Showing 113 results

Archival description
Llawysgrifau S.R. a J.R.
Print preview View:

Llyfrau archebion

Dwy gyfrol, [1864]-[1865], yn llaw T. J. Griffiths, argraffwr, gydag ychwanegiadau gan Samuel Roberts, yn cynnwys rhestr o archebion ar gyfer Samuel Roberts, Pregethau a Darlithiau (Utica, E.N., 1865). = Two volumes, [1864]-[1865], in the hand of T. J. Griffiths, printer, with additions by Samuel Roberts, containing a list of orders for Samuel Roberts, Pregethau a Darlithiau (Utica, N.Y., 1865).

Griffiths, Thomas J., 1835-1924

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Chwe llyfryn, [1870au], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Six booklets, [1870s], containing sermon notes in the hand of Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).
Ceir hefyd 'Remembrances', [1856], ysgrif byr yn Saesneg gan Sarah M. Roberts, merch J.R. (7 ff.) = Also contains 'Remembrances', [1856], a short piece in English by Sarah M. Roberts, J.R.'s daughter (7 ff.).

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Tri llyfryn ar ddeg, [1870au] (dyfrnod 1874 mewn dau lyfryn), yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Thirteen booklets, [1870s] (watermark 1874 in two booklets), containing sermon notes by Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).
Mae un llyfryn yn cynnwys dau doriad papur newydd, [1875]. = One booklet contains two newspaper cuttings, [1875].

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Pedwar llyfryn, [1870au], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Four booklets, [1870s], containing sermon notes by Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Chwe llyfryn, [1872x1883], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Six booklets, [1872x1883], containing sermon notes by Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).
Hefyd yn cynnwys y cloriau yn unig o 'Llyfr Casglu Golegdy Annibynol y Bala'. = Also contains the covers only of a collecting book for Bala Congregational College.

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Deg llyfryn, [1870au] (un gyda dyfrnod 1874), yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Ten booklets, [1870s] (one watermark 1874), containing sermon notes by Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Pymtheg llyfryn, [1872x1880], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Fifteen booklets, [1872x1880], containing sermon notes by Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).
Mae un llyfryn yn cynnwys dau gydiad rhydd y tu mewn i gloriau lledr, ynghyd a rhestr mannau pregethu Gruffydd Rhisiart am 1880. = One booklet consists of two loose gatherings inside leather covers, together with a list of Gruffydd Rhisiart's preaching engagements for 1880.

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Pum llyfryn, [1870au], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = Five booklets, [1870s], containing sermon notes by Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).

Pregethau

Pedwar llyfryn, [1832]-[1872], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw John Roberts (J.R.), [1832], Samuel Roberts (S.R.), [c. 1844], a Gruffydd Rhisiart (2), [1872]. = Four booklets, [1832]-[1872], containing sermon notes by John Roberts (J.R.), [1832], Samuel Roberts (S.R.), [c. 1844], and Gruffydd Rhisiart (2), [1872].

Pregethau

Tri llyfryn yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Samuel Roberts (S.R.), [1844], John Roberts (J.R.), [1868], a Gruffydd Rhisiart, [1879]. = Three booklets containing sermon notes by Samuel Roberts (S.R.), [1844], John Roberts (J.R.), [1868], and Gruffydd Rhisiart, [1879].

Pregethau J.R.

Tri llyfryn, [19 gan., trydydd ¼], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw John Roberts (J.R.). = Three booklets, [18 cent., third ¼], containing sermon notes by John Roberts (J.R.).

Cynal Breichiau; Y Diwedd

Dwy bregeth yn llaw John Roberts (J.R.), [1873x1874], yn dwyn y teitlau 'Cynal Breichiau' (ff. 1-11) ac 'Y Diwedd' (ff. 12-17). = Two sermons in the hand of John Roberts (J.R.), [1873x1874], entitled 'Cynal Breichiau' (ff. 1-11) and 'Y Diwedd' (ff. 12-17).

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Cyfrol, [1870au], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = A volume, [1870s], containing sermon notes in the hand of Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).

Pregethau Gruffydd Rhisiart

Cyfrol, [1870au], yn cynnwys nodiadau pregethau yn llaw Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart). = A volume, [1870s], containing sermon notes in the hand of Richard Roberts (Gruffydd Rhisiart).

The Dorcas Society

Anerchiad i'r Dorcas Society, Pad[dington?], gan John Roberts (J.R.), 17 Tachwedd 1857 (ff. 1-3). = An address to the Dorcas Society, Pad[dington?], given by John Roberts (J.R.) on 17 November 1857 (ff. 1-3).
Mae nodyn ar f. 4 verso yn cofnodi cyfraniad J.R. i gasgliad ar gyfer y London Missionary Society. = A note on f. 4 verso records a contribution by J.R. to the London Missionary Society.

