- 1548.
- Ffeil
- 1912.
Rhan oPapurau Gwenith Gwyn,
8579 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol
Rhan oPapurau Gwenith Gwyn,
Rhan oPapurau Carneddog
Graig Villa, Mills Row, Blaenau Ffestiniog. Diolch am anfon beibl ei ewythr ato a sôn am gyfarfod misol.
Rhan oPapurau Carneddog
Cerniog Bach, Nefyn. Ychydig o hanes Ellis Wyn Edwards, yr argraffydd a'i deulu (diwedd yn eisiau).
Rhan oPapurau Bobi Jones
Rhan oPapurau Carneddog
Cae Du, Beddgelert. Trefnu cwrdd â Charneddog i drafod hanes hen deulu.
Robert John Rowlands ('Meuryn'), Caernarfon,
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Diolch am ymateb i'w gais yn yr Herald yn gofyn am ysgrif ac am yr ysgrif gampus gan W. J. Gruffydd yn y Western Mail. Tila ac annheilwng oedd ysgrifau T. Gwynn Jones a Henry Lewis. Ni ellid casglu oddi wrth eu sylwadau hwy fod neb o bwys wedi marw. Mae'n wir ddrwg ganddo na phenodwyd W. J. Gruffydd yn Brifathro [yng Nghaerdydd]. Gwnaeth sylwadau ar hynny yn Yr Herald. Cydymdeimlo hefyd ag W. J. Gruffydd ar golli ei dad.
Robert John Rowlands ('Meuryn'), Caernarfon,
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Cododd 'Y Lawlen a Gollais' o'r hen Bapur Pawb am y flwyddyn 1903. Bu'n bwriadu anfon at W. J. Gruffydd yngl?n ag enwau ei ardal enedigol - Aber. Mae dyfaliad John Lloyd Jones yn ei lyfr am ystyr Cytgoed yn dra anghywir. Cwtogiad o 'Cytiau Coed' yw'r enw diweddar hwnnw. Gyferbyn â'r Cytgoed mae Y Ferdroed a gerllaw eto Y Foel Ddiarth. Ar ochr y Foel honno y mae Llwybr Gorllwy. Mae 'Meuryn' yn enw ar le ar fynydd Aber - Meuryn Uchaf a Meuryn Isaf. Awgrymodd Syr John Morris-Jones y gallai mai Mei-fryn sef 'y bryn canol neu ganolig' oedd yr ystyr, a byddai hynny'n ffitio i'r dim. Mae yno gytiau Gwyddelod ac ar dir Hafod Gelyn mae olion hen eglwys. Diolch am y pleser diddiwedd a gaiff o ddarllen nodiadau W. J. Gruffydd yn Y Llenor. Wrth gyfeirio atynt mor aml yn Y Genedl y maent yn cyrraedd dosbarth arall o'r Cymry.
Robert John Rowlands ('Meuryn'), Caernarfon,
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Derbyniodd gopi o ysgrif W. J. Gruffydd ar 'Y Praw' ac felly cyhoeddir yn Yr Herald a'r Genedl. Sylwodd fod W. J. Gruffydd yn ymddiswyddo o feirniadu ym Machynlleth ynghyd â thri arall. Pwy yw'r tri hyn? Cafodd 'Meuryn' wahoddiad i feirniadu'r awdl ym Machynlleth ac er mai dyma'r tro cyntaf iddo gael gwahoddiad y mae'n barod i ymddiswyddo os bydd hynny'n help i ychwanegu at y brotest. Cafodd bleser anhraethol wrth ailddarllen Hen Atgofion.
Robert John Rowlands ('Meuryn'), Caernarfon,
Rhan oPapurau W. J. Gruffydd
Mae gan Tom Parry 'awydd mawr i ymddiswyddo'. Bwriada 'Meuryn' ysgrifennu at awdurdodau Eisteddfod Machynlleth y diwrnod canlynol i ymddiswyddo o fod yn feirniad fel bod ymddiswyddiadau dau o feirniaid yr awdl yn cyrraedd yr un diwrnod. Ni chaiff 'Meuryn' gyfle arall ond fe gaiff [Tom Parry] ddigon. Gobeithio y bydd mwy eto yn dilyn arweiniad W. J. Gruffydd.
[Robert John Rowlands] 'Meuryn' (1) Caernarfon.
Rhan oPapurau Bobi Jones
Robert John Davies, (Barlwydon), Blaenau Ffestiniog,
Request for return of sender's entries in competitions at Bethesda Congregationalist Eisteddfod. Welsh.
Rhan oPapurau Carneddog
[Llyfrgell] Llanrwst. Archebu copïau o Blodau'r Gynghanedd. (cerdyn post).
Rhan oPapurau Carneddog
63 New Ferry Road, New Ferry. Ymholiad ynglyn â theulu Prichard, Llantysilio. Saesneg/English.
Rhan oPapurau Carneddog
Ynys Pandy, Garn. Wedi derbyn ei lythyr, hoffai ei chwaer gael copi o Cerddi Eryri hefyd.
Rhan oPapurau Anthropos
Pwllheli. Mae'n cofio mynychu'r ysgol yng Nghorwen gydag RDR. Roedd darllen Y Pentref Gwyn wedi ei lenwi â mwynhad a hiraeth. Adrodd hanes RDR yn beirniadu'r englyn mewn cwrdd llenyddol yng Ngwyddelwern.
Rhan oPapurau Carneddog
R1 Conokas, Alberta, Canada. Llythyr yn archebu copïau o Gerddi Eryri. Ceir hefyd ychydig sôn am ei gysylltiadau teuluol yng Nghymru (a dau ddarn o lythyr).
Rhan oPapurau Carneddog
14 Oxford Street, Caeredin. Sôn am ei hunan.
Rhan oPapurau Carneddog
Anfon englynion ar ôl darllen Cerddi Eryri.