Dangos 167 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau D. J. Williams, Abergwaun ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

'Dyddiadur Dyn Anonest'

Mae dechrau'r gyfrol yn cynnwys achres teulu Llywele, Llansawel, a nodiadau am hanes ei hynafiaid, a chofnodion yn ymwneud â chyfrifon Penrhiw ac Abernant, 1938-1953. Defnyddiwyd cefn y ledjer fel dyddiadur, 1941-1951, gyda'r teitl 'Dyddiadur Dyn Anonest', gan gynnwys cerdd 'Pen-yr-Yrfa' gan George M. Ll. Davies wedi'i gopïo gan Siân Williams yn 1943.

Effemera gwleidyddol

Papurau, 1922-1965, gan gynnwys taflen etholiadol William James Jenkins, ymgeisydd Llafur yn Etholiad Cyffredinol 1924; erthyglau printiedig, 1922-1924, yn allweddol i hanes cychwyn Plaid Genedlaethol Cymru; papurau'n ymwneud â materion ariannol fel Cronfa Gwŷl Dewi a chyfraniadau Penfro; agendâu pwyllgor gwaith Rhanbarth Dyfed, 1938-1939; rhestr o'r Ysgolion Haf a gynhaliwyd, 1926-1955, a nodiadau am flynyddoedd cynnar Y Blaid Genedlaethol; llythyr, 1959, yn enw D. J. Williams yn apelio am gyfraniadau at gronfa Waldo Williams fel ymgeisydd cyntaf Plaid Cymru yn Sir Benfro'r flwyddyn honno a'i daflen etholiadol; copïau o gofrestr etholwyr Abergwaun, 1966, rhestr o aelodau'r Blaid Cangen Sir Benfro a rheolau'r etholiad; trefniadau adloniant yn Abergwaun i godi arian i'r Blaid; 'Llyfr canu Ysgol Haf y Blaid Genedlaethol 1933, Blaenau Ffestiniog', ynghyd â phapur a roddwyd gan J. E. Jones gyda'r teitl 'The present situation in Wales and the progress and task of the Welsh National Movement' mewn cyngres FUEN (Undeb Ffederal y Cenhedloedd Ewropeaidd) yn Leeuwarden, Yr Iseldiroedd.

Jones, J. E. (John Edward), 1905-1970

Erthyglau

Ymhlith y torion ceir 'The Labour Candidature: an appeal to the Electorate of Pembrokeshire', 1922, a gyhoeddwyd yn nhri o bapurau lleol y sir, ynghyd â fersiwn llawysgrif; 'A Welsh state. The new Nationalism', South Wales News, 1924; 'Carmarthen Borough Education Committee and the Welsh language', llythyr at olygydd The Welshman, 1924; 'Nodion y Cymro a'r Blaid Genedlaethol', The Labour News, 1925; 'The new Welsh Nationalism', Manchester Guardian, 1926; a 'Sir Gaerfyrddin-ar ddiwrnod garw', Heddiw, Hydref-Tachwedd 1941.

Gwaith W. R. Evans

Sgript anterliwt 'Tri Chrafion Byd a Rhai Crafion Eraill, gan gynnwys Ambell Grafwr o Gymro' gan W. R. Evans, Y Barri, ynghyd â gwaith anghyflawn ganddo, [1959x1969].

Evans, W. R. (William Rees), 1910-1991

Hen Dŷ Ffarm

Drafft llawysgrif o Hen Dŷ Ffarm a gyhoeddwyd yn 1953, ynghyd â llyfr nodiadau sy'n cynnwys crynodebau, 1952, fesul tudalen, o'r cynnwys, ac adolygiadau o'r gyfrol, 1953-1955. Rhestrwyd yr adolygwyr a'r manylion perthnasol ar yr amlen ganddo. Ceir nodyn ar ddiwedd y testun: 'Gorffennwyd ddydd Gwener Hydref 3 1952. Ail orffen ddydd Gwener Chwefror 13 1953'.

Llosgi'r Ysgol Fomio

Papurau, 1936-1939, yn ymwneud â llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth, gan gynnwys neges Saunders Lewis yn ei law 'Cofiwch y cysur a geisiais ei roi i chwi amser cinio'; copi o lythyr D. J. Williams, 1936, at lywodraethwyr Ysgol Sir Abergwaun, yn gwneud cais am gael dychwelyd i'w swydd fel athro; torion o'r wasg gan gynnwys 'Request for Assistant Master's reinstatement'; anerchiad a baratowyd gan Victor Hampton Jones ar gyfer y prawf yn yr Old Bailey yn 1937; 'The story of the burning' gan Saunders Lewis (ceir copi drafft o'r adroddiad hwn yn llawysgrif LlGC 23078C); argraffiadau D. J. Williams wedi iddo gael ei ryddhau o Garchar Wormwood Scrubs, [1937]; a thorion o'r wasg, 1939, yn ymwneud â gwrthwynebiad un o lywodraethwyr Ysgol Sir Abergwaun i'w weithgareddau gwleidyddol.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Llyfr aelodaeth

Llyfr yn cofnodi enwau aelodau Cangen Abergwaun o'r Blaid Genedlaethol a'u tanysgrifiadau misol, 1946-1953, ynghyd â nodyn ychwanegol gan D. J. Williams, 1957.

Plaid Cymru. Cangen Abergwaun

Llyfr aelodaeth

Llyfr yn cofnodi enwau aelodau Cangen Abergwaun o'r Blaid Genedlaethol a'u tanysgrifiadau misol, ynghyd â phapurau rhydd, [1957]-1962.

Plaid Cymru. Cangen Abergwaun

Llyfr cofnodion

Llyfr cofnodion Pwyllgor Rhanbarth Dyfed o'r Blaid Genedlaethol, 1938-1945, ynghyd â chofnodion ar gyfer Cangen Abergwaun.

Plaid Cymru. Rhanbarth Dyfed

Canlyniadau 61 i 80 o 167