Dangos 982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd
Rhagolwg argraffu Gweld:

Barddoniaeth amrywiol: 'The Odyssey of Man' gan Granville F. Bilbrough, Birmingham, ynghyd â llythyr, 7 Awst [19]52; cyfieithiadau o farddoniaeth ...,

Barddoniaeth amrywiol: 'The Odyssey of Man' gan Granville F. Bilbrough, Birmingham, ynghyd â llythyr, 7 Awst [19]52; cyfieithiadau o farddoniaeth a llythyr 28 Tachwedd [19]31 gan J. Ceinionydd Roberts, Manceinion; Englynion Coffa - 'Fy Nhad' o waith G. Prys Jones, Caergybi; 'Y Gwys Unig' gan W. R. Jones, Wrecsam; 'Yno' gan W. Francis Hughes, Beddgelert; 'Y Cwm Unig' gan J. M. Edwards; 'Y Wyddfa' gan Alun Lewis, Waenfawr; 'Y Tir Pell' gan J. M. Edwards; 'Anobaith' gan T. G. Jones, Rhydaman; 'Chwilota' gan E. P. Jones, Tumble; 'Hiraeth' gan W. Hughes, Cpc Aberystwyth; 'Cwm Silyn' gan Mathonwy Hughes; 'Rhinwedd' cyfieithiad gan T. I. Phillips, Aberystwyth; ac ysgrif 'Y Bws Bore' gan W. R. Owen, Caerdydd, Chwefror 1931.

Beirniadaeth W. J. Gruffydd yng nghystadleuaeth y Goron, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi, 1942. Ceir nodyn yng nghyfrol Cyfansoddiadau ... yr ...,

Beirniadaeth W. J. Gruffydd yng nghystadleuaeth y Goron, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi, 1942. Ceir nodyn yng nghyfrol Cyfansoddiadau ... yr eisteddfod honno fel a ganlyn: 'Oherwydd gwaeledd ni allodd yr Athro W. J. Gruffydd baratoi ei feirniadaeth ar gyfer y gyfrol hon. Ond deallwn ei fod yn anghytuno â'i gydfeirniaid, a dywaid mewn llythyr ei fod yn ddi-sigl o'r farn (a) nad Aneirin yw'r gorau, (b) nad oes neb yn haeddu'r goron.' Barn yr Athro Gruffydd felly ydyw na ddylid coroni. Yn ôl rheol 14 yn y 'Rheolau ac Amodau' yn y Rhestr Testunau, 'barn y mwyafrif o'r beirniaid ar unrhyw gystadleuaeth a saif, a gwobrwyir yn unol â hynny.' [Y buddugol oedd Herman Jones, Deiniolen].

B[en] B[owen] Thomas, Harlech,

Ymateb i anogaeth W. J. Gruffydd i gynnig am swydd pennaeth y BBC yng Nghymru. Nid yw'n teimlo y byddai'n hapus nac yn llwyddiannus yn y swydd. Mae ganddo ddiddordeb yn, a hoffter at ei waith presennol. Nid fel 'pwyllgorddyn' y cofir am W. J. Gruffydd ond fel ysgolhaig a llenor. Mae fel petai pethau wedi eu tynghedu i fynd o chwith gyda'r BBC yng Nghymru. Gobeithia'n fawr y ceir rhywun teilwng i'r swydd. Effaith y Rhyfel Mawr ar wlad fechan yw'r ffaith fod cyn lleied o fechgyn ar gael ar gyfer swyddi tebyg. Clywodd yntau si fod Morgan Humphreys yn bwriadu cynnig a byddai'n debyg o wneud yn dda.

B[en] B[owen] Thomas, Harlech,

Mae'n teimlo rhwymedigaeth i hysbysu W. J. Gruffydd iddo glywed oddi wrth Emrys Evans ar fater y BBC ac iddynt gyfarfod ym Meddgelert ddoe. Ar ôl sgwrsio cytunodd Ben Bowen Thomas i gyfarfod â'r pwyllgor 'without obligation on either side'. Gresyn bod yn rhaid iddo wneud y fath ddewisiad cas.

