Showing 123 results

Archival description
Papurau'r Athro Griffith John Williams file
Advanced search options
Print preview View:

Rhestri llawysgrifau

Rhestr o lawysgrifau, yn llaw G. J. Williams, yn perthyn i'r cyfnod cyn 1400 hyd 1700; ynghyd â chopïau o rai o restri ('Schedules') llawysgrifau sydd ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Y Llenor

Deunydd amrywiol, 1921-1923, yn cynnwys gohebiaeth yn bennaf, yn ymwneud â chyhoeddi cylchgrawn Cymraeg newydd, yn dwyn y teitl Y Llenor, i lenwi'r bwlch a adawyd gan dranc Y Beirniad. Ymhlith y gohebwyr mae W. J. Gruffydd, Henry Lewis ac Ifor Williams.

Llyfryddiaethau

Llyfryddiaeth W. J. Gruffydd yn llaw G. J. Williams, ynghyd â gohebiaeth berthynol, 1935-1936; un dudalen yn cyfeiro'n bennaf at gyhoeddiadau G. J. Williams yn Y Genhinen, 1969-1973; llyfryddiaethau byr unigolion eraill yn nhrefn yr wyddor; a llyfryddiaethau ar bynciau amrywiol. Ceir hefyd ychydig restri yn cynnwys prisiau llyfrau.

Llên Cymru

Ffolder yn dwyn y teitl Llên Cymru yn cynnwys teipysgrifau yn bennaf o erthyglau ac adolygiadau a ymddangosodd yn ystod y cyfnod y bu G. J. Williams yn olygydd ar y cylchgrawn.

Adran Ymchwil i Astudiaethau Cymraeg

Copi llawysgrif o'r memorandwm a luniodd G. J. Williams, [c. 1950], ynglŷn â sefydlu Adran Ymchwil i Astudiaethau Cymraeg. Mae'r memorandwm, a oedd i'w drafod ym Mhwyllgor Iaith a Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd y Brifysgol, yn cynnwys ei weledigaeth o'r modd y dylid hyrwyddo astudiaethau Cymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Ceir hefyd gopi teipysgrif o'r cyfieithiad Saesneg. Cyhoeddwyd y memorandwm yn Aneirin Lewis (gol.), Agweddau ar hanes dysg Gymraeg (Caerdydd, 1985).

Torion papur

Torion papur, [1920x1963], yn ymwneud â Iolo Morganwg, llenyddiaeth Gymraeg, crefydd, diwylliant ac addysg yng Nghymru. Yn eu plith ceir un bwndel o dorion, 1954-1956, o ysgrifau 'Cartrefi Cymru' gan Bob Owen, Croesor, yn Y Cymro.

Owen, Bob, 1885-1962

Pregeth

Pregeth yn dwyn y teitl 'Beth a rydd Dyn yn gyfnewid am ei Enaid', wedi ei dyddio '21 April [17]52'. Nodir lleoliad a dyddiad y cyfarfodydd lle traddodwyd y bregeth ar y dudalen olaf.

Llyfr nodiadau

Llyfr nodiadau yn cynnwys englynion a cherddi rhydd gan Rhys Jones, Blaenau, David Evans, Rhagat, John Pritchard o'r Garth, Dewi Wnion (David Thomas), William Jones, Cefn Creuan Isaf, a Jonathan Hughes, 'Y Deuddeg Arwydd', 'Nodau y Planedau, y Tremiadau', a chyfrifon ariannol. Roedd y gyfrol yn eiddo ar un adeg i Hugh Lloyd, 'Rose and Crown', Goswell Street, Llundain, ac i Evan Lloyd, 1 Mawrth 1836.

Cyfieithiadau Mary Catherine Llewelyn

Llawysgrif yn cynnwys casgliad o gyfieithiadau Saesneg, [?1839]-1876, gan, ac yn llaw, Mary Catherine Llewelyn, gwraig y Parch. R. Pendrill Llewelyn, ficer Llangynwyd, Morgannwg, 1841-1891, o farddoniaeth gan Lewis Glyn Cothi, William Hopkin, Llangynwyd, a Thaliesin; ynghyd â chyfieithiadau o gerddi eraill a gyhoeddwyd yn y Myvyrian Archaiology, ac emynau gan William Williams, Pantycelyn. Ceir hefyd torion yn cynnwys cerddi Cymraeg, gyda chyfieithiadau Saesneg, a godwyd o The Cambrian, Central Glamorgan Gazette, y Western Mail a Notes and Queries.

Cerddi Saesneg

Llyfr nodiadau yn cynnwys copïau o gerddi Saesneg, ynghyd â cherdd gan, ac yn llaw, Iolo Morganwg, yn dwyn y teitl 'The Line of Beauty', ac yn cychwyn gyda'r geiriau 'To view dull fashion's boasted feats'.

Iolo Morganwg, 1747-1826

Results 61 to 80 of 123