Showing 188 results

Archival description
Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Print preview View:

Cynigion staffio

Gohebiaeth a phapurau yn trafod y staffio, lleoliad, a chefnogaeth ariannol arfaethedig y Ganolfan, 1970, 1974, a 1984, yn cynnwys agenda a chofnodion cyfarfod y Corff Llywodraethol (1984); cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwaith (1983); memoranda (1984); copi o ddatganiad gan R. Geraint Gruffydd (1970); a llythyrau (1974; 1984) oddi wrth Peter Swinnerton-Dyer; Gareth Owen; Russell Davies; Charles Thomas; R. Geraint Gruffydd; T.A. Owen; Emrys Wynn Jones; Bobi Jones; Elwyn Davies; Olwen Daniel; a J. E. Caerwyn Williams.

Llythyrau at ac oddi wrth y Cofrestrydd

Gohebiaeth, 1985-1990, y rhan fwyaf yn cynnwys llythyrau at ac oddi wrth y Cofrestrydd, Prifysgol Cymru, yn trafod anrhydeddau staff, cyflog, materion staffio, a gweithgareddau’r Ganolfan, yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; M.A.R. Kemp; Emrys Wynn Jones; Delyth Prys; Sheila Seekings-Foster; yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos; Bedwyr Lewis Jones; Ronnell B. Townsend; I. Moelwyn Hughes; Peter Swinnerton-Dyer; ac N.T. Hardyman. Yn ogystal, ceir papurau cysylltiedig, yn cynnwys copi o’r adroddiad ‘Planning for the Late 1980s: University of Wales Registry’ (1985); a memoranda (1985-1990).

