Diolch am ymateb i'w gais yn yr Herald yn gofyn am ysgrif ac am yr ysgrif gampus gan W. J. Gruffydd yn y Western Mail. Tila ac annheilwng oedd ysgrifau T. Gwynn Jones a Henry Lewis. Ni ellid casglu oddi wrth eu sylwadau hwy fod neb o bwys wedi marw. Mae'n wir ddrwg ganddo na phenodwyd W. J. Gruffydd yn Brifathro [yng Nghaerdydd]. Gwnaeth sylwadau ar hynny yn Yr Herald. Cydymdeimlo hefyd ag W. J. Gruffydd ar golli ei dad.
Cododd 'Y Lawlen a Gollais' o'r hen Bapur Pawb am y flwyddyn 1903. Bu'n bwriadu anfon at W. J. Gruffydd yngl?n ag enwau ei ardal enedigol - Aber. Mae dyfaliad John Lloyd Jones yn ei lyfr am ystyr Cytgoed yn dra anghywir. Cwtogiad o 'Cytiau Coed' yw'r enw diweddar hwnnw. Gyferbyn â'r Cytgoed mae Y Ferdroed a gerllaw eto Y Foel Ddiarth. Ar ochr y Foel honno y mae Llwybr Gorllwy. Mae 'Meuryn' yn enw ar le ar fynydd Aber - Meuryn Uchaf a Meuryn Isaf. Awgrymodd Syr John Morris-Jones y gallai mai Mei-fryn sef 'y bryn canol neu ganolig' oedd yr ystyr, a byddai hynny'n ffitio i'r dim. Mae yno gytiau Gwyddelod ac ar dir Hafod Gelyn mae olion hen eglwys. Diolch am y pleser diddiwedd a gaiff o ddarllen nodiadau W. J. Gruffydd yn Y Llenor. Wrth gyfeirio atynt mor aml yn Y Genedl y maent yn cyrraedd dosbarth arall o'r Cymry.
Derbyniodd gopi o ysgrif W. J. Gruffydd ar 'Y Praw' ac felly cyhoeddir yn Yr Herald a'r Genedl. Sylwodd fod W. J. Gruffydd yn ymddiswyddo o feirniadu ym Machynlleth ynghyd â thri arall. Pwy yw'r tri hyn? Cafodd 'Meuryn' wahoddiad i feirniadu'r awdl ym Machynlleth ac er mai dyma'r tro cyntaf iddo gael gwahoddiad y mae'n barod i ymddiswyddo os bydd hynny'n help i ychwanegu at y brotest. Cafodd bleser anhraethol wrth ailddarllen Hen Atgofion.
Mae gan Tom Parry 'awydd mawr i ymddiswyddo'. Bwriada 'Meuryn' ysgrifennu at awdurdodau Eisteddfod Machynlleth y diwrnod canlynol i ymddiswyddo o fod yn feirniad fel bod ymddiswyddiadau dau o feirniaid yr awdl yn cyrraedd yr un diwrnod. Ni chaiff 'Meuryn' gyfle arall ond fe gaiff [Tom Parry] ddigon. Gobeithio y bydd mwy eto yn dilyn arweiniad W. J. Gruffydd.
Pwllheli. Mae'n cofio mynychu'r ysgol yng Nghorwen gydag RDR. Roedd darllen Y Pentref Gwyn wedi ei lenwi â mwynhad a hiraeth. Adrodd hanes RDR yn beirniadu'r englyn mewn cwrdd llenyddol yng Ngwyddelwern.
R1 Conokas, Alberta, Canada. Llythyr yn archebu copïau o Gerddi Eryri. Ceir hefyd ychydig sôn am ei gysylltiadau teuluol yng Nghymru (a dau ddarn o lythyr).