Showing 150 results

Archival description
Papurau'r Athro Griffith John Williams
Print preview View:

Personalia

Papurau personol amrywiol, gan gynnwys tystysgrif ac adroddiadau ysgol, 1904-1909; tystysgrif gradd a thyslythyrau'n ymwneud â'i gyrfa, 1914-1922; dyddiadur mis mêl, 1922, a rhestr anrhegion priodas; llyfr llofnodion, 1907-1910; llyfrau ysgrifennu (3) yn cynnwys 'Pert-ddywediadau hen gymeriadau yn ardal Ffestiniog a'r cylch', a ysgrifenwyd ar gyfer Eisteddfod Dydd Gŵyl Dewi, o bosibl gan Elizabeth Williams pan yn yr ysgol; a chardiau coffa, taflenni angladdol a thorion papur yn ymwneud ag aelodau'r teulu.

Undeb Cymru Fydd

Cofnodion, gohebiaeth a phapurau amrywiol, 1942-1945, perthynol i Undeb Cymru Fydd, a chysylltiad Elizabeth Williams â'r Undeb. Yn eu plith ceir nodiadau a darlith ar yr Undeb yn llaw G. J. Williams. Ceir hefyd ychydig bapurau, 1957 ac 1963, yn ymwneud ag ymgyrchoedd Cwm Tryweryn a Chlywedog; gohebiaeth, 1967-1969, yn ymwneud â chyflwr capel Bethesda'r Fro; llythyrau, 1972-1974, at Elizabeth Williams yn ymwneud â Chymdeithas Tai Gwynedd; a llyfr ysgrifennu, 1931-1935, yn cynnwys 'Adroddiad o waith Merched Gwaelod-y-Garth yn ystod diweithdra y tri-degau', yn cwiltio, nyddu, gweu, etc.

Llythyrau R-S

Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae T. Ifor Rees (7), Prosser Rhys, Keidrych Rhys, Brinley Richards, Melville Richards (2), Tom Richards (10), Gomer M. Roberts (5), Kate Roberts (6), Eurys Rowlands (6), R. J. Rowlands ('Meuryn', 3), T. Shankland (2), Alf Sommerfelt.

Llythyrau V-Y

Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae Lewis Valentine (cerdyn Nadolig), Morgan Watkin (4), Harri Webb (2), A. H. Williams (3), D. J. Williams, Abergwaun (16), David Williams (9), Ifor Williams (10), Iolo A. Williams (18, a'i deulu (3), ac un oddi wrth G. J. Williams, 1962, at Elinor Williams), J. E. Caerwyn Williams, J. Lloyd Williams, Morris Williams (2), Stephen J. Williams (4).

Dyddiaduron

Dyddiaduron poced, 1920, 1923, 1925, 1930, 1932, 1934, 1936, 1939, 1939-1940, 1943, 1952, 1956, 1957, 1958, 1959, 1961, yn cynnwys ychydig iawn o gofnodion, ac yn ymwneud yn bennaf â chofnodi dyddiad ac amser darlithoedd a chyfarfodydd pwyllgorau, etc.; ynghyd â llyfr nodiadau yn cynnwys cofnodion manwl am y cyfnod 26 Gorffennaf hyd 2 Awst 1920.

Pasport

Pasport, ffotograffau, cerdyn adnabod a thrwydded yrru G. J. Williams; ynghyd â phapurau'n ymwneud â'i ymweliad â Rhufain, 1938, a Milan, 1947.

Ceisiadau am swyddi

Papurau'n ymwneud â gyrfa G. J. Williams, gan gynnwys ceisiadau am swyddi a thystlythyrau, 1914-1927, 1946; ynghyd â chopi o gais Saunders Lewis am swydd yng Ngholeg Rhydychen, 1947.

Plaid Cymru

Darlithoedd a phapurau'n ymwneud â hanes Plaid Cymru, 1924-1967, gan gynnwys cofnodion cyfarfod cyntaf y Blaid yn ne Cymru, 1924; papurau'n ymwneud â gyrfa Saunders Lewis yn sgîl llosgi'r Ysgol Fomio, 1936-1943; cofnodion cangen Dinas Caerdydd o Blaid Cymru, 1932-1936; a deunydd printiedig amrywiol, 1926-1965.

Llyfr nodiadau

Llyfr nodiadau yn cynnwys calendr printiedig mewn Ffrangeg am y flwyddyn 1823; cyfarwyddiadau llawysgrif ar gymysgu lliwiau paent; a hanes taith o Boulogne i Folkestone, 25 Gorffennaf 1849, y ddau olaf mewn Saesneg.

Gohebiaeth John Jones ('Tegid')

Pum llythyr, 1845-1850, oddi wrth John Jones ('Tegid') at y Parch. R. P. a Mrs Llewelyn, Llangynwyd, gan amgau dau lythyr at yr Archaiologia Cambrensis; ac un llythyr, 10 Mehefin 1846, oddi wrth y Parch. R. P. Llewelyn at 'Tegid'.

'The Literary Tradition of the the Vale of Glamorgan'

Llawysgrifau darlithoedd Saesneg ar draddodiad llenyddol Morgannwg, 'The Literary Tradition of the the Vale of Glamorgan', 'Some Aspects of the Literary Tradition of Glamorgan' a 'The Vale of Glamorgan and the Literary Tradition of the Vale'; ynghyd â phroflen erthygl yn dwyn y teitl 'The Welsh Literary Tradition', gyda phwyslais arbennig ar Forgannwg.

Results 81 to 100 of 150