Showing 5982 results

Archival description
Ffeil / File English
Print preview View:

Deunydd amrywiol yn ymwneud â Choleg Harlech = Miscellaneous Coleg Harlech material

Deunydd amrywiol yn ymwneud â Choleg Harlech, gan gynnwys: manylion am ysgol haf a gynhaliwyd 17-24 Awst 1929; cofnodion cyfarfod is-bwyllgor yr ysgol haf a gynhaliwyd 12 Rhagfyr 1929; cerdyn post yn dangos ffotograff o staff a myfyrwyr Coleg Harlech ar gyfer sesiwn academaidd 1929-1930; a rhestr o lyfrau ac adroddiadau a fenthycwyd gan Goleg Harlech (sy'n cynnwys llythyr oddi wrth Robert (Silyn) Roberts at Mary Silyn Roberts) = Miscellaneous material relating to Coleg Harlech, comprising: details of a summer school held 17-24 August 1929; records of a summer school sub-committee meeting held 12 December 1929; postcard showing a photograph of Coleg Harlech staff and students for the 1929-30 academic session; and a list of books and reports borrowed by Coleg Harlech (which includes a letter from Robert (Silyn) Roberts to Mary Silyn Roberts).

Gohebiaeth rhwng Swyddfa Ranbarthol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Bangor a Choleg Harlech = Correspondence between the Workers' Educational Association District Office, Bangor and Coleg Harlech

Gohebiaeth a chopïau o ohebiaeth, 1929-1944, yn bennaf rhwng Swyddfa Ranbarthol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, a leolwyd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor, a Choleg Harlech, ynghyd â gohebiaeth oddi wrth bencadlys Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yn Llundain (prif ohebydd Ernest Green, ysgrifennydd cyffredinol y Gymdeithas) at y Swyddfa Ranbarthol a gohebiaeth rhwng y Swyddfa Ranbarthol a darpar-fyfyrwyr Coleg Harlech. Bu'r Swyddfa Ranbarthol dan ysgrifenyddiaeth Robert (Silyn) Roberts hyd ei farwolaeth ar 15 Awst 1930, pryd y cymerwyd yr awennau gan Mary Silyn Roberts. Bu cysylltiad agos erioed rhwng Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a Choleg Harlech hyd nes, yn 2001, fe gyfunwyd y ddau fudiad. Prif ohebwyr Coleg Harlech yw'r warden, Ben Bowen Thomas, a'r cadeirydd, Dr Thomas Jones. Sefydlwyd yr ysgoloriaeth a gyfeirir ati gan Dr Thomas Jones yn ei lythyr dyddiedig 25 Tachwedd 1934 er cof am ei fab, Elphin Lloyd Jones, a fu farw trwy ddamwain yn ddeuddeg oed (gweler, er enghraifft, Eirene White Papers yn LlGC). = Correspondence and copies of correspondence, 1929-1944, primarily between the District Office of the Workers' Educational Association, located at the University College of Wales, Bangor, and Coleg Harlech, together with correspondence from the Workers' Educational Association headquarters in London (main correspondent Ernest Green, general secretary of the Association) to the District Office and correspondence between the District Office and prospective Coleg Harlech students. The District Office was under the secretaryship of Robert (Silyn) Roberts until his death on 15 August 1930, after which the rôle was taken over by Mary Silyn Roberts. A close alliance had always existed between the Workers' Educational Association (WEA) and Coleg Harlech, the two bodies eventually merging in 2001. Coleg Harlech's primary correspondents are its warden, Ben Bowen Thomas, and its chairman, Dr Thomas Jones. The scholarship referenced by Dr Thomas Jones in his letter dated 25 November 1934 was established in memory of Dr Jones' son, Elphin Lloyd Jones, who died in an accident aged twelve years old (see, for example, Eirene White Papers at NLW).

Ffurflen enwebu Cymdeithas Addysg y Gweithwyr = Workers' Educational Association nomination form

Ffurflen enwebu swyddogion ar gyfer pwyllgor gweithredol rhanbarthol cangen Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr. = Nomination form for the election of district executive committee officials for the North Wales branch of the Workers' Educational Association.

Casgliad A M James

Casgliad o bethau'n ymwneud ag Aelwyd yr Urdd yn Aberystwyth a changen yr Urdd yn yr Ysgol i Ferched gan A M James o'r 30au.

