Dangos 47 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau teuluol Delwyn Tibbott,

  • NLW ex 2831.
  • ffeil
  • 1889-1942, 1977.

Eitemau amrywiol yn ymwneud â theulu'r rhoddwr, gan gynnwys llyfr ymwelwyr Eleazar Tibbott, brawd ei daid, 1910, yn ystod cyfnod ei waeledd, a phregethau ganddo; dyddiadur gwaith, 1912-1913, ei dad-cu fel Arolygwr dan Ddeddf Insiwriant Lloyd George 1911; cyfrol a gyflwynwyd i'w daid yn 1942 ar achlysur ei ymddeoliad o'i swydd fel ysgrifennydd Eglwys y Tabernacl, Aberystwyth; a nodiadau esboniadol i gyd-fynd â hwy.

Papurau W. J. Gruffydd,

  • NLW MS 17305D.
  • ffeil
  • 1899, 1901 /

Papurau gan ac yn llaw W. J. Gruffydd sy'n cynnwys llythyr dyddiedig 12 Medi 1899 oddi wrth W. J. Gruffydd at Thomas Owen Jones, Coventry (rhoddwr y llawysgrifau) sy'n amgau cywydd wedi'i chyfeirio at T. O. Jones ac sy'n dwyn yr un dyddiad â'r llythyr; a cherddi yn dwyn y teitlau 'Baled Bywyd' a 'L'Envoi'. Dynodir fod y ddwy gerdd olaf, yn ôl pob tebyg, wedi'u cyfansoddi yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen a dyddir hwynt 4 Ionawr 1901 = Holograph manuscripts of W. J. Gruffydd comprising a letter dated 12 September 1899 from W. J. Gruffydd to Thomas Owen Jones, Coventry (donor of the papers) enclosing a cywydd addressed to T. O. Jones which bears the same date as the letter; and poems entitled 'Baled Bywyd' and 'L'Envoi', both apparently written at Jesus College, Oxford and dated 4 January 1901.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

Cofrestr aelodau Capel Seion, Treforris,

  • NLW MS 16640B.
  • ffeil
  • 1888-1900 /

Llyfr cofrestr aelodau Eglwys y Bedyddwyr yn Seion, Treforris, 1888-1900, yn llaw'r Parch. R[obert] Roberts (Meinydd) (ff. 1 verso-45). = A register of members of Seion Baptist Church, Morriston, 1888-1900, in the hand of the Rev. Robert Roberts (Meinydd) (ff. 1 verso-45).
Ceir yn y gyfrol hefyd ambell i nodyn personol neu swyddogol gan Meinydd (ff. 1, 90 verso, 93 verso-95 verso, a thu mewn i'r cloriau). = The volume also includes a few personal and official memoranda by Meinydd (ff. 1, 90 verso, 93 verso-95 verso, and inside the covers).

Roberts, R. (Robert), Meinydd, 1842-1900.

'Randibŵ' a 'Gwifrau'r Gyfraith'

  • NLW ex 2342
  • ffeil
  • 1935-1947

Copi teipysgrif o ddrama i blant gan Eic Davies, c.1947, a chopi teipysgrif o ddrama mewn un act gan Ronald Gow, wedi ei throsi i'r Gymraeg gan Selwyn Jones, 1935.

Davies, Eic, 1910-1993

Ysgrifau a cherddi amrywiol

  • NLW Facs 983
  • ffeil
  • 1928-1966

Llungopi o ddau draethawd mewn llawysgrif ar bynciau cerddorol o bosibl ar gyfer Cerddoriaeth Cymru, y naill yn dwyn y teitl 'Yr ymdaith gerddorol' gan Ben Bowen Thomas a'r llall yn dwyn y teitl 'Ceisio dysgu' gan Kate Roberts.Yn ogystal, mae copi o gerdd mewn llawysgrif gan Nansi Richards, a gyflwynwyd i'r Faner o bosibl, ynghyd â mân bethau yn ymwneud yn bennaf â Chymry Llundain megis bwydlen cinio Cymdeithas Ceredigion Llundain 1928.

Thomas, Ben Bowen, 1899-1977

Soar y Mynydd : llyfrau ymwelwyr,

  • NLW ex 2514.
  • ffeil
  • 2000-2011.

Llyfrau ymwelwyr Eglwys Bresbyteraidd Soar y Mynydd, Llanddewibrefi, Ceredigion, 2000-2011, yn cynnwys cofnod am y gwasanaethau a gynhaliwyd. = Visitors' books of Soar y Mynydd Presbyterian church, Llanddewibrefi, Ceredigion, 2000-2011, with notes on the services held.

Canlyniadau 41 i 47 o 47