Showing 318 results

Archival description
Papurau Eifion Wyn,
Print preview View:

EW at 'Tryf',

Yn danfon y pethau y gofynnwyd amdanynt [gweler rhif 132]. Sylwadau cellweirus.

EW at 'Wil Bryan', Towyn,

Eisteddfod Towyn - diolch am y gydnabyddiaeth hael. Gobeithio nad yw wedi tramgwyddo Geufronydd. Y 'neuritis' wedi ei adael am y tro.

Copïau o gyfieithiadau gan y Parch. William Evans ('Wil Ifan'),

Llyfryn yn cynnwys copïau teipysgrif o gyfieithiadau gan y Parch. William Evans ('Wil Ifan') o chwech o gerddi EW, ynghyd â cherddi eraill (cf. rhif 215). 8 ff. F. 1: 'The Stars' ['Y Sêr'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 78]. F. 2: 'Hadst Thou But Love' ['Pe Bai Gennyt Serch'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 39]. F. 3: 'October' ['Hydref'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 72]. F. 4: 'November' ['Tachwedd'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 73]. F. 5: 'The Hedgerows of May' ['Perthi Mai'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 88]. F. 6: 'April' ['Ebrill'; gweler Telynegion Maes a Môr, t. 64]. F. 7: 'Embarking' ['Gadael Tir' gan R. Williams Parry; gweler Yr Haf a Cherddi Eraill (Gwasg Y Bala, 1924), tt. 93-4]. F. 8: 'Rehoboth' [gan W. E. Crwys Williams; cyhoeddwyd yn Cerddi Crwys, yr ail argraffiad (Llanelli, 1920), t. 147].

EW at 'Wil Bryan',

Rhaid iddo wrthod [gweler rhifau 138-9] am iddo eisoes addo beirniadu mewn tair eisteddfod rhwng Ebrill a Gorff. 1922.

EW at Cynon Evans,

Yn danfon y penillion [gweler rhif 9, f. 5] ar gyfer yr anthem gan ymddiheuro am yr oedi. Bydd hanner coron yn fwy na digon o dâl amdanynt - caiff fynd i flwch casglu Peredur. 2 Ddrafft.

J. R. Morris, Lerpwl,

Penderfynwyd danfon cydnabyddiaeth o dair gini yr un iddo ef a Pedrog am feirniadu yn Eisteddfod y Ddraig Goch. Beirniadaeth EW ar y 'Myfyrdraethau'. Wedi bwriadu danfon pryddest i Eisteddfod Y Bala.

EW at 'Gyfaill cu',

Dim amser ganddo i gyfieithu dim iddo - mae 'ceisiadau o bob math yn ymdywallt' ar ei ben. Yn dyfynnu ei gyfieithiad o'r gân 'Thanks be to God' [cf. rhif 12, f. 10]. 2 Ddrafft.

John Lloyd, Dolgellau,

Holi am wybodaeth yngl?n â chyfansoddi'r emyn 'Os wyt yn flin o dan dy faich' a ddewiswyd ar gyfer Cylchwyl Harlech, 1923.

E. Tegla Davies, Dinbych,

Cais am ddarn o farddoniaeth ar gyfer Y Winllan. Yn danfon rhodd [copi o Tir y Dyneddon; gweler rhif 416] fel arwydd o'i barch mawr tuag ato.

Copïau o gerddi a gyfansoddwyd i EW,

Copïau llawysgrif a theipysgrif o gerddi a gyfansoddwyd i EW. 16 ff. Ff. 1-7: 'Ar gyflwyniad "Cap and Gown" i Eifion Wyn MA (Cymru)', gan W. Ross Hughes, Borth-y-gest, 10 Gorff. 1919. 2 gopi. Ff. 8-11: 'I Eifion Wyn (Bryd Swper yn "Arvonia" Porthmadog, nos Wener, 11-7-19, pan gyflwynwyd, ar ran ei gyfeillion ym Mhorthmadog a'r cylch, y wisg etc ofynol ar gyfer dydd ei raddio yn MA gan Brifysgol Cymru, 15-7-19)', gan 'T. J. Cynfi' [T. Cynfi Jones, 'Cynfi', Porthmadog]. 2 gopi. F. 12: Englyn 'Penblwydd Eifion Wyn', 2 Mai 1921. Dienw. Ff. 13-15: Englynion 'O graig hen yn grai ogoniant...', gan Tom Owen. F. 16: Englyn 'Y Prif-fardd Eifion Wyn, MA'. Dienw.

Results 41 to 60 of 318