Llythyr at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth R. K. Mirchandani = Letter to Robert (Silyn) Roberts from R. K. Mirchandani

Llythyr, 21 Awst 1930, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth R. K. Mirchandani, Sydenham Hill, Llundain, yn gobeithio clywed argraffiadau Silyn o'i daith ddiweddar i Rwsia. Mae'n amlwg nad yw'r gohebydd yn ymwybodol o farwolaeth Silyn ar 15 Awst 1930. Arnodir y llythyr gan Mary Silyn Roberts. = Letter, 21 August 1930, to Robert (Silyn) Roberts from R. K. Mirchandani, Sydenham Hill, London, hoping to hear Silyn's impressions of his recent visit to Russia. The correspondent is apparently unaware that Silyn had died on 15 August 1930. Letter annotated by Mary Silyn Roberts.

Map of the Five-Year Plan 1928-1933

Adroddiad llawysgrif (arwyddwyd) a theipysgrif gan yr ysgolhaig a'r cyfieithydd T. (Thomas) Hudson-Williams (1873-1961) o bapurau ym meddiant Robert (Silyn) Roberts ar ei ddychweliad o Rwsia ym 1930, sy'n cynnwys disgrifiad o'r 'Map of the Five-Year Plan 1928-33', cyfieithiad o'r Rwsieg o'r 'State Plan of the U.S.S.R.'; a nodiadau ar lenyddiaeth Rwsiaidd ac ar enwau Rwsiaidd. = Handwritten (signed) and typescript report by the academic and translator T. (Thomas) Hudson-Williams (1873-1961) of papers in Robert (Silyn) Roberts' possession on his return from Russia in 1930, which include a description of the 'Map of the Five-Year Plan 1928-33', a translation from Russian of the 'State Plan of the U.S.S.R.'; and notes on Russian literature and on Russian names.

Gohebiaeth rhwng Robert (Silyn) Roberts a'r Holiday Fellowship a rhwng Mary Silyn Roberts a'r Holiday Fellowship = Correspondence between Robert (Silyn) Roberts and the Holiday Fellowship and between Mary Silyn Roberts and the Holiday Fellowship

Gohebiaeth a chopïau o ohebiaeth, 1930-1946, yn bennaf rhwng Robert (Silyn) Roberts a'r Holiday Fellowship, sef y corff a drefnodd taith Silyn i Rwsia ym 1930, ac, yn dilyn marwolaeth Silyn ym 1930, rhwng Mary Silyn Roberts a'r Holiday Fellowship; ynghyd â llythyrau, 10 & 14 Rhagfyr 1931, rhwng Mary Silyn Roberts ac Ernest Green, ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, ynghylch yr Holiday Fellowship; a chopi o rifyn Hydref 1931 o Over the Hills, cylchgrawn yr Holiday Fellowship. Gohebydd yr Holiday Fellowship cyn 1934 yw'r diwygiwr cymdeithasol Thomas Arthur Leonard (1864-1948). Mae'n amlwg oddi wrth ei sylwadau nad yw Silyn yn credu'r adroddiadau negyddol yn y wasg ynghylch safiad cymdeithasol-wleidyddol Rwsia = Correspondence and copies of correspondence, 1930-1946, mainly between Robert (Silyn) Roberts and the Holiday Fellowship, which body organised Silyn's Russian trip in 1930, and, following Silyn's death in 1930, between Mary Silyn Roberts and the Holiday Fellowship; together with letters, 10 & 14 December 1931, between Mary Silyn Roberts and Ernest Green, general secretary of the Workers' Educational Association, regarding the Holiday Fellowship; and a copy of the Autumn 1931 edition of the Holiday Fellowship magazine Over the Hills. The Holiday Fellowship's correspondent prior to 1934 is the social reformer Thomas Arthur Leonard (1864-1948). It is obvious from his observations that Silyn does not believe the negative reports in the press concerning Russia's socio-political stance.

Song sheets and piano reductions

Song sheets and piano reduction scores for popular pieces such as Red Sails In The Sunset, We'll Meet Again and I Dreamed A Dream (from Les Misérables) and for classical pieces such as the Infernal Galop from Offenbach's Orpheus in the Underworld and Schubert's Serenade, together with used ready-scored music manuscript books and fragments of handwritten music manuscripts. Some song sheets photocopied. Some items appear to have belonged to Jen Wilson and/or members of her family.

Pleasant Place

Photocopy of a published play by Gwladys Lewis titled 'Pleasant Place', with accompanying note by John Pikoulis. A note in Gwladys Lewis's hand states that the play 'gained first place in a one act play competition run by the South Wales Council of Social Service in 1932'.
Date is that of the original play, not that of the photocopy nor of Pikoulis's note.
See also under Gwladys Lewis (Alun Lewis research papers).

