Showing 210 results

Archival description
Papurau Waldo Williams
Print preview View:

Nodiadau prifysgol Waldo Williams

Llyfrau nodiadau yn llaw Waldo Williams a ddefnyddwyd ganddo tra bu'n astudio yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth, gan raddio mewn Saesneg ym 1926. Cynhwysa'r cyfrolau yn bennaf nodiadau ar weithiau Shakespeare ac ar lenyddiaeth Llychlynaidd.

Y Gynghanedd Yfory

Nodiadau a baratowyd ar gyfer darlith dosbarth nos gan ac yn llaw Waldo Williams yn dwyn y teitl Y Gynghanedd Yfory.

Llyfr banc Waldo Williams

Llyfr banc o eiddo Waldo Williams, ac yn rhannol yn ei law, yn cynnwys manylion ei drafodion gyda Banc Barclays, 1934-1945. Mae'r sawl cyfeiriad cartref a arysgrifwyd o fewn y gyfrol yn dyst i symudiadau Waldo yn ystod y cyfnod hwn.

Seintiau Celtaidd

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys nodiadau ar seintiau Celtaidd, enghreifftiau o linellau cynghanedd a bras nodiadau eraill.

Amserlenni bws, barddoniaeth a hanes Cymru

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys yr hyn a ymddengys fel amserlenni bws, ynghyd â rhestrau o deitlau ac enwau yn ymwneud â barddoniaeth, llenyddiaeth a hanes Cymru, mesuriadau [?llenni] (gw. Llyfr nodiadau Linda a Waldo ), rhestr siopa, a bras nodiadau eraill.

Cynllun gwaith athrawon

Cynllun gwaith ar gyfer athrawon yn llaw Waldo Williams; ynghyd â chopi llawysgrif mewn llaw arall (ddiweddarach) o'r un nodiadau yn dwyn y teitl 'Scheme of Work'.

Llythyr oddi wrth Waldo Williams at Dilys Williams

Llungopi o lythyr, [1942], oddi wrth Waldo Williams at ei chwaer Dilys Williams. Crybwyllir yn y llythyr fod Waldo newydd gwblhau ei ddatganiad o wrthwynebiaeth cydwybodol i'r rhyfel ar gyfer ei achos yn y tribiwnlys ar 12 Chwefror 1942, a sonnir hefyd am bryderon Waldo ar ran ei wraig Linda (née Llewellyn), oedd yn poeni y byddai Waldo'n colli ei swydd (fel prifathro Ysgol Casmael, Sir Benfro) o ganlyniad i'w ddaliadau heddychol.

Llythyr oddi wrth Waldo Williams at Y Faner

Dwy ddalen llungopi ac un ddalen wreiddiol o lythyr, 1958, oddi wrth Waldo Williams at Y Faner, yn cynnig dadansoddiad eglurhaol o'i gerdd Mewn Dau Gae, a gyhoeddwyd yn rhifyn 13 Mehefin 1956 o'r wythnosolyn hwnnw.

Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif; Hywel Dda

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams sy'n cynnwys nodiadau a gymerwyd o Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif gan R. T. Jenkins (Gwasg Prifysgol Cymru, 1928); nodiadau ar Hywel Dda (c. 880-950); nodiadau ar hanes economaidd a gwleidyddol; a mân nodiadau eraill.

Nodiadau eraill Waldo Williams

Llyfrau nodiadau, llyfr banc a nodiadau rhydd, yn bennaf yn llaw Waldo Williams, gydag un llyfr nodiadau yn rhannol yn llaw ei wraig Linda (née Llewellyn).

Enwogion yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg a nodiadau eraill

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys, yn bennaf, nodiadau ar enwogion, llenyddiaeth a digwyddiadau nodedig yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg. Ymysg eraill, crybwyllir William Salesbury, Dr John Davies, Mallwyd, William Morgan, Wiliam Llŷn, Ellis Wynne a Morgan Llwyd o Wynedd. Ymysg y nodiadau ceir cerdd gan ac yn llaw Waldo Williams sy'n cychwyn 'Wele'r ddau Ioan, er rhwyg eu hoes ...', sy'n sôn am y ddau ferthyr John Roberts, Rhiw-goch, Trawsfynydd a John Penry, Cefn-brith, Llangamarch.

[Llyfr nodiadau Linda a Waldo]

Llyfr nodiadau yn rhannol yn llaw Linda (née Llewellyn), gwraig Waldo Williams, yn cynnwys mesuriadau a phrisiau carpedi a llenni ar gyfer y cartref (gan nodi fod angen llenni 'black-out' i ambell ffenest) a rhestr siopa ('What Linda wants'); ynghyd â nodiadau bras yn llaw Waldo Williams yng nghefn y gyfrol. Nodir yr enwau 'Waldo' a 'Linda' ar glawr y gyfrol.

Gohebiaeth at Waldo Williams

Llythyrau a chardiau post wedi'u cyfeirio at Waldo Williams, yn bennaf oddi wrth aelodau o'i deulu, gan gynnwys ei wraig, Linda, a chan gyfeillion, gan gynnwys llythyrau a anfonwyd ato yn ei gystudd olaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd, 1970-1971.

Llythyrau at Waldo Williams oddi wrth David Williams

Llythyrau, 10 Mawrth [1960] a 5 Chwefror 1961, at Waldo Williams oddi wrth ei nai, David Williams, tra 'roedd yr olaf yn cyflawni gwasanaeth milwrol fel fferyllydd mewn gwersylloedd ym Malaysia. Yn y llythyr cyntaf cyfeirir at fywyd bob dydd David Williams yn y gwersyll milwrol yn Kuala Lumpur, ynghyd â'r bwriad i'w symud i wersyll yn Taiping; cyfeirir hefyd at Jim a Winnie Kilroy, sef y Crynwyr y bu Waldo'n lletya gyda hwy ers hanner cyntaf y 1950au, yn symud o'u ffermdy i dŷ cyngor yn Johnston, Sir Benfro, digwyddiad a'i gwnaeth yn ofynnol i Waldo chwilio am lety newydd. Mae'r ail lythyr yn sôn yn bennaf am fywyd David Williams yn y gwersyll milwrol yn Taiping, ynghyd â sylwadau am ŵyliau gwahanol grefyddau'r wlad; ceir hefyd gyfeiriadau at "Anti Dil" (Dilys Williams, chwaer Waldo Williams a modryb David Williams), ac at [The] Old Farm House [sic], cyfieithiad Waldo Williams o Hen Dŷ Fferm gan D. J. Williams a gyhoeddwyd ym 1961.

Results 41 to 60 of 210