Dangos 982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd
Rhagolwg argraffu Gweld:

[Bob Owen, Croesor], C.P.G.C. Bangor,

Mae'n dosbarthu a chatalogio Adran Gymreig Llyfrgell y Coleg. Oherwydd hynny ni chafodd gyfle i ymchwilio i hanes Absalom Roberts. Cafodd gyfle i edrych ar ffeil o gyfeiriadau, fodd bynnag, ac fe'u rhestrir ganddo.

C. C. Bell, Llundain,

Mae C. C. Bell yn anfon cyfieithiad Saesneg o gerdd W. J. Gruffydd '1914-1918. Yr ieuainc wrth yr hen' [Ynys yr Hud ..., t. 44]. Mae'n gofyn caniatâd i gyhoeddi'r cyfieithiad mewn papur Saesneg. [Fe'i cyhoeddwyd yn y gyfrol H. I. Bell & C. C. Bell, Welsh Poems of the Twentieth Century in English Verse (Wrecsam, 1925), tt. 15-16.] Mae'n credu y byddai yn crisialu'r atgasedd cynyddol tuag at agwedd filitaraidd y Llywodraeth. Dangosodd gopi o'r fersiwn rhyddiaith i Mr Harold Monro, The Poetry Book Shop, ac yr oedd ef wedi ei blesio'n fawr ganddo. Yr oedd ef wedi dyheu i ddweud yn union yr un peth.

C. S. Hughes, Llanbradach,

Mae'n apelio at W. J. Gruffydd ar ran ei fab W. J. G. Hughes a fethodd yr arholiad Cymraeg yn arholiad ymaelodi'r brifysgol. Bachgen di-Gymraeg ydyw ac felly dan anfantais. Mae'n gofyn i W. J. Gruffydd i ailystyried y canlyniad fel y gall y mab ddilyn cwrs mewn meddygaeth os caiff ei arbed yn y rhyfel.

Caleb Rees, Caerdydd,

Awgrym y gallai W. J. Gruffydd fynd i gynrychioli Cymru ymysg y Cymry alltud yn Efrog Newydd, Philadelphia, Pittsburg, Cleveland, etc., i gyflwyno achos Cymru. Y mae'r nofelydd Jack Jones yn bwriadu mynd yno ond nid yw ei Gymraeg ef yn ddigonol i drosglwyddo'r neges i'r Cymry Cymraeg. Copi teipysgrif.

Canton High School For Girls, Caerdydd,

Deiseb gan un ar ddeg o athrawon yr ysgol yn canmol safiad W. J. Gruffydd yngl?n â'r Ddeddf Addysg ac yn gofyn iddo barhau i bwyso ar i athrawon gael defnyddio eu hamser yn gwneud eu priod waith.

'Canwy' [Parch. John Henry Williams], Bangor,

Diolch am Y Llenor ac am nodiadau'r golygydd yn fwy na dim a'r erthygl 'Yr Anianol a'r Ysbrydol' yn arbennig. [Y Llenor, cyf. VIII (1929), tt. 90-9]. Yr oedd yn credu pob gair a ddywedodd er ei fod yn weinidog Methodist. Ei annog i ddal ati i ddweud y gwir. Agorodd gyfarfod misol yn ddiweddar ond nid oedd ei gydweinidogion yn cytuno ag ef o gwbl. Nid oedd wedi darllen araith Peter Hughes Griffiths. Pobl a'u dyddiau gorau wedi mynd heibio sydd yn y gadair fel arfer. Mae rheolwyr crefydd y Methodistiaid Calfinaidd wedi gweld eu dyddiau gorau. Nid oes ganddynt weledigaeth heddiw. Os na ddaw ymwared buan i grefydd y capeli, bydd yn rhwystr i wir wleidyddiaeth a chrefydd. Mae'n drist ganddo weld bechgyn a ddechreuodd fel proffwydi yn troi'n geidwadwyr ac yn ddiwinyddion cul enwadol. Creadur unig yw ef ers blynyddoedd, yn dewis bod felly. Fe'i siomwyd na phenodwyd W. J. Gruffydd yn brifathro.

Caradoc Evans, Aberystwyth,

Diolch am lythyr W. J. Gruffydd. Ef yw un o'r ychydig bobl sy'n darllen gwaith yr awdur a'r unig un sydd â gair da amdano. Y mae W. J. Gruffydd yn nes ati nag unrhyw feirniad llenyddol arall. Gwahoddiad i ymweld ag ef.

Caradog Prichard, Caerdydd,

Diolch i W. J. Gruffydd am ymdrafferthu â'i bryddest. Roedd chwant arno ar y dechrau i ddadlau ag ef yngl?n â'r pwyntiau a godai. Mae'n falch iawn o feirniadaeth sy'n anwybyddu popeth ond y gerdd ei hun ac yn rhoi arweiniad i un 'a fynn ddal gafael yn yr ychydig fiwsig a glywodd mewn llawer o swn crio'.

Caradog Prichard, [Llundain],

Cafodd ei ryddhau o'r Fyddin i gymryd swydd yn India gyda'r M.O.I. Mae'n diolch i W. J. Gruffydd am yr hyn a wnaeth drosto, buasai o leiaf wedi gwneud bywyd yn y Fyddin yn oddefadwy.

Catherine Glynne, Durham,

Mae'n amgau nodyn gyda llythyr ei gwr (rhif 311 isod) er mwyn esbonio ychydig amdano. Fe effeithiwyd yn ddrwg ar ei ysgrifen gan salwch hir a achoswyd gan orweithio a'r clefyd melys. Yr oedd yng ngofal plwyf mawr cyn i'w iechyd dorri. Fe'i hystyrid yn ysgolhaig blaenllaw a thristwch mawr iddi yw'r ffaith na chyhoeddwyd llawer o'i waith. Mae'n dal i weithio wrth ei ddesg a darllen llawer.

