Showing 950 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd File
Print preview View:

Iorwerth C. Peate, Caerdydd,

Mae Iorwerth C. Peate wedi ei gofrestru fel gwrthwynebydd cydwybodol. Mae'n gofyn i W. J. Gruffydd am lythyr i'w gyflwyno i'r tribiwnlys i dystio i'w gredo fel heddychwr.

Iorwerth C. P[eate], Caerdydd,

Cafodd ryddid diamodol gan y tribiwnlys. Gobeithia y caiff lonydd hefyd gan wyr yr Amgueddfa i wneud ei waith. Holodd y Barnwr Frank Davies ai gwyddonydd oedd W. J. Gruffydd.

I[orwerth] C. P[eate], Rhiwbina,

Anfon manylion am ei achos gogyfer â chyfarfod o Gyngor yr Amgueddfa ar 11 Awst. Gofyn i W. J. Gruffydd gael gair â J. F. Rees ac Edgar Jones. Enwi eraill o aelodau'r Cyngor.

I[orwerth] C. P[eate], Caerdydd,

Mae'n amgau copi o'r penderfyniad y bwriada'r Arglwydd Plymouth ei gynnig yng nghyfarfod Cyngor yr Amgueddfa y diwrnod canlynol. Cafodd y copi drwy law Twiston Davies. Rhestrir gwendidau yr ymresymiad. Dylai'r Llys wrthod y trefniant a phasio cynigiad o ddiffyg hyder yn y Cyngor. Clywodd Iorwerth C. Peate am farwolaeth Dr. E. A. Lewis, Aberystwyth. Pe bai modd cael bias tuag at Ddiwylliant Gwerin i'r adran yno, fe fyddai Iorwerth C. Peate yn barod i gynnig am y swydd.

I[orwerth] C. P[eate], Caerdydd,

Canmol darlith W. J. Gruffydd y diwrnod cynt ar 'Islwyn'. Awgrymu gweithiau gan Middleton Murry mewn cysylltiad â'r ystyr a rydd 'Islwyn' i farddoniaeth. Gofyn oni ellid ailystyried cyhoeddi ei Hanes Diwylliant Cymru ar unwaith yn hytrach nag ar ddiwedd y rhyfel gan fod y Wasg wedi cyhoeddi Hanes Economaidd Cymru o waith Ben Bowen Thomas ac ni fyddal cyfrol Iorwerth C. Peate yn fwy na honno.

Iorwerth C. Peate, Caerdydd,

Cafodd wahoddiad gan olygydd Y Cymro i fynd yn gyfrifol am golofn o adolygiadau. Awgrymodd R. T. Jenkins y dylai ymgymryd a'r gwaith ond o dan ffugenw. Gofyn barn W. J. Gruffydd ar y mater. Cwyno bod adolygu bron yn gyfan gwbl yn nwylo aelodau o'r Blaid Genedlaethol. Ymosod ar erthygl Aneirin ap Talfan yn Y Faner yr wythnos honno ac ar bamffledyn gan A. O. H. Jarman.

Iorwerth C. Peate, Caerdydd,

Anfon ysgrif i'r Llenor ['Anghydffurfiaeth a'r Trefi', Y Llenor, cyf. XXIII (1944), tt. 9-16]. Holi hynt ei gais i dderbyn uchafswm ar raddfa'r Ceidwad o'r cyntaf o Ionawr. Clywodd gan Twiston Davies mai o'r cyntaf o Orffennaf y bwriedid ei dalu ar y raddfa newydd. Y mae ar fin colli gwasanaeth Miss Price, ei ysgrifenyddes. Bydd ef ar ben ei hunan wedyn yn ei adran. Y mae tri neu bedwar o staff ar ôl mewn rhai adrannau.

J. D. P[owell], Porthcawl,

Diolch am adroddiad ar waith y dosbarth Cymraeg. Mae'n ei anfon ymlaen at W. J. Williams. Diolch am eiriau caredig W. J. Gruffydd ar Hwnt ac Yma. Nid oes mis yn mynd heibio nad oes ganddo ryw garedigrwydd i ddiolch i W. J. Gruffydd amdano.

Muriel [E. Price], Pwllheli,

Ei hymateb a'i siom na chafodd W. J. Gruffydd ei apwyntio [yn brifathro Coleg Caerdydd], er gwaethaf ei gyfraniad enfawr i lenyddiaeth Gymraeg a bywyd Cymru. Bydd yn gallu parhau i fod yn ysbrydiaeth i eraill er hynny.

Muriel [E. Price], Pwllheli,

Mae Sadie am i W. J. Gruffydd gael gwybod ei bod wedi penderfynu ymddiswyddo oherwydd cyflwr bregus ei hiechyd. Daethant i aros i Bwllheli er mwyn i Sadie gael cerdded tipyn ar le gwastad gan fod eu cartref ar lethr a hithau'n dioddef gyda'i chalon.

Results 941 to 950 of 950