Showing 106 results

Archival description
Papurau'r Parch. W. Rhys Nicholas,
Print preview View:

Cerddi amrywiol, y mwyafrif heb ddyddiad, a gyfansoddwyd ar achlysuron arbennig gan gynnwys englyn i Syr Geraint Evans; 'Cofio Jennie ...,

Cerddi amrywiol, y mwyafrif heb ddyddiad, a gyfansoddwyd ar achlysuron arbennig gan gynnwys englyn i Syr Geraint Evans; 'Cofio Jennie [Eirian Davies]'; 'Cyfarchion i Ysgol Tegryn (ar ei phen-blwydd yn gant oed)'; 'Cywydd: Mawl i Forgannwg Ganol'; 'Cywydd Cyfarch (i'r Dr W. Emrys Evans, wrth iddo ymddeol o fod yn Drysorydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg)'; 'Y Gwladgarwr (Er Cof am D. J. Williams)' a gyhoeddwyd yn ei gyfrol deyrnged; 'Cyfarchion i Brinli - yr Archdderwydd Etholedig'; 'Cyfarchion Pen-blwydd (i 'Ap Llysor' [W. R. P. George] yn 80 oed)'; 'Cywydd Coffa i'r diweddar Athro Stephen J. Williams'; 'Cywydd Croeso i Eisteddfod yr Urdd, Taf Elai', [1985]; 'Cywydd Croeso i Wyl Gerdd Dant Bro Ogwr 1995'; a 'Cywydd Cyfarch i Tegwyn Jones ar ei ymddeoliad', [1996].

Papurau'n ymwneud â chyfansoddwyr 'Hen Wlad fy Nhadau' gan gynnwys llungopi o erthygl WRN "Cwm Rhymni yn 'Hen Wlad fy ...,

Papurau'n ymwneud â chyfansoddwyr 'Hen Wlad fy Nhadau' gan gynnwys llungopi o erthygl WRN "Cwm Rhymni yn 'Hen Wlad fy Nhadau'" [Barn, Gorffennaf/Awst, 1990], a phosteri'r darlithiau 'Evan a James James a'r Anthem Genedlaethol' a draddodwyd ganddo ym Mhorth-cawl, 1989, a 'The Rhymney Valley and the National Anthem of Wales' ym Margoed, 1990.

Papurau amrywiol gan gynnwys sgriptiau ar gyfer 'Trem' neu 'Cywain', 1963 a heb ddyddiad; beirniadaeth anghyflawn John Gwilym Jones ar ...,

Papurau amrywiol gan gynnwys sgriptiau ar gyfer 'Trem' neu 'Cywain', 1963 a heb ddyddiad; beirniadaeth anghyflawn John Gwilym Jones ar y fedal ryddiaith yn [Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1980]; traethawd coleg WRN yn ymdrin â rhesymeg mewn athroniaeth; 'Lleisiau'n Galw', cynllun WRN ar gyfer y Gwasanaeth Cenhadol; erthygl 'Y Busnes Golygu 'ma', Llais Llyfrau, heb ddyddiad; ac ysgrif 'Newyddiaduraeth Gymraeg a phroblemau cyhoeddi', heb ddyddiad.

Papurau'n ymwneud â pharatoi'r gyfrol deyrnged Dr John Hefin Owen, 1927-1989. A man for all people. Teyrnged i'w fywyd a'i ...,

Papurau'n ymwneud â pharatoi'r gyfrol deyrnged Dr John Hefin Owen, 1927-1989. A man for all people. Teyrnged i'w fywyd a'i wasanaeth (Abertawe, 1990), ynghyd â chlawr y llyfr; llungopi o goflyfr ei dad Owen Owen, Muriau Isaf, Trawsfynydd, 1899; a llyfryn Dr John Owen Holiday Trust for Sick Children, yn Ninbych-y-pysgod (1994).

Results 61 to 80 of 106