Y Fordaith Gymraeg 1933

Dyddiadur wedi ei dderbyn yn rhodd i'r Urdd gan nith Miss Myfi Edwards, am ei chyfnod ar Fordaith yr Urdd ar yr Orduna i Norwy. Hanes y daith a lluniau.

Llythyrau rhwng Mary Silyn Roberts a Mair Ogwen = Letters between Mary Silyn Roberts and Mair Ogwen

Llythyrau, 1933, rhwng Mary Silyn Roberts a Mair Ogwen, golygydd cylchgrawn Y Gymraes, ynghylch ysgrif gan Mary Silyn Roberts i'w chynnwys yn y cylchgrawn ar yr ymgyrchwraig dros heddwch a hawliau merched Charlotte Price White; ynghyd â chopi o'r ysgrif. = Letters, 1933, between Mary Silyn Roberts and Mair Ogwen, editor of Y Gymraes magazine, regarding an article written by Mary Silyn Roberts for publication in the magazine on the suffragist and peace campaigner Charlotte Price White; together with a copy of the article.

School

Miscellaneous material relating to Siân Phillips' period of study at Pontardawe Grammar School, including photocopied photograph of staff and prefects, 1950-1951, with names written on dorse; photocopied photograph of the cast of Tobias and the Angel, performed by the school 1951-2 (Siân (then Jane) Phillips, as the angel, seated in front row); manuscript list of school staff, c. 1949-1950; pieces written by Siân (then Jane) Phillips, the one titled 'Dramatic Society', the other 'A Visit to France' (both photocopied); and Siân (then Jane) Phillips' school reports, 1943, 1948, 1949. Together with printed copies of School Certificate examination papers, dated July 1934, and photocopied photograph of school staff, 1938, both of which would have predated Siân Phillips' period of attendance.

Llythyrau rhwng Mary Silyn Roberts a Henni Forchhammer = Letters between Mary Silyn Roberts and Henni Forchhammer

Llythyrau, 1935-1939, rhwng Mary Silyn Roberts, a'r addysgydd, ffeminydd ac ymgyrchydd heddwch Danaidd Henni Forchhammer (1863-1955) a rhwng Mary Silyn Roberts a Choleg Prifysgol Cymru Aberystwyth a chysylltiadau sosialaidd/gwleidyddol ynghylch ymweliad Henni Forchhammer â Chymru ym 1935; ynghyd â deunydd perthnasol. Arnodiadau yn llaw Henni Forchhammer ac yn llaw Mary Silyn Roberts.= Letters, 1935-1939, between Mary Silyn Roberts and the Danish educator, feminist and peace activist Henni Forchhammer (1863-1955) and between Mary Silyn Roberts and the University College of Wales Aberystwyth and socialist/political connections regarding a visit by Henni Forchhammer to Wales in 1935; together with related material. Annotations in the hand of Henni Forchhammer and in the hand of Mary Silyn Roberts.

Nodyn gan Luned Meredith, un o roddwyr y casgliad, ar daflen atodol:
'Treuliodd [Mary Silyn Roberts] lawer o amser yn Nenmarc o'r cyfnod cyn iddi briodi yn 1904 i ddiwedd y 40au neu [sic] 50au. Roedd hi'n mynd draw bron bob blwyddyn i ddysgu mewn ysgolion haf, ac aeth nifer o'r teulu draw ar achlysur gan gynnwys Silyn [Robert (Silyn) Roberts] a Rhiannon eu merch.'
Note (translated) by Luned Meredith, one of the archive's donors, on accompanying sheet:
'Mary Silyn Roberts spent a portion of nearly every year teaching summer school in Denmark from 1904 (before her marriage) to the end of the 1940s or the 1950s. Family members would occasionally accompany her, including her husband, Robert (Silyn) Roberts, and their daughter Rhiannon.'

Luned Meredith am Henni Forchhammer:
''Roedd Henni Forchhammer ... yn amlwg iawn yn y mudiad heddwch ac ym myd addysg yn Nenmarc. Mae ei phapurau yn yr amgueddfa yn y brifddinas [Copenhagen] ac mae ychydig o sôn am Mary ynddyn nhw. Bu Mary yn aros gyda hi ac fe ddaeth hi draw i Gymru i ddarlithio.'
Note (translated) on accompanying sheet by Luned Meredith, one of the archive's donors:
'Henni Forchhammer was a prominent figure within the peace movement and within education in Denmark. Her papers, in which there are some references to Mary Silyn Roberts, are kept in the museum in [Copenhagen]. Mary went to stay with her in Denmark and Henni came over to Wales to lecture.'

Results 41 to 60 of 5982