B[en] B[owen] Thomas, Harlech,

Nid oes ganddo ddim i'w ychwanegu i'r hyn sydd yn y Bulletin a'r rhaglen goffa. Y mae llyfr festri Llanfair ar gael a chofnodion y plwyf. Gwelodd Sir John E[dward Lloyd] y cofnodion ond nid oes dim at bwrpas W. J. Gruffydd yn y llyfr festri. Mae'n dda ganddo ddeall fod W. J. Gruffydd yn paratoi argraffiad newydd [o waith Ellis Wynne] ac os gall helpu drwy edrych ar bethau drosto yn y cylch, bydd yn falch o gael gwneud hynny.

Ben Owen, Llanberis,

[R.] Bryn Williams, y Capel Coch, Llanberis, yw awdur Y Ddarlith Olaf ar J. Morris Jones. Nid anghofir safiad gwrol W. J. Gruffydd adeg helynt Llyn. Braf yw cael teimlo os dwy farn, un galon. Cerdyn post.

'Bill' [William J. Williams], Caerdydd,

Awgrymwyd enw W. J. Gruffydd ar gyfer bod yn gynrychiolydd Cymru ar Bwyllgor yr Ysgolion Bonedd. Byddai'n well ganddo weld W. J. Gruffydd yn gwasanaethu ar y Pwyllgor Ail-lunio and nid yw ei enw wedi ei gynnwys ar gyfer hwnnw. Cyhoeddwyd yr enwau yn Nhy'r Cyffredin y noson cynt. Y mae William J. Williams ei hunan ar y pwyllgor hefyd. Mae'n trefnu iddynt fynd i Aberteifi ddydd Mawrth Gwyl y Banc a daw Wheldon i lawr gyda William Thomas. Mae Tom Owen yn holi os oes modd iddynt aros yn Abergwaun. Y syniad yw mynd i Aberteifi ddydd Mawrth neu ddydd Mercher a dychwelyd ddydd Iau neu ddydd Gwener.

Blodwen [Jane Parry], Bethel,

Anfon beth a ddywedodd 'Celt' am W. J. Gruffydd yn y Daily Post. Credai hithau ei fod yn swnio'n ddigalon yn ei nodiadau golygyddol i'r Llenor. Mae'n ei annog i beidio â thorri ei galon pan fydd 'ambell i hen granc yn brathu yn o hegar'. Clywodd rai'n dweud lawer gwaith mai ef yw'r llenor Cymraeg a'r beirniad llenyddol gorau'n fyw. Mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n cyfrif yng Nghymru heddiw o'i blaid. Newyddion lleol. Trefnu lle i'r plant sydd yn dod yno i osgoi'r cyrchoedd awyr. Mae llawer iawn o ddwr yn dod i'r ty.

Blodwen [Jane Parry], Bethel,

Mae'n falch o glywed ei fod yn bwriadu dod adref dros y Nadolig. Pe bai'n medru dod yn amlach hwyrach na fyddai mor ddigalon. Mae'n ofni iddo 'fynd o'i go' gan bod hanes am hynny'n digwydd ar ddwy ochr y teulu. Hyderu iddo gael hwyl ar ei ddarlith yn Rhydychen. Mae disgwyl mawr amdano i ddarlithio ym Methel hefyd. Newyddion lleol.

Bob Owen, C.P.G.C. Bangor,

Ceir 'Bedd fy nghariad' yn llyfr cyntaf 'Ionoron [Glan Dwyryd'], sef Lloffyn y Gweithiwr (Bala, 1852). Methwyd â chael hyd i gofnod am ei farw. Nid oes copi o'r Cenhadwr Americanaidd (1882-3) ganddo ef yn bersonol nac ym Mangor ychwaith. Cerdyn post.

Bob Owen, Croesor,

Yn y Cefnfaes, Blaenau Ffestiniog, y ganed Rowland Walter, 'Ionoron Glan Dwyryd' yn 1819. Cafwyd hyd i'r wybodaeth yn Y Drych (15 Medi 1905). Bu farw yn 64 oed yn Hydeville, Vermont, ym Mawrth 1884. Deheuwr oedd ei dad, Walter Davies a'i fam yn frodor o Lanuwchllyn. Bu'n lled aflwyddiannus fel cystadleuydd eisteddfodol. Onid yw Cerddi Dr T. H. Parry-Williams yn odidog?.

