Showing 62 results

Archival description
Papurau Meic Povey,
Print preview View:

Llyfr nodiadau,

Llyfr nodiadau, 1988-1989, gan gynnwys nodiadau bras ar Glas y Dorlan, cyfres VI: Ewyllys Da, a Pobol y Cwm, cyfres 15: pennod 179.

Pobol y Cwm,

Llyfr nodiadau Pobol y Cwm, 1989, gan gynnwys nodiadau a sgriptio bras ar gyfer penodau 60 a 79: cyfres 16.

Y Filltir Sgwâr,

Llyfr nodiadau Y Filltir Sgwâr, 1989, gan gynnwys nodiadau a sgriptio bras ar gyfer penodau 5 a 6.

Dinas,

Llyfr nodiadau y ddrama deledu Dinas, gan gynnwys nodiadau a sgriptio bras ar gyfer pennod 34: cyfres 5, Rhagfyr 1989, a phennod 41: cyfres 6, Ionawr 1990.

Tair,

Llyfr nodiadau y ddrama lwyfan Tair, 1997-1998, gan gynnwys syniadau bras ar y set a'r cymeriadau, a drafft cynnar o'r sgript.

Deunydd printiedig,

Torion o'r wasg a chylchgronau, 1968-2007, gan gynnwys cyfweliadau â Meic Povey ac adolygiadau o'i waith.

Adolygiadau,

Torion o'r wasg, 1978-2007, yn cynnwys adolygiadau o weithiau teledu, radio a llwyfan Meic Povey.

Cylchgronau,

Cylchgronau, 1978-2007, gan gynnwys cyfweliadau â Meic Povey ac adolygiadau o'i waith.

Rhaglenni theatr,

Rhaglenni theatr yn gysylltiedig â gwaith Meic Povey fel dramodydd, actor neu aelod o'r tîm cynhyrchu, 1966-2008.

Gohebiaeth,

Gohebiaeth, 1968-2008, yn cynnwys llythyrau yn ymwneud â gwaith Meic Povey yn gyffredinol, 1968-2008; gohebiaeth yn trafod y ddrama Life of Ryan...and Ronnie, 2000-2007; a pheth gohebiaeth bersonol, 1987-2006.

Gohebiaeth yn ymwneud â'i waith,

Gohebiaeth, 1968-2008, yn ymwneud â gwaith Meic Povey fel dramodydd, gan gynnwys llythyron ac e-byst oddi wrth cwmnïau theatr a theledu yn trafod prosiectau; llythyron o longyfarch ar lwyddiant dramâu megis Nel a Sul-y-Blodau; ynghyd â pheth gohebiaeth gyffredinol yn cyffwrdd ar ei waith. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyr, dyddiedig 1994, gan Emyr Llywelyn Jones a chopi atodol o araith a fwriadodd ei roi o'r doc pan gafodd ei ddedfrydu yn 1963 am ei weithredoedd yn dilyn boddi Cwm Tryweryn.

Llywelyn, Emyr

Gohebiaeth bersonol,

Llythyron personol a dderbyniwyd gan Meic Povey, 1987-2006, gan gynnwys llythyron o ddiolch a llythyron o gydymdeimlad ar brofedigaethau.

Results 41 to 60 of 62