Dangos 132 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Iorwerth C. Peate, ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Plaid Genedlaethol Cymru : Cangen Caerdydd

Llyfr cofnodion Cangen Caerdydd a'r Cylch o Blaid Genedlaethol Cymru, 1930-1934, gyda rhestr aelodau yng nghefn y gyfrol. Ffurfiwyd y Gangen yn 1930, a bu Iorwerth Peate yn Is-lywydd, a Nansi Peate yn Ysgrifennydd yn 1932.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Personalia

Papurau personol amrywiol, 1915-1961, yn cynnwys tystysgrifau Iorwerth Peate, 1915-1956; tystlythyrau iddo, 1925-1926; gwahoddiad i fynychu cyfarfod Prifysgol Genedlaethol Iwerddon i dderbyn gradd D. Litt. Celt. er anrhydedd, 1960, ynghyd â thorion o'r wasg; a phenillion ar achlysur cinio anrhegu Iorwerth Peate.

Erthyglau

Torion o'r wasg yn bennaf, 1923-1978, sef erthyglau am, neu sy'n cyfeirio at, Iorwerth Peate a'i waith.

Llyfrau nodiadau

Llyfrau nodiadau Iorwerth Peate, [1917-1948] (1921-1922 yn bennaf). Ymddengys fod y rhan fwyaf ohonynt wedi'u creu pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, ac maent yn ymwneud â phynciau megis llenyddiaeth Gymraeg, daearyddiaeth, y gyfraith, a hanes. Ceir hefyd llyfr 'Daily Gleanings From the World's Treasures' a gasglwyd ynghyd ganddo, a chyfrol 'Field surveys'. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys papurau arholiad, 1919-1923; a phapurau amrywiol, 1917-1923, yn eu plith llawysgrif o'r bryddest 'Y Briffordd' ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, 1921, a'r soned 'Y diweddar Syr O. M. Edwards', ynghyd â nodiadau ar gyfer dosbarthiadau allanol, 1926-1927.

British Association for the Advancement of Science

Papurau, 1974-1982, yn ymwneud â Phwyllgor Adran H (Anthropoleg) British Association for the Advancement of Science, yn cynnwys cofnodion, rhestri aelodau'r pwyllgor adrannol, a llythyrau gan yr Ysgrifennydd Gwyn I. Meirion-Jones (18). Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys copïau teipysgrif o anerchiad llywyddol Iorwerth Peate, 'The study of folk life and its part in the defence of civilization', 1958.

Meirion-Jones, Gwyn I.

Glamorgan county history

Agenda, cofnodion a phapurau perthnasol, 1972-1982, yn ymwneud â chyfarfodydd Pwyllgor Gwaith Glamorgan County History (The Glamorgan County History Trust Limited yn ddiweddarach).

Cyngor Rhyngwladol Amgueddfeydd, 1957

Copi teipysgrif o ddatganiad a rhestr aelodau cynhadledd Cyngor Rhyngwladol Amgueddfeydd (International Council of Museums), 'Reunion de L'icom sur les problemes des Musees de Plein Air', Copenhagen-Stockholm, 1957; ynghyd â nodiadau gan Iorwerth Peate.

Amryw

Gohebiaeth, torion o'r wasg a nodiadau yn bennaf, 1929-1941 a 1973, yn ymwneud ag amryw o destunau. Yn eu plith mae'r torion 'Llen Gwerin Morgannwg. Marw, angladdau a chladdu', 1929, a 'Clapio a hel wyau'r Pasg', 1931; llythyr, 1934, yn trafod arferion claddu; a sgript ar gyfer sgwrs radio gan Gomer M. Roberts am 'Hen arferion Llandebie', 1937. Yn ogystal, ceir llythyrau, 1929-1931, ynglŷn â llongau; llythyr, 1933, gan Thomas Parry, ynghyd ag adysgrif ganddo o'r gerdd 'Rhybudd i ferched a meibion beidio priodi yn ddi-olud'; teipysgrif 'Lliwio'; torion, 1930, am 'Y Cryman Medi'; catalog yn dangos gwaith D. J. Williams, Gwaith Haearn Brunswick, Caernarfon; a thoriad o deyrnged Bedwyr Lewis Jones i Melville Richards, 1973.

