Stori fer: ‘Cyfrinach’; stori fer ar gyfer pobl ifanc yn ei harddegau: ‘Perthyn’; ysgrif i ddathlu bywyd unrhyw berson; colofn newyddiadurol yn trafod pwnc llosg; ysgrif naturiaethol addas ar gyfer ei chyhoeddi yn Y Naturiaethwr; sgript gomedi ar gyfer radio (agored); traethawd yn cofnodi enwau lleoedd cysylltiedig ag afon neu ran o afon; darn o ryddiaith: ‘Ffoi’; cystadleuaeth i rai sydd wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith): ‘Dathlu can mlynedd a hanner yn y Wladfa’ ar ffurf traethawd, cyfres o negeseuon e-bost neu flog.
Dilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn: ‘Ffiniau’; casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn: ‘Llwybrau’; englyn unodl union: ‘Darlun’; telyneg: ‘Copa’; cywydd teyrnged 18 llinell; soned: ‘Llidiart’; filanél: ‘Tywyllwch’; casgliad o chwe cherdd, yn addas ar gyfer yr arddegau: agored; a cherdd dddychan: ‘Gwleidydd'.
Pedair cân i gyfeiliant piano i lais isel (Tlws y cerddor ); emyn-dôn i eiriau Tecwyn Owen; cyfansoddiad ar gyfer ensemble jazz neu blues (GNC/1a); darn ar gyfer ensemble taro (3-6 offeryn); darn i ddeuawd offerynnol; darn ar gyfer côr ieuenctid SATB; a chasgliad o ddarnau mewn unrhyw gyfrwng (i ddisgyblion 16 ac o dan 19 oed).
Llunio deg cwestiwn i'w gofyn i berson enwog; darn o ryddiaith: 'Taith'; darn o ryddiaith: 'Noson fawr'; cerdd: 'Y ffin'; darn o ryddiaith: 'Darganfod'; dyddiadur wythnos o brofiad gwaith; casgliad o waith ar unrhyw thema yn cynnwys mwy nag un ffurf o ysgrifennu; deunydd darllen ar gyfer cyfnod allweddol 2; deunydd darllen ar gyfer cyfnod allweddol 3; deunydd darllen ar gyfer cyfnod allweddol 4; a deunydd darllen ar gyfer oedolion lefel 1 neu 2.
Nofel heb ei chyhoeddi (Gwobr Goffa Daniel Owen) a darn neu ddarnau o ryddiaith ar un o'r ffurfiau canlynol: braslun nofel, pennod agoriadol nofel, tair stori fer neu dair ysgrif (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg).
Drama fer agored 30-40 munud o hyd; trosi drama benodol i'r Gymraeg; sgript ar gyfer y teledu; llunio sgript ar gyfer 1 actor/actores 20-30 munud o hyd; a llunio sgript drama 20-30 munud o hyd addas i'w pherfformio gan glwb ieuenctid.
Casgliad o 10 stori ar ffurf llên meicro; cywaith ysgol 4 ochr tudalen A4 (ieuenctid dan 18 oed); nofel i blant tua 7-9 oed gydag anifail anwes yn ganolog i'r stori (Comisiynu); a chyfrol o storïau doniol, cyfoes i oedolion (Comisiynu).
Cyfrol o ryddiaith gyda chysylltiad amaethyddol (y fedal ryddiaith).stori fer neu stori fer dafodieithol: hunanddewisiad; cyfrol o storïau gwreiddiol amser gwely i blant; erthygl hyd at 5,000 o eiriau: 'Mab Darogan'; dyddiadur wythnos newyddiadurwr/wraig; a chasgliad o ddywediadau ffraeth.
Awdl mewn cynghanedd: 'Drysau'; pryddest neu ddilyniant o gerddi: 'Gwreiddiau'; englyn: 'Dolwar Fach'; englyn digri: 'Sws'; cywydd: 'Athro neu athrawes'; telyneg; 'Llygaid'; wyth triban neu wyth pennill telyn: agored; carol plygain; a salm: agored.
Cerdd dant: dau osodiad cyferbyniol; emyn-dôn i eiriau'r Parchedig John Pinion Jones; amrywiadau ar unrhyw garol plygain allan o lyfr Geraint Vaughan Jones ar gyfer y delyn; ensemble offerynnol, addas i'w berfformio yn yr arholiad TGAU; trefniant modern o unrhyw gân werin ar gyfer llais ac unrhyw gyfuniad o offerynnau; cân ar gyfer unrhyw lais mewn arddull sioe gerdd; unawd wreiddiol yn defnyddio un o emynau Ann Griffiths; cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer band pres; Tlws y Cerddor; a dau ddarn cyferbyniol i unrhyw gyfrwng (ieuenctid dan 19 oed).
Cerdd: 'Yr Arwr' (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: 'Colli' (tlws rhyddiaith); sgwrs rhwng dau berson mewn maes awyr; darn o ryddiaith: 'Y penwythnos gorau erioed'; e-bost yn bwcio unrhyw beth neu unrhyw un; adolygiad o lyfr Cymraeg ar gyfer papur bro; sgwrs trydar ar thema agored (gwaith grŵp neu unigol); a chreu cwis cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr ar unrhyw ffurf (agored i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg).