Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

R. W[illiams] Parry, Bethesda,

Anfon gwelliannau i'r soned 'Breuddwyd y Bardd. Y mae 'hen warior wedi ei ddofi' (ll. 11) yn paratoi'r ffordd i'r 'teigar dof' (ll. 14). 'Performing tiger at gynnal ei berchennog yw'r hen goliar'. Hoffai gael printio dwy seren a'r nodiad ar waelod y ddalen rhag i'r darllenwyr fod mewn dryswch fel y digwyddodd y flwyddyn cynt gyda'r gair 'wrn' yn y soned 'Heffrod'.

R. W[illiams] Parry, Bethesda,

Ni wyr ym mhle y mae W. J. Gruffydd - nid yw ym Mhenarth. Condemniodd y dull dialogaidd yn awdl Rowland Hughes. Cyfeirio at linell olaf y soned 'Dyffryn Nantlle Ddoe a Heddiw' er mwyn trafod un cymal ynddi.

Tom Parry, Groeslon,

Diolch am bopeth a wnaeth W. J. Gruffydd drosto tra bu yng Nghaerdydd. Fe'i calonogwyd gan ei ddull 'o gyfuno perffaith ryddid a diddordeb yn [ei] waith'. Mae'n falch o'r tair blynedd a dreuliodd yn y De. Mae'n tynnu at derfyn papurau'r Bwrdd Canol ac wedi dechrau darllen proflenni Peniarth 49.

Tom Parry, Groeslon,

Gofynnodd Edgar Jones iddo ysgrifennu at W. J. Gruffydd ynghylch gwersi radio. Bydd yn falch o unrhyw gyfarwyddyd. Mae'n gofyn os bu i W. J. Gruffydd weld llythyr T. R. [? Thomas Richards] at T. J. M. [T. J. Morgan]. Mae arno gywilydd i'r fath gyfansoddiad gychwyn erioed o Goleg Bangor.

Tom Parry, Bangor,

Y mae ef wedi ymddiswyddo o fod yn feirniad yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth. Roedd hi'n anodd gwneud hynny oherwydd yr oedd cael beirniadu'r awdl yn ei wneud 'yn dipyn o lanc'. Yr oedd wedi digio wrthynt am benodi Caradoc Evans yn feirniad y nofel ond pan soniwyd am [yr Iarll] Londonderry, fe droes ei stumog. Tybia y buasai Gwenallt, Hooson, Lloyd Jones, S. B. Jones ac [E.] Prosser Rhys yn fodlon dilyn eu hesiampl. Nid yw mor sicr am T. G[wynn] J[ones], ond bwriada gael gair â Thomas Richards. Nid yw'n addo ceisio dylanwadu ar Syr J. E. Lloyd. Mae'n ofni bod ysbryd heddychol I[for] W[illiams] braidd yn anodd i'w gyffroi.

Tom Parry, Bangor,

Dyry'r cefndir i'w lythyr blaenorol [rhif 656 uchod]. Cawsai lythyr oddi wrth Breese Davies, Dinas Mawddwy, yn gofyn iddo gydsynio i feirniadu gan fod rhwystr yr Iarll Londonderry wedi ei symud a chan fod pwyllgor nos Wener i ystyried y sefyllfa a'i fod am dderbyn ateb cyn hynny. Gan fod problem yr Iarll wedi ei symud a bod y Pwyllgor mewn digon o anawsterau rhwng popeth cytunodd i dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl. Anfonodd at W. J. Gruffydd a 'Meuryn' yr un pryd. Ateb 'Meuryn' oedd mai'r Pwyllgor a ddylai symud, a dyna ddigwyddodd. Daeth llythyr ar ôl y Pwyllgor yn derbyn yr ymddiswyddiad. Mae'n debyg mai T. G. J[ones] a J. Ll[oyd] J[ones] fydd yn beirniadu'r awdl. Gresyn na buasai'r ddau wedi cael digon o blwc i ymddiswyddo. Dylai ymddiheuro am beidio â dod i wrando ar W. J. Gruffydd yng Nghynhadledd y Blaid. Cychwynnodd yn dalog ond wedi camgymryd amser y trên yr oedd yn 3.15 arno'n cyrraedd Caernarfon.

Ffransis Payne, Caerfyrddin,

Y mae'n wirioneddol ddiolchgar am dysteb a dderbyniodd o law W. J. Gruffydd. Bydd yn anfon erthygl i'r Llenor cyn bo hir. Y mae'n barod ar wahân i rai manylion ac y mae'n mentro dweud rhai pethau newydd yn y manylion hynny. ['John Lewis, Llynwene, Y Llenor, cyfrol XIV (1935), tt. 165-81].

Ffransis Payne, Caerfyrddin,

Bu'n llwyddiannus yn Abertawe. Y mae arno ddyled enfawr i [Iorwerth] Peate, i'r Athro Henry Lewis ac i W. J. Gruffydd. Bwriada geisio bod yn deilwng o'i eirda. Gan na fydd raid iddo bryderu ynghylch angenrheidiau bywyd gall ymroi i wneud tipyn o waith.

Ffransis Payne, Abertawe,

Anfonodd Iorwerth [Peate] dystysgrif W. J. Gruffydd ato ac y mae yn dra diolchgar amdani. Mae'n amgau ysgrif i'r Llenor. Y mae mwy nag un ystyr iddi a hwyrach nad yw'r ystyr amlwg yn ddigon diddorol. Mae'r arddull yn 'or-gynnil ac od' ond nid oes dim ystyr o gwbl ynddi iddo fel arall. ['Plygu Gwrych', Y Llenor, cyfrol XV (1936), tt. 24-9].

Iorwerth C. Peate, Caerdydd,

Mae Iorwerth C. Peate wedi ei gofrestru fel gwrthwynebydd cydwybodol. Mae'n gofyn i W. J. Gruffydd am lythyr i'w gyflwyno i'r tribiwnlys i dystio i'w gredo fel heddychwr.

Iorwerth C. P[eate], Caerdydd,

Cafodd ryddid diamodol gan y tribiwnlys. Gobeithia y caiff lonydd hefyd gan wyr yr Amgueddfa i wneud ei waith. Holodd y Barnwr Frank Davies ai gwyddonydd oedd W. J. Gruffydd.

I[orwerth] C. P[eate], Rhiwbina,

Anfon manylion am ei achos gogyfer â chyfarfod o Gyngor yr Amgueddfa ar 11 Awst. Gofyn i W. J. Gruffydd gael gair â J. F. Rees ac Edgar Jones. Enwi eraill o aelodau'r Cyngor.

I[orwerth] C. P[eate], Caerdydd,

Mae'n amgau copi o'r penderfyniad y bwriada'r Arglwydd Plymouth ei gynnig yng nghyfarfod Cyngor yr Amgueddfa y diwrnod canlynol. Cafodd y copi drwy law Twiston Davies. Rhestrir gwendidau yr ymresymiad. Dylai'r Llys wrthod y trefniant a phasio cynigiad o ddiffyg hyder yn y Cyngor. Clywodd Iorwerth C. Peate am farwolaeth Dr. E. A. Lewis, Aberystwyth. Pe bai modd cael bias tuag at Ddiwylliant Gwerin i'r adran yno, fe fyddai Iorwerth C. Peate yn barod i gynnig am y swydd.

I[orwerth] C. P[eate], Caerdydd,

Canmol darlith W. J. Gruffydd y diwrnod cynt ar 'Islwyn'. Awgrymu gweithiau gan Middleton Murry mewn cysylltiad â'r ystyr a rydd 'Islwyn' i farddoniaeth. Gofyn oni ellid ailystyried cyhoeddi ei Hanes Diwylliant Cymru ar unwaith yn hytrach nag ar ddiwedd y rhyfel gan fod y Wasg wedi cyhoeddi Hanes Economaidd Cymru o waith Ben Bowen Thomas ac ni fyddal cyfrol Iorwerth C. Peate yn fwy na honno.

Iorwerth C. Peate, Caerdydd,

Cafodd wahoddiad gan olygydd Y Cymro i fynd yn gyfrifol am golofn o adolygiadau. Awgrymodd R. T. Jenkins y dylai ymgymryd a'r gwaith ond o dan ffugenw. Gofyn barn W. J. Gruffydd ar y mater. Cwyno bod adolygu bron yn gyfan gwbl yn nwylo aelodau o'r Blaid Genedlaethol. Ymosod ar erthygl Aneirin ap Talfan yn Y Faner yr wythnos honno ac ar bamffledyn gan A. O. H. Jarman.

Iorwerth C. Peate, Caerdydd,

Anfon ysgrif i'r Llenor ['Anghydffurfiaeth a'r Trefi', Y Llenor, cyf. XXIII (1944), tt. 9-16]. Holi hynt ei gais i dderbyn uchafswm ar raddfa'r Ceidwad o'r cyntaf o Ionawr. Clywodd gan Twiston Davies mai o'r cyntaf o Orffennaf y bwriedid ei dalu ar y raddfa newydd. Y mae ar fin colli gwasanaeth Miss Price, ei ysgrifenyddes. Bydd ef ar ben ei hunan wedyn yn ei adran. Y mae tri neu bedwar o staff ar ôl mewn rhai adrannau.

J. D. P[owell], Porthcawl,

Diolch am adroddiad ar waith y dosbarth Cymraeg. Mae'n ei anfon ymlaen at W. J. Williams. Diolch am eiriau caredig W. J. Gruffydd ar Hwnt ac Yma. Nid oes mis yn mynd heibio nad oes ganddo ryw garedigrwydd i ddiolch i W. J. Gruffydd amdano.

Results 961 to 980 of 982