- A7/2
- file
- [1911x1963]
Mynegai i enwau personol a thestunau mewn llawysgrifau Cymraeg.
Mynegai i enwau personol a thestunau mewn llawysgrifau Cymraeg.
Llyfryddiaeth W. J. Gruffydd yn llaw G. J. Williams, ynghyd â gohebiaeth berthynol, 1935-1936; un dudalen yn cyfeiro'n bennaf at gyhoeddiadau G. J. Williams yn Y Genhinen, 1969-1973; llyfryddiaethau byr unigolion eraill yn nhrefn yr wyddor; a llyfryddiaethau ar bynciau amrywiol. Ceir hefyd ychydig restri yn cynnwys prisiau llyfrau.
Adran Ymchwil i Astudiaethau Cymraeg
Copi llawysgrif o'r memorandwm a luniodd G. J. Williams, [c. 1950], ynglŷn â sefydlu Adran Ymchwil i Astudiaethau Cymraeg. Mae'r memorandwm, a oedd i'w drafod ym Mhwyllgor Iaith a Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd y Brifysgol, yn cynnwys ei weledigaeth o'r modd y dylid hyrwyddo astudiaethau Cymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Ceir hefyd gopi teipysgrif o'r cyfieithiad Saesneg. Cyhoeddwyd y memorandwm yn Aneirin Lewis (gol.), Agweddau ar hanes dysg Gymraeg (Caerdydd, 1985).
Darlithoedd, nodiadau a thorion papur yn ymwneud â hanes Plaid Cymru, gan gynnwys cofnodion cyfarfod cyntaf y Blaid Genedlaethol yn Ne Cymru, a gynhaliwyd ym Mhenarth, 7 Ionawr 1924. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys copi o lythyr, 1967, oddi wrth Elizabeth Williams yn ymwneud â'r cyfarfodydd cyntaf.
Williams, Elisabeth Elen, 1891-1979
Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae T. Ifor Rees (7), Prosser Rhys, Keidrych Rhys, Brinley Richards, Melville Richards (2), Tom Richards (10), Gomer M. Roberts (5), Kate Roberts (6), Eurys Rowlands (6), R. J. Rowlands ('Meuryn', 3), T. Shankland (2), Alf Sommerfelt.
Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae Lewis Valentine (cerdyn Nadolig), Morgan Watkin (4), Harri Webb (2), A. H. Williams (3), D. J. Williams, Abergwaun (16), David Williams (9), Ifor Williams (10), Iolo A. Williams (18, a'i deulu (3), ac un oddi wrth G. J. Williams, 1962, at Elinor Williams), J. E. Caerwyn Williams, J. Lloyd Williams, Morris Williams (2), Stephen J. Williams (4).
Dyddiaduron poced, 1920, 1923, 1925, 1930, 1932, 1934, 1936, 1939, 1939-1940, 1943, 1952, 1956, 1957, 1958, 1959, 1961, yn cynnwys ychydig iawn o gofnodion, ac yn ymwneud yn bennaf â chofnodi dyddiad ac amser darlithoedd a chyfarfodydd pwyllgorau, etc.; ynghyd â llyfr nodiadau yn cynnwys cofnodion manwl am y cyfnod 26 Gorffennaf hyd 2 Awst 1920.
Pasport, ffotograffau, cerdyn adnabod a thrwydded yrru G. J. Williams; ynghyd â phapurau'n ymwneud â'i ymweliad â Rhufain, 1938, a Milan, 1947.
Papurau'n ymwneud â gyrfa G. J. Williams, gan gynnwys ceisiadau am swyddi a thystlythyrau, 1914-1927, 1946; ynghyd â chopi o gais Saunders Lewis am swydd yng Ngholeg Rhydychen, 1947.
Nodiadau pregeth yn llaw G. J. Williams.
Llyfr nodiadau yn cynnwys calendr printiedig mewn Ffrangeg am y flwyddyn 1823; cyfarwyddiadau llawysgrif ar gymysgu lliwiau paent; a hanes taith o Boulogne i Folkestone, 25 Gorffennaf 1849, y ddau olaf mewn Saesneg.
Llyfr nodiadau yn cynnwys traethawd ar gerddoriaeth a gweithiau diwinyddol, a cherddi rhydd. Roedd y gyfrol yn eiddo i Matthew Thomas yn 1837.
Llythyr oddi wrth Iolo Morganwg
Rhan o lythyr, 2 Hydref [?19]39, yn amgau llythyr arall, 1 Medi 1808, oddi wrth Iolo Morganwg at Robert Dare, Penybont-ar-Ogwr, yn ymwneud â chloddio am fanganîs yn Sully, Morgannwg.
Iolo Morganwg, 1747-1826
Gohebiaeth John Jones ('Tegid')
Pum llythyr, 1845-1850, oddi wrth John Jones ('Tegid') at y Parch. R. P. a Mrs Llewelyn, Llangynwyd, gan amgau dau lythyr at yr Archaiologia Cambrensis; ac un llythyr, 10 Mehefin 1846, oddi wrth y Parch. R. P. Llewelyn at 'Tegid'.
Darlithoedd, yn Gymraeg a Saesneg, yn dwyn y teitl 'Iolo Morganwg'.
Gohebiaeth, 1935-1938, yn cynnig gwybodaeth am Iolo Morganwg, neu'n ymwneud â lleoliad rhai o'i lawysgrifau.
Traddodiad Llenyddol Morgannwg
Drafft llawysgrif o'r gyfrol Traddodiad Llenyddol Morgannwg a gyhoeddwyd yn 1948.
'Beirdd Morgannwg hyd ddiwedd y ddeunawfed ganrif'
Llawysgrif traethawd buddugol G. J. Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-Nedd, 1918, dan y ffugenw 'Glascurion', ynghyd â beirniadaeth Lemuel Hopkin-James.
Hopkin-James, Lemuel J. (Lemuel John), b. 1874
'The Literary Tradition of the the Vale of Glamorgan'
Llawysgrifau darlithoedd Saesneg ar draddodiad llenyddol Morgannwg, 'The Literary Tradition of the the Vale of Glamorgan', 'Some Aspects of the Literary Tradition of Glamorgan' a 'The Vale of Glamorgan and the Literary Tradition of the Vale'; ynghyd â phroflen erthygl yn dwyn y teitl 'The Welsh Literary Tradition', gyda phwyslais arbennig ar Forgannwg.
Darlith yn dwyn y teitl, 'Hanes Geiriaduron Cymraeg'.