Emyn-dôn i eiriau'r Parchedig Denzil John; trefniant o alaw werin neu emyn-dôn ar gyfer meibion TTBB; gosodiad o unrhyw salm (neu adnod o salm) ar gyfer côr SATB; tri symudiad gwrthgyferbyniol; ymdeithgan i'r organ; cylch o ganeuon ar gyfer unrhyw lais ar eiriau gan fardd cyfoes; a chyfansoddiad gwreiddiol rhwng 4 a 6 munud o hyd i bedwar llais SATB gyda chyfeiliant piano neu organ (Tlws y cerddor).
Cyfansoddi dawns llys ac Ysgoloriaeth Geraint Morris (sgript ffilm neu driniaeth ar gyfer cyfres boblogaidd ar gyfer y teledu) ynghyd â sylwadau'r beirniad Peter Edwards.
Drama fer agored; trosi drama benodol i'r Gymraeg; sgript ar gyfer y teledu; a chyfansoddi hyd at 4 sgets 5 munud o hyd yr un, addas ar gyfer noson lawen.
Stori fer: yn seiliedig ar unrhyw ddihareb; portreadau o dri chymeriad lleol ar gyfer papur bro; sgwrs rhwng dau ar 'Deg o'm cas bethau' yn null Room 101; erthygl hyd at 5000 o eiriau: datblygiad chwyldroadol mewn unrhyw faes o ddechrau'r ugeinfed ganrif ymlaen; ysgrif ar ymdeimlad o le; tywys-daith o amgylch tref neu ddinas; tair ymson gan dri unigolyn yn ymateb i'r un sefyllfa ddirdynnol; a llyfr o deithiau mewn ardal arbennig.
Emyn-dôn i eiriau Idwal Lloyd; darn i biano; triawd i biano, ffliwt a cello; agorawd ar gyfer cerddorfa; un symudiad ar gyfer pedwarawd llinynnol; Tlws y Cerddor; ffolio o waith amrywiol i gynnwys dim mwy na 5 o ddarnau (ieuenctid); a chyfansoddi cân (Penfroc).
Cerdd: 'Y Ffin (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: ‘Pontydd’ (tlws rhyddiaith); sgript rhwng dau berson ar drên; darn o ryddiaith: ‘Y gwyliau gorau erioed’; llythyr at eich cyngor lleol yn mynegi barn am ailgylchu; adolygiad o unrhyw lyfr neu ffilm; casgliad o ddeunydd i ddenu ymwelwyr i’ch ardal chi mewn unrhyw ffurf; a pharatoi deunydd ar gyfer dysgwyr.
Cyfansoddi drama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd (y fedal ddrama); drama (cystadleuaeth arbennig i rai dan 25 oed); trosi drama benodol i’r Gymraeg; dwy fonolog gyferbyniol ar gyfer pobl ifanc; a sgript comedi sefyllfa.