Roberts, Gomer Morgan

Turnio (wood-turning)

Llythyrau, 1925-1928, a anfonwyd at William Rees, Henllan, sir Aberteifi, turniwr coed. Yn ogystal, ceir bwndel o ohebiaeth, 1938, rhwng William Rees ac Iorwerth Peate ynglŷn â chyfraniad William Rees i sgwrs radio am grefft y turniwr coed; ynghyd ag ymateb i'r rhaglen, a cherdyn yn nodi rhestr brisiau cwmni Brodyr Davies, Abercych.

Offerynnau cerdd

Llythyr a nodiadau teipysgrif gan Lyndesay G. Langwill, 1941-1944 a 1952, yn rhestru gwneuthurwyr offerynnau gwynt a phres. Yn ogystal, ceir gohebiaeth a nodiadau, 1963-1965, yn ymwneud â thelynau, yn cynnwys llythyrau gan Joan Rimmer a Peter Thornton, a rhestr 'Telynau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru', [1930x1950].

Langwill, Lyndesay Graham, 1897-

Mari Lwyd

Llythyrau, torion o'r wasg a nodiadau, 1919 (copi o lythyr) a 1930-1939, ynglŷn â thraddodiad y Fari Lwyd. Yn eu plith ceir llythyr gan John Ballinger, a geiriau ar gyfer cân y Fari Lwyd.

Ballinger, John, 1860-1933

Gwlân

Deunydd printiedig, 1909, 1937 a 1940, yn ymwneud â'r diwydiant wlân, yn cynnwys H. Ling Roth, Hand Woolcombing (1909); ac E. Kilburn Scott, 'The Shrinking of Woollens' (1937).

Gwahanglwyf

Llythyrau a thorion o'r wasg, 1974, yn eu plith rhai oddi wrth George C. Boon (2); O. A. W. Dilke; a Don R. Brothwell. Yn ogystal ceir erthygl gan Iorwerth Peate, 'The antiquity of leprosy in Wales', ynghyd â llungopïau o ddwy erthygl arall ar y testun.

Boon, George C.

Gefeiliau cŵn (Dog tongs)

Adysgrif, [1930x1940], o'r rhestr gefeiliau cŵn a gyhoeddwyd yn The Relinquary, 1897, ynghyd â chopi printiedig o ddarlith W. E. T. Morgan, 'Dog doors in churches and dog tongs', a gyhoeddwyd yn 1931. Yn ogystal, ceir nodiadau teipysgrif, [1930x1940], 'Tread-mill churns worked by dogs', sef adroddiadau o'r Liverpool Courier, 1901.

Coryglau

Gohebiaeth, 1938, rhwng Iorwerth Peate a F. C. Llewellyn, Cenarth, ynglŷn â'i gyfraniad i raglen radio am 'Y Coryglwr'; a thoriad o'r Tyst, 1933, 'Hen alwedigaeth yr afon. Y cwrwgl a physgotwyr Dwylan Tywi'.

Llewellyn, F. C.

Caseg fedi

Nodiadau bras ar ardaloedd lle ceid enghreifftiau o'r Gaseg Fedi, Y Wrach, Torri'r Gwddf, a Thorri pen y fedel; llythyrau, 1929, yn dilyn cais Iorwerth Peate am wybodaeth yn y wasg, yn cynnwys geiriau a thôn 'Can y wrach'; ynghyd â thorion papur newydd perthnasol, 1929 a 1933.

Car llusg

Llythyrau, 1936, yn bennaf gan athrawon a disgyblion ysgol yn ardaloedd Aberaeron, Maesteg, Pwllheli, a Chwilog, yn disgrifio ceir neu gartiau llusg a'r defnydd a wnaethpwyd ohonynt, yn dilyn sgwrs radio gan Iorwerth Peate.

Cadeiriau

Papurau, 1938-1939, yn ymwneud â chadeiriau, yn cynnwys teipysgrifau 'The chair', a'r ddarlith 'Some Welsh Light on the Evolution of the Chair'; llungopïau o enghreifftiau o gadair yn llawysgrif Peniarth 28; a theipysgrif o ddarn o lythyr gan yr Athro Ifor Williams yn trafod y pwnc.

Canlyniadau 81 i 100 o 132