Ceinwen H. Thomas, Beaufort,

Roedd yn fwriad ganddi ysgrifennu i ddiolch i W. J. Gruffydd am ei ysbrydoliaeth iddi tra fu yn y Coleg ers amser ac yn awr, wedi darllen rhifyn diweddaraf Y Llenor y mae wedi ennill digon o hyder i wneud hynny. Cafodd les mawr o ddilyn y cwrs Cymraeg, sef dadwneud y drwg a wnaethpwyd yn yr ysgol a'i haddysg Seisnigaidd. Ailgydiodd yn ei balchder o fod yn Gymraes yn ystod ei chyfnod yn y Coleg. Ni all ddiolch digon i W. J. Gruffydd am ei rhyddhau o'r ymdeimlad o israddolder a enynnwyd ynddi yn yr ysgol. Trist ganddi ddeall o'r Llenor fod W. J. Gruffydd yn diffygio wrth y gwaith o fod yn 'llef un yn llefain yn y diffeithwch'. Daeth ei theulu i wybod am W. J. Gruffydd pan fynychai gapel Bethlehem, Gwaelod-y-garth. Dywedodd rhywun o'r pentref hwnnw fod W. J. Gruffydd yn 'un o'r rheiny sydd bob amser o ochor y clwtyn tlawd'. Mae ei rhieni yn drist iawn o ddarllen ei ysgrif ddigalon. Dylai fod yn gysur iddo wybod bod rhai hyd yn oed o'r 'dyrfa fud' yn gweld ei ymdrech drostynt, ac yn ddiolchgar.

Ceinwen H. Thomas, Beaufort,

Diolch am lythyr W. J. Gruffydd yr oedd yn falch o'i dderbyn. Mae'n dysgu yn Ysgol Sir Glyn Ebwy. Cafodd ei phenodi'n athrawes Ladin gydag ychydig Gymraeg a Hanes i'r dosbarthiadau isaf. Cyfaddefodd yn y cyfweliad nad oedd yn cofio fawr iawn o'r tipyn Lladin a ddysgodd yn y Coleg, er hynny fe'i penodwyd. Treuliodd weddill yr haf hwnnw yn dysgu Lladin. Un ferch a astudiai'r pwnc a honno yn dra galluog. Gorchest oedd ceisio cuddio'r anwybodaeth rhagddi. Ar ben hynny cafodd yr ysgol 'full inspection' ond Mr Eric Evans a ddaeth i arolygu Lladin a gwyddai ef amdani o'r Coleg. Erbyn hyn daeth athro Lladin iawn i'r ysgol ac y mae hi yn dysgu mwy o Saesneg yn y safonau isaf. Nid yw'n hoffi bod yno gan fod yr ardal mor arswydus o Seisnigaidd. Hoffai petai wedi cael swydd mewn ardal Gymraeg gan mai mewn ardal lle mae'r Gymraeg ar drai y cafodd ei magu. Hoffai ddysgu Cymraeg i blant sy'n rhugl ynddi. Pan fydd yn cwyno bydd ei mam yn dweud mai'r 'Pren a dyfodd yn y storm sydd gryfaf i ddal rhuthr y gwyntoedd arno, a'i fod yn gallu sefyll mewn tywydd a barai i'r pren a dyfodd yn y diogelwch syrthio i'r llawr'. Gwnaeth ardal Glyn Ebwy iddi deimlo'n debycach i frwynen fach lipa nag i goeden. Mae'r prifathro, er hynny, yn gefnogol iawn i'r Gymraeg. Bydd yn falch ganddi dderbyn gwahoddiad W. J. Gruffydd i ymweld ag ef yn y Coleg pan fydd yng Nghaerdydd.

Ceridwen [Gruffydd], Rhos, Wrecsam,

Mae wedi darllen erthygl olygyddol W. J. Gruffydd yn Y Llenor ac y mae'n cydymdeimlo ag ef am ei fod 'yn torri ei galon am nad oes llawer o arwyddion allanol bod neb yn gwrando arno pan fo'n ceisio dweud y gwir'. I ble yr aeth yr hyder a gafwyd ar ddechrau'r Hen Atgofion? 'Os paid Y Llenor a dweud y gwir pan fo angen, er iddo fod yn gaswir pwy arall a feiddia i'w ddweud?' Cafodd hithau ei diflasu gan agwedd rhai o gynghorwyr y Cyngor Sir yn y Rhos yn gwrthwynebu ei syniadau am ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddysgu plant bach. Ffydd rhai fel W. J. Gruffydd sy'n rhoi hyder i gannoedd o bobl eraill ddi-nod sy'n disgwyl arweiniad. Clywsai iddo fod ym Methel ac awgryma y dylai fynd yno'n amlach. Mae'n gresynu nad oes ganddi hi dy y gallai W. J. Gruffydd 'ddisgyn iddo pan wedi blino ar bawb a phopeth'.

Charles W. Baty, Caer,

Nid wy'n gallu dweud os bu Ellis Wynne yn ddisgybl yn y 'King's School' ai peidio. Mae am ymgynghori â'r dyn sy'n gofalu am gofrestri'r ysgol.

Charles W Baty, Caer,

Yngl?n â'r ymholiad am Ellis Wynne. Nid yw ei enw'n digwydd yng nghofrestri swyddogol yr ysgol ond gallasai fod yn ddisgybl preifat er hynny.

Canlyniadau 61 i 80 o 982