Showing 146 results

Archival description
Papurau Iorwerth C. Peate,
Print preview View:

'Past in the present'

Gohebiaeth, 1965-1967, yn ymwneud â'r gyfrol arfaethedig 'Past in the present' i'w chyhoeddi gan Penguin Books, yn cynnwys llythyrau gan Glyn Daniel (3), a drafftiau o lythyrau gan Iorwerth Peate; ynghyd â chopi o'r cytundeb rhwng yr awdur a'r cyhoeddwyr a ddiddymwyd yn ddiweddarach.

Daniel, Glyn Edmund

Papurau proffesiynol

Papurau, 1928-1976, yn ymwneud â gyrfa Iorwerth Peate yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Werin Cymru. Yn eu plith ceir papurau, 1948, ynglŷn â sefydlu'r Amgueddfa Werin; ceisiadau ar gyfer swydd Curadur i'w olynu, 1970; a gohebiaeth, 1942, yn ymwneud â'r gwahoddiad i Iorwerth Peate roi anerchiad yn ystod agoriad Arddangosfa Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi.

National Museum of Wales

Swyddi Iorwerth Peate

Llythyrau yn bennaf, 1947-1948, yn ymwneud â chais Iorwerth Peate am swydd Cyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ynghyd â sylwadau yn y wasg ynglŷn â'r hysbyseb am y swydd a'r apwyntiad, ffurflen gais Iorwerth Peate a llyfryddiaeth o'i gyhoeddiadau. Yn ogystal ceir papurau, 1948, yn trafod cynllun i wahanu'r amgueddfa werin oddi wrth yr Amgueddfa Genedlaethol, a phenodiad Iorwerth Peate yn Geidwad Amgueddfa Werin Cymru; a gweinyddiaeth yr Amgueddfa Werin, 1952-1953. Ceir llythyrau gan Cyril Fox (13); Idris Bell; Thomas Jones; T. K. Penniman; Goronwy O. Roberts (6); Thomas Parry (2); Stephen J. Williams; Huw T. Edwards (3); William Rees; a D. Jacob Davies. -- Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau yn ymwneud â chynllun pensiwn a chyflog Iorwerth Peate, 1930, 1934 a 1941-1943; llythyrau, 1932-1933 a 1937, yn ymdrin â safiad gwleidyddol Iorwerth Peate, yn eu plith sylwadau Cyril Fox ar ei gyfweliad ar gyfer swydd Cyfarwyddwr yn yr Amgueddfa Genedlaethol; a thorion o'r wasg, 1937, yn trafod helynt Eisteddfod Machynlleth pan ymddiswyddodd Iorwerth Peate ynghyd â rhai o'r beirniaid eraill.

Bell, H. Idris (Harold Idris), Sir, b. 1879

Pynciau ymchwil

Papurau, 1909-1981, nodiadau ymchwil a gohebiaeth yn bennaf, yn ymdrin â phynciau penodol ac a gasglwyd ynghyd gan Iorwerth Peate. Maent yn cynnwys ymchwil ar gyfer, ac ymatebion i, erthyglau a darllediadau radio ganddo.

Caseg fedi

Nodiadau bras ar ardaloedd lle ceid enghreifftiau o'r Gaseg Fedi, Y Wrach, Torri'r Gwddf, a Thorri pen y fedel; llythyrau, 1929, yn dilyn cais Iorwerth Peate am wybodaeth yn y wasg, yn cynnwys geiriau a thôn 'Can y wrach'; ynghyd â thorion papur newydd perthnasol, 1929 a 1933.

Clociau

Llythyrau yn bennaf, 1962-1981, ynglŷn â gwneuthurwyr clociau, nifer ohonynt yn cyfeirio at waith Iorwerth Peate, Clock and Watch Makers in Wales (Caerdydd, 1945). Yn eu plith ceir rhai lluniau o glociau; nodiadau teipysgrif megis 'The nomenclature of sundials', 'Llandovery town clock' a 'Llandovery clockmakers'; a chopi printiedig o'r penillion, 'Myfyrdod ar y cloc yn taro'. Yn ogystal, ceir llythyrau, 1943 (fwyaf) a 1945, yn ymwneud â John Tibbot yn bennaf a Samuel Roberts, yn cynnwys rhai oddi wrth W. Ambrose Bebb; Robert Evans (3); R. T. Jenkins; E. D. Jones (3); Bob Owen; a J. B. Willans.

Bebb, W. Ambrose (William Ambrose), 1894-1955

Erthyglau

Torion o'r wasg yn bennaf, 1923-1978, sef erthyglau am, neu sy'n cyfeirio at, Iorwerth Peate a'i waith.

Maes-y-coed

Papurau, gohebiaeth yn bennaf, 1969-1982, yn ymwneud â chartref Iorwerth Peate, sef Maes-y-coed, St Nicholas, sir Forgannwg, yn eu plith dogfennau yn gwrthwynebu datblygiadau cynllunio yn yr ardal.

Plaid Genedlaethol Cymru : Cangen Caerdydd

Llyfr cofnodion Cangen Caerdydd a'r Cylch o Blaid Genedlaethol Cymru, 1930-1934, gyda rhestr aelodau yng nghefn y gyfrol. Ffurfiwyd y Gangen yn 1930, a bu Iorwerth Peate yn Is-lywydd, a Nansi Peate yn Ysgrifennydd yn 1932.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Papurau teuluol

Papurau yn ymwneud â, ac a grynhowyd gan, aelodau o deulu Iorwerth Peate, 1847-1983, sef ei daid David Peate, ei frawd yntau Morris Peat, George H. Peate, Nansi Peate a Dafydd Peate. Ymhlith y papurau ceir dyddiaduron, llyfrau nodiadau a llythyrau.

David Peate

Papurau yn ymwneud â David Peate yn bennaf, 1848-1901 a 1949, gan gynnwys rhediad helaeth o'i ddyddiaduron, 1848-1895, ynghyd â chyfrifon, llyfr nodiadau, llythyrau ato, a chyfrol yn ymwneud â Chapel Llanbrynmair. -- Mae'r dyddiaduron cynharaf yn cofnodi pregethwyr a'u testunau ar y Sul, a nifer o enedigaethau, priodasau a marwolaethau lleol. Ceir mwy o fanylion am waith David Peate a lle bu'n gweithio ar ôl 1856. Yn ogystal, ceir cyfeiriadau at ei deulu, newyddion lleol, a chyfrifon.

Peate, David, 1831-1896.

Dyddiadur : 1880

Dyddiadur yr Annibynwyr a T. J. & J. Smith's Commercial Scribbling Diary, 1880.

Peate, George H. (George Howard), 1869-1938

Results 81 to 100 of 146