Dangos 567 canlyniad

Disgrifiad archifol
cyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Celfyddydol

Papurau yn ymwneud â diddordeb Dr Iorwerth Hughes Jones mewn celfyddyd, 1926-1972; llythyrau, darluniau a gwahoddiadau i arddangosfeydd, yn ymwneud â'r arlunwyr Evan Walters a Ceri Richards.

Cofnodion

Mae'r ffeil yn cynnwys agendau a chofnodion Pwyllgor Rheoli Cronfa Apêl J. Saunders Lewis o'r cyfarfod cyntaf ar 3 Fehefin 1989 hyd 30 Ebrill 1994, a chopi o gofnodion yr unfed gyfarfod ar bymtheg ar 17 Tachwedd 2001; ynghyd â chyfrol o gofnodion Pwyllgor Sir Gaernarfon o'r Gronfa, o'r cyfarfod cyntaf ar 10 Mai 1992 hyd at y pedwerydd cyfarfod ar ddeg ar 2 Gorffennaf 1995.

Cofnodion a chyfrifon amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau cofnodion a chyfrifon Pwyllgor y Pregethwyr Ieuanc, Urdd y Seren Fore, Undeb y Cymdeithasau Cymreig, Undeb Bedyddwyr Ieuanc Cymru a'r 'Aged and Infirm Ministers', 1919-1941.

Cofnodion ariannol,

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfr casgliadau, 1910-1966; llyfr cyfraniadau at ail-adeiladu’r capel, 1913-1923; llyfr y gronfa ganolog, 1938-1949; a llyfr cyfraniadau at y genhadaeth a’r eisteddleoedd, 1958-1964.

Cofnodion ariannol,

Cofnodion ariannol y Gymdeithas, yn cynnwys anfonebau, derbynebion, treuliau swyddogion y Gymdeithas, manylion am gyfrifon banc, yswiriant a nwyddau marchnata.

Cofnodion ariannol,

Cofnodion ariannol yn cynnwys cyfraniadau chwarterol, 1860; cyfraniadau tuag at y Weinidogaeth, 1923-1970; y cyfarfodydd blynyddol (Y Pasg), 1918-1967; llyfr banc cynilo, 1925-1931; derbyniadau a thaliadau, 1909-1916; llyfr y Trysorydd, 1917-1931; casgliad y Genhadaeth Dramor, 1931-1957, a llyfr yr Eisteddleoedd, 1934-1960.

Canlyniadau 41 i 60 o 567