf ei fywyd. Defnyddiodd y dyddiaduron i gofnodi cyfeiriadau yn fynych iawn.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970

Papurau teuluol

Papurau'n ymwneud â theulu D. J. Williams yn ei fro enedigol yn ardal Rhydcymerau gan gynnwys Beibl y teulu a phapurau'n ymwneud â thenantiaid Penrhiw ac Abernant, 1808-[1967].

Torion o'r wasg

Torion o'r wasg, [1912]-1969, yn cynnwys erthyglau ganddo neu amdano, gan gynnwys rhai o'r County Echo (yn arbennig 'Our Readers' Views') a'r Western Telegraph gan mwyaf yn ymwneud â phynciau fel gwleidyddiaeth yn lleol a chenedlaethol; addysg Gymraeg; cenedlaetholdeb; newyddion Abergwaun; ynghyd â llawer iawn o lythyrau at olygyddion papurau newydd oddi wrth D. J. Williams. Nodwyd y cynnwys a'r ffynhonnell ar yr amlenni yn fynych iawn ganddo.

Papurau wedi'u crynhoi

Papurau, 1810-1969, gan gynnwys drafft yn llaw Waldo Williams o'i awdl 'Tŷ Ddewi' y dyfarnwyd iddi'r ail wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936, a cherddi eraill o'i waith; drama gan E. Eynon Evans; a sgript anterliwt gan W. R. Evans.

Gweithiau anghyhoeddedig

Ysgrifau ac erthyglau nas cyhoeddwyd a sgriptiau o'i waith a ddarlledwyd ar y radio, [1921]-[1954]. Cyhoeddwyd rhai o'r storïau hyn a ddarlledwyd, fodd bynnag, yn ddiweddarach, yn ei gyfrolau o storïau byrion.

Llythyrau

Llythyrau, 1903-1982, a anfonwyd at Iorwerth Peate. Maent yn cynnwys llythyrau personol, rhai yn ymwneud â'i fywyd proffesiynol a diwylliant gwerin, llenyddiaeth, a'i ddiddordebau eraill, megis yr iaith Gymraeg. Yn eu plith ceir ambell lythyr, neu ddrafft o lythyr, gan Iorwerth Peate.

Papurau llenyddol

Llythyrau ac adolygiadau yn bennaf, ynghyd â theipysgrifau, llawysgrifau, a phapurau perthnasol, 1911-1983, yn ymwneud â gweithiau llenyddol Iorwerth Peate. Yn ogystal, mae'r gyfres yn cynnwys anerchiadau, darlithoedd a sgyrsiau radio ganddo, [1930]-1970 (gyda bylchau).

Results 81 to 100 of 567