Bob Owen, Croesor,

Hanes llosgi llawysgrifau a llyfrau Ellis Wynne yn Erw Fair, Beddgelert, yn ôl yr hyn a ddywedodd 'Carneddog'. Arbedwyd ambell eitem yn llaw William Wynne a'u trosglwyddo i'r Llyfrgell Genedlaethol. Hanes Beibl Mawr Ellis Wynne a fu ym meddiant teulu ym Mhren-teg. Hanes bwrdd a fu'n eiddo i Ellis Wynne, 1699, mewn arwerthiant ger Pwllheli. Manion am rai sy'n honni eu bod yn ddisgynyddion i Ellis Wynne.

Bob Owen, Croesor,

Rhestrir yr hyn sy'n hysbys ganddo am Ellis Wynne o'r Lasynys. Cynhwysir cartau achau o ochr ei dad, o ochr ei nain a Thalytreuddyn, rhai Lowri Llwyd, ail wraig Ellis Wynne, yn ogystal â rhai y wraig gyntaf. Ceir adysgrif hefyd o'r rhigwm a gyfansoddwyd gan 'Y Tiwniwr Du' yn 1702 i Ellis Wynne.

Bob Owen, Croesor,

Sôn am gywydd yn llawysgrif Caerdydd 64 i Hwmffre Llwyd o Hafod Ysbyty, plwyf Ffestiniog, o waith Ellis Rowland, bardd o Harlech. 'Roedd Hwmffre Llwyd yn ddisgynnydd o Siôn Prys, merch Edmwnd Prys. Gobeithio gweld W. J. Gruffydd yn Ysgol Haf y Bala. Mae'n gobeithio prowla o gwmpas Ardudwy cyn bo hir er mwyn cael mwy o hanes Ellis Wynne. Mae disgynnydd iddo'n byw yn Llanbedr, yn ôl yr hanes, sy'n perchen creiriau a berthynai i Ellis Wynne.

Bob Owen, Croesor,

Ymddangosodd Cerdd yr Hen Wr, David Charles (Iau), gyntaf mewn cyfnodolyn o'r enw Yr Addysgydd IX (1823), tt. 107-8. 'Y Cardotyn' yw'r teitl yno. Manylion am Rowland Walter 'Ionoron Glan Dwyryd'. Mae darlun ohono yn Cymru (O. M. Edwards) cyf. 48 (1915), t. 225, ynghyd ag ychydig o'i waith barddonol. Mae gan Bob Owen ddau neu dri llythyr o'i eiddo at ei frawd, William Walter, ynghyd â'r ddau lyfr a gyhoeddwyd ganddo. Diolch am Y Llenor ac am yr 'Atgofion' yn enwedig. Mae 'canmol mawr arnynt ond gan hen bregethwyr M.C. a blaenoriaid'. Atgofion Bob Owen am gyfarfod â thad W. J. Gruffydd.

Bob Owen, Croesor,

Mae'n amgau adysgrif o Gywydd Marwnad Siôn Rhydderch i Ellis Wynne a godwyd o Lawysgrif Tanybwlch. Nid oes unrhyw wybodaeth arall am Ellis Wynne yn y llawysgrif honno. 'Cywydd salw, dienaid' ond yr unig un sydd ar gael i Ellis Wynne. Mwy o wybodaeth am achau Ellis Wynne, etc. Mae Bob Owen am geisio am le ar y Cyngor Sir dros blwyf Llanfrothen. Mae'n aelod o'r Blaid Genedlaethol er 1925 ond nid yw am gyhoeddi'r ffaith honno, dim ond gweithredu egwyddorion y Blaid yn gall os caiff ei ethol. Mae am wrthwynebu'r rhai sy'n mynd ar y Cyngor Sir er mwyn parchusrwydd ac anrhydedd, snobyddion gan mwyaf yn aelodau o'r Seiri Rhyddion. Gwell ganddo'r gwir ysweiniaid toriaidd. Mae am wneud ei orau i geisio cadw'r ysgolion gwlad yn fyw a chadw'r plant yno hyd nes y'u bod yn 13 oed. Melltith yw'r Ysgolion Canol sy'n tynnu plant o'r wlad 'i snobydda mewn pentrefydd mawr a threflannau.' Cynhwysir adysgrif o'r Cywydd Marwnad i Ellis Wynne.

Canlyniadau 41 i 60 o 982