Showing 113 results

Archival description
Papurau Pennar Davies, file
Print preview View:

Tystysgrifau,

Tystysgrifau arholiadau Undeb Ysgolion Bedyddwyr Cymru, [1919]-1920; tystysgrifau BA (1932) ac Ymarfer Dysgu (1934), Coleg y Brifysgol Caerdydd, a BLitt (1936), Coleg Balliol, Rhydychen.

Adroddiadau a llyfrau ysgol,

Adroddiadau, 1923-1928, a gyflwynwyd iddo tra'n ddisgybl yn Ysgol Sir Aberpennar, ynghyd â llyfrau nodiadau ysgol yn cynnwys geirfa Gymraeg a nodiadau ar Shakespeare. Ceir hefyd gardiau aelodaeth cymdeithasau yr oedd yn aelod ohonynt ym Mhrifysgol Caerdydd, 1929-1934.

Dyddiadur,

Dyddiadur poced yn cyfeirio at ei fywyd diwylliannol yn Rhydychen, 1934-1935.

Traethodau,

Nifer o draethodau a ysgrifennodd fel myfyriwr yn y Brifysgol, 1936-1938, gan gynnwys 'Henry Vaughan and the Welsh mind'; 'Puritan and Cavalier sentiment in the broadside ballads';'The theory of satire in the age of Dryden'; 'Donne as apoet of love'; 'Specimens of the English translations of the Bible up to the authorized version'; 'Fiction in the Bible: Judith, Tobit and Esther' ; a 'Burton’s prose style'. Nododd ei fod yn fyfyriwr yn y ‘Graduate School’ ar y mwyafrif ohonynt.

Adroddiadau,

Adroddiad cyffredinol: 'America in retrospect', 1939, ar ei gyfnod fel myfyriwr (Commonwealth Fund Fellow), mewn teipysgrif gyda newidiadau yn ei law, ynghyd â 'An American University through the eyes of a Welshman', llythyr, 1943, oddi wrth yr Athro A. M. Witherspoon, Prifysgol Iâl a phapurau erail.

Witherspoon, Alexander Maclaren.

Traethawd PhD,

Traethawd: 'The comedies of George Chapman in relation to his life and times', 1943 . Nid yw'r gwaith (dwy gyfrol) wedi'i rwymo ac mae'r tudalennau'n rhydd rhwng cloriau.

Rhaglen seremoni PhD,

Llythyr, 1944, yn ei hysbysu iddo ennill gradd Doethur mewn Athroniaeth am ei draethawd ymchwil, ynghyd â rhaglen y seremoni.

Papurau amrywiol,

Papurau, 1939-1946, yn ymwneud â'i gyfnod fel myfyriwr, gan gynnwys cardiau aelodaeth cymdeithasau amrywiol.

Papurau amrywiol,

Llythyr, 1942, yn ei wahodd i fod yn Weinidog ar Eglwys Minster Road, llythyrau, 1944-1946, oddi wrth aelodau ac eraill a oedd mewn cysylltiad â'r eglwys ac yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn diolch am rodd adeg y Nadolig. Ceir hefyd ddau fersiwn o'i araith 'Cardiff & Glamorgan in the future of Wales', 1945, a noddwyd gan Blaid Genedlaethol Cymru

Uno Colegau Aberhonddu a Chaerfyrddin,

Papurau, 1948-[1982], yn ymwneud ag uno Coleg Coffa Aberhonddu a Choleg Presbyteraidd, Caerfyrddin, a ffurfio coleg unedig yn Abertawe. Ceir torion hefyd o'r Tyst a The Christian World yn trafod y penderfyniad hwn, a thaflen dathlu daucanmlwyddiant Coleg Coffa Aberhonddu yn Eglwys Gynulleidfaol Ebenezer, Abertawe, 1957.

Papurau arholiad,

Enghreifftiau o bapurau arholiad Diploma mewn Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru, 1948-1973, yn deillio o'i gyfnod fel darlithydd ym Mangor, Aberhonddu ac Abertawe.

Llyfr cofnodion,

Llyfr cofnodion, 1960-1982, yn cynnwys cofnodion amrywiol pwyllgorau Coleg Coffa, Abertawe. ynghyd â llungopïau [gan Densil Morgan o Blwyddiadur a Llawlyfr yr Annibynwyr, 1961-1980 (gyda bylchau)] yn rhestru staff a myfyrwyr yn Abertawe].

Cymdeithas Cymru Newydd,

Llythyrau, 1939, yn ymwneud â sefydlu'r gymdeithas lenyddol New Wales Society. Ymhlith y gohebwyr mae Gwynfor Evans, Keidrych [Rhys] (9), ynghyd â cherdd 'Poem for Ken Etheridge' yn llaw [Keidrych Rhys].

Rhys, Keidrych

Cerddi,

Cerddi gan gynnwys teipysgrifau o gerddi a gyhoeddwyd yn Y Tlws yn y Lotws (Llandybïe, 1971), ynghyd â sgript 'Gwyn ap Nudd', cerdd i leisiau, 1965.

'Cerddi Hanner Canrif',

Blodeugerdd o gerddi Cymraeg o'r cyfnod 1901-1950 a ddewiswyd gan ei ddosbarth allanol yn Fourcrosses (Barddoniaeth Gymraeg y ganrif hon) a anfonwyd at Wasg Gee i'w chyhoeddi, [1951], ond nas cyhoeddwyd.

Anerchiadau amrywiol (llenyddol),

Anerchiadau yn cynnwys 'American literature', [c.1941]-[c.1942]; ‘Y bywyd llenyddol yng Nghymru heddiw' (2 fersiwn), [c.1960]; Moderniaeth yn ein barddoniaeth', [c. 1968]-[c.1970]; 'Celfyddyd a chrefydd'; 'Tasg amhosibl y nofelydd', [c. 1960]; a 'Llenyddiaeth a gwleidyddiaeth yng Nghymru heddiw' (2 fersiwn), [c.1955]-[c.1960], ynghyd â sgript o sesiwn cwestiwn ac ateb rhwng aelodau'r Cardiff Brains Trust (Pennar Davies yn un ohonynt) ac ysgrifenwyr o Rwsia ar ysgrifennu cyfoes ym Mhrydain, 1945.

Results 61 to 80 of 113