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Ionawr 1986; agenda a chofnodion cyfarfod, Medi 1986; nodiadau’r Cadeirydd, Medi 1986; adroddiad i’r Pwyllgor, Medi 1986; copi o amcanion y Ganolfan (1984-1985); amcangyfrifon ariannol 1985-1986 i 1989-1990 (1985); a chopi o’r adroddiad blynyddol, 1985-1986 (1986). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1985-1986), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gareth Wyn Evans; R. Geraint Gruffydd; J. A. Cannon; Ieuan Gwynedd Jones; Hywel Wyn Jones; ac M. A. R. Kemp.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod, Medi 1986; agenda, nodiadau’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod, Ebrill 1987; ac amcangyfrifon ariannol y Ganolfan 1986-1991 (1986). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1987-1988), yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; John D. Phillips; Jenefer Lowe; M.A.R. Kemp; a Brynley F. Roberts.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Agenda, nodiadau’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Medi 1994, yn cynnwys adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1993-1994 (1994), ac adroddiad ariannol (1994); a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1994), oddi wrth J. Beverley Smith; K. Rees; J. D. Pritchard; Lionel Madden; Geraint H. Jenkins; a Gareth Wyn Evans.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Agenda, Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Chwefror 1999; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1998-1999 (1999); cofnodion cyfarfod, Medi 1998; ac agenda a Chyfarwyddyd i’r Cadeirydd, Hydref 1999; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1997-1998 (1998); adroddiad ariannol y Ganolfan, 1998-1999 (1999); copi o gylchlythyr y Ganolfan, rhif 2 (1999); a phoster cynhadledd ‘Cymru a’r Cymry 2000’ (1999). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1998-1999), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ruth ab Ieuan; Geraint H. Jenkins; Branwen Jarvis; Keith Robbins; M. Wynn Thomas; Derec Llwyd Morgan; a John Andrews.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Mai 2002; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2001-2002 (2002), ac adroddiad ariannol, 2001-2002 (2002); ac agenda a chofnodion cyfarfod, Hydref 2002. Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2002), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ruth ab Ieuan; Geraint H. Jenkins; R. Brinley Jones; Nia Davies; Mary-Ann Constantine; Nicola Williams; Rhys Huws; Penny Dransart; a Peter Lloyd.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 2004; amcangyfrifon ariannol, 2004-2005 i 2008-2009 (2004); agenda’r Pwyllgor a’r Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd, Mai 2005; copi o’r Adolygiad o Rolau, Swyddogaethau a Strwythur Prifysgol Cymru a’i Pherthynas â’r Sefydliadau yn y Dyfodol (2005); cofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Ymarferiad Asesu Ymchwil (2005); a llythyrau (2005) oddi wrth Vera Bowen.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Mai 2005; Chyfarwyddyd i’r Cadeirydd ac agenda, Medi 2005; copi o gylchlythyr y Ganolfan (Rhif 8, Haf 2005); adroddiad blynyddol y Ganolfan 2004-2005 (2005); adroddiad ariannol 2004-2005 (2005); ffurflenni enwebiad y Ddarlith Goffa J.E. Caerwyn Williams, (2005); a chopi o’r Adolygiad o Rolau, Swyddogaethau a Strwythur Prifysgol Cymru (2005). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2005), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Vera Bowen; Sioned Morgan; Geraint H. Jenkins; Richard Bullen; Gruffydd Aled Williams; Andrew Green; a Marion Löffler.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Medi 2005; amcangyfrifon ariannol, 2005-2006 i 2009-2010 (2005); agenda a Chyfarwyddyd i’r Cadeirydd, Mai 2006; cofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Ymarferiad Asesu Ymchwil 2007-2008 (2006); cofnodion cyfarfod Penaethiaid Prosiectau (2005); a nodiadau ar gofnodion cyfarfod amrywiol Pwyllgor Rheoli, 2004-2006 ([2006]). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2006), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Vera Bowen; Julie Taylor; Linda Tiller; a Rhys Huws.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 2006; amcangyfrifon ariannol, 2006-2007 i 2010-2011 (2006); agenda’r Pwyllgor Rheoli a’r Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd, Mai 2007; a chofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Ymarferiad Asesu Ymchwil (2007). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2007), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Vera Bowen; Jill Mustard; Ian Broadbridge; Lynn Williams; Ann Parry Owen; Brynley F. Roberts; Dafydd Johnston; Gareth A. Bevan; Aled Gruffydd Jones; Sara Lee Branch; Paul O’Leary; Robert Rhys; Alun Daniel; Ken Emond; Jenny Childs; a llythyr grŵp oddi wrth Jane Cartwright, Marged Haycock, Dafydd Johnston, Peredur Lynch, Patrick Sims-Williams, Gerwyn Wiliams, a Gruffydd Aled Williams.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod ac agenda Corff Llywodraethol y Ganolfan; memoranda; cofnodion cyfarfod Uwch Gynrychiolwyr y Ganolfan; adroddiad ariannol 1983-1984; manylion am cais y Ganolfan i’r Pwyllgor Grantiau Prifysgolion; a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol, oddi wrth Russell Davies; J. E. Caerwyn Williams; Emrys Wynn Jones; Dafydd Bowen; a Peter Swinnerton-Dyer.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Gohebiaeth a phapurau'r Cydbwyllgor Cynllunio ac Adnoddau Prifysgol Cymru, yn cynnwys cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor, agendâu, ac Adroddiad y Trysorydd, 1993; Cynllun Strategol y Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, 1993-1994 i 1997-1998 (1993); adroddiad interim Adolygiad y Flwyddyn Academaidd (‘Flowers Report’), 1993; Adroddiad Pwyllgor Gwasanaethau Canolog Prifysgol Cymru, 1993; Cofnodion cyfarfod y Cronlyn Syniadau ar Gyfer Hybu’r Gymraeg, Prifysgol Cymru, 1993; a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol, (1992-1993), yn cynnwys llythyrau oddi wrth David Allen; John Andrews; M. A .R. Kemp; Sir John Meurig Thomas; D. Gruffydd Jones; Gwyn Thomas; M. J. Bruton; a T. D. Roderick.

Results 81 to 100 of 188