Yr hyn y mae J.R. yn gofio

'Yr hyn y mae J.R. yn gofio', [1884], llawysgrif anghyflawn (penodau 3-6) gan John Roberts (J.R.) yn adrodd hanesion am Annibyniaeth ei oes (ff. 1-20, rectos yn unig). = 'Yr hyn y mae J.R. yn gofio', [1884], an incomplete manuscript (chapters 3-6) by John Roberts (J.R.) relating events in recent Welsh Congregational history (ff. 1-20, rectos only).
Ysgrifenwyd ar gefn amryw lythyrau (at S.R. a J.R.), cylchlythyrau a phosteri, 1867-1884 (ff. 1-20, versos yn unig). = It is written on the reverse of miscellaneous letters (to S.R. and J.R.), circulars and posters, 1867-1884 (ff. 1-20, versos only).

Cyflythreniad

Darn ar gyflythreniad, [c. 1824], gan Samuel Roberts. Ysgrifenwyd o bosib fel rhan o'r traethawd 'Ardderchawgrwydd yr Iaith Gymraeg' ar gyfer Eisteddfod Powys 1824, ond nid yw y testun yn rhan o'r traethawd cyhoeddiedig, gweler Samuel Roberts, Dau Draethawd (Caernarfon, 1834). = A fragment on alliteration, [c. 1824], written by Samuel Roberts. It was possibly written as part of an essay entitled 'Ardderchawgrwydd yr Iaith Gymraeg' for Powys Eisteddfod 1824, although it is not part of the printed version, see Samuel Roberts, Dau draethawd (Caernarfon, 1834).

S.R. funeral addresses

Llawysgrif anghyflawn o Samuel Roberts, Funeral Addresses (Conway, 1880), cyfrol o anerchiadau angladd a bregethwyd ganddo yn Llanbrynmair cyn 1857. = Incomplete manuscript of Samuel Roberts, Funeral addresses (Conway, 1880), a volume of addresses preached at funerals in Llanbrynmair before 1857.
Mae'r testun presennol yn gyfieithiad Saesneg o'r anerchiadau Cymraeg gwreiddiol. Yn cynnwys y rhagymadrodd, dyddiwyd 1 Medi 1880 (ff. 1-4), a rhan o'r testun (ff. 11-105), a atgynhyrchiwyd ar tt. 3-4, 8-54 o'r gyfrol cyhoeddedig. = The present text comprises English translations of the original Welsh addresses. It includes the introduction, dated 1 September 1880 (ff. 1-4), and part of the body of the text (ff. 11-105), reproduced on pp. 3-4, 8-54 of the published volume.

Barddoniaeth ac emynau S.R.

Llyfryn, [19 gan., trydydd ¼], yn cynnwys barddoniaeth ac emynau yn llaw Samuel Roberts. = A booklet, [19 cent., third ¼], containing poetry and hymns in the hand of Samuel Roberts.

Llythyrau at S.R., &c.

Saith llythyr a deugain, 1824-1881, y rhan fwyaf at Samuel Roberts a'i dad, John Roberts, oddiwrth teulu a ffrindiau. Mae'r gohebwyr yn cynnwys Edward Davies, Drenewydd, 1833-1834 (ff. 4-13), Griffith a Maria Griffith, [c. 1858] (ff. 19-20), Richard Griffith, 1858 (ff. 21-23), Samuel Griffith[s], 1858-1859 (ff. 24-31), S. L. Lewin, Amwythig, [1833]-1834 (ff. 42-45), D. Morgan, Ogof, 1834 (ff. 46-49), David Rees, Llanelly, 1865, 1867 (ff. 53-56), J.R. a Rees Griffiths, 1834 (ff. 64-67), Thomas Weaver, Amwythig, 1825-1826 (ff. 80-83), a Sarah Yallowley, [1820au] (ff. 89-92). = Forty-seven letters, 1824-1881, mostly addressed to Samuel Roberts and John Roberts, senior, from family and friends. The correspondents include Edward Davies, Newtown, 1833-1834 (ff. 4-13), Griffith a Maria Griffith, [c. 1858] (ff. 19-20), Richard Griffith, 1858 (ff. 21-23), Samuel Griffith[s], 1858-1859 (ff. 24-31), S. L. Lewin, Shrewsbury, [1833]-1834 (ff. 42-45), D. Morgan, Ogof, 1834 (ff. 46-49), David Rees, Llanelly, 1865, 1867 (ff. 53-56), J.R. and Rees Griffiths, 1834 (ff. 64-67), Thomas Weaver, Shrewsbury, 1825-1826 (ff. 80-83), and Sarah Yallowley, [1820s] (ff. 89-92).
Mae yna lythyrau drafft gan S.R., 1824, 1827, [1870au] (ff. 68-75), dau yn ymwneud a dadl gyda'r Parch. Richard Shut, Drenewydd, ac un at John Rylands. Mae rhai llythyrau yn cynnwys atebion drafft ac arnodiadau eraill gan S.R. = There are several draft letters from S.R., 1824, 1827, [1870s] (ff. 68-75), two concerning a dispute with the Rev. Richard Shut, Newtown, and one to John Rylands. Some letters include draft replies and other annotations by S.R.

Roberts, John, 1767-1834

Results 41 to 60 of 113