Showing 567 results

Archival description
series
Print preview View:

Cofnodion ariannol,

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfr casgliadau, 1910-1966; llyfr cyfraniadau at ail-adeiladu’r capel, 1913-1923; llyfr y gronfa ganolog, 1938-1949; a llyfr cyfraniadau at y genhadaeth a’r eisteddleoedd, 1958-1964.

Papurau barddonol

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau nodiadau o gerddi, emynau a nodiadau, 1862 - [1937], a nifer ohonynt yn cynnwys amgaeëdigion, un yn dyddio i 1964. Mae'r gyfres hefyd yn cynnwys amlen o gerddi yn cynnwys rhai cyfieithiadau o gerddi Robert Herrick, John Donne ac Andrew Marvell, heb eu dyddio, a saith pryddest eisteddfodol, [c. 1889] - [c. 1891].

Hanes

Papurau yn ymwneud â gwahanol feysydd hanesyddol yr oedd y Dr Iorwerth Hughes Jones yn ymddiddori ynddynt, 1823, [1919]-[1972], sef hanes lleol, enwau lleoedd, hanes gwrthrychau, hanes Lady Barham a hanes meddygon a meddyginiaeth. Mae yma gymysgedd o ddeunydd megis llythyrau, nodiadau ymchwil, torion papur newydd, llawysgrifau, llyfrynnau a lluniau.

Celfyddydol

Papurau yn ymwneud â diddordeb Dr Iorwerth Hughes Jones mewn celfyddyd, 1926-1972; llythyrau, darluniau a gwahoddiadau i arddangosfeydd, yn ymwneud â'r arlunwyr Evan Walters a Ceri Richards.

Datganiadau i'r wasg

Mae'r gyfres yn cynnwys datganiadau i'r wasg gan wahanol sefydliadau a chwmnïau, 1986-1992.

Cynnyrch rhifynnau

Mae'r gyfres yn cynnwys y cynnyrch a ddefnyddiwyd i gysodi rhifynnau o'r Faner, yn enwedig rhifynnau o Chwefror 1992 hyd at Ebrill 1992.

Papurau ariannol

Mae'r gyfres hon yn cynnwys llyfrau cyfrifon ynghyd â gohebiaeth ariannol yn ymwneud ag apêl Y Faner, 1988-1992.

Results 61 to 80 of 567