Dangos 1284 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Coleg Bala-Bangor, 1951-1986

Papurau’n ymwneud â Choleg Bala-Bangor, 1951-1986, yn cynnwys: pum ‘Deeds of Trust’ yn ymwneud â chyflogaeth RTJ, 1951-1981; rhestrau enwau myfyrwyr noddedig y Coleg, 1973-1976 a 1985/6; a llyfr cyfrifon RTJ yn nodi gwariant, 1965-1967.

Llyfr nodiadau

Llyfr nodiadau yn cynnwys dyfyniadau yn llaw Gwenallt, [1962]-[?1968], o lyfrau diwinyddol yn nodi’r gweithiau printiedig, rhifau tudalen a rhai ffynonellau llawysgrif. Maent yn ymwneud â John Bunyan, Williams Pantycelyn ac eraill ac mae’r mwyafrif mewn Saesneg.

Dramâu Cymraeg

Sgritptiau gan gynnwys ’ Y groes grwca’, 1946;’ Yr Etifeddwyr’ (drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955) a ddarlledwyd yn 1956; ‘Corn Beca’, drama fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955 a sgriptiau radio, 1956 a 1964; ‘Sadwrn’, darlledwyd yn 1965; ‘Cartref’, drama un act, 1961, a chyd-fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno, 1963 , a drama deledu, 1967.

Under Milk Wood

Papurau’n ymwneud â’r Llareggub Players y bu Gwynne D. Evans yn gynhyrchydd arnynt. Ceir poster a rhaglenni, ynghyd â chopi cynnar o drosiad T. James Jones sef Dan y Wenallt, [1967].

Dramâu Saesneg

Sgriptiau gan gynnwys ‘New lamps for old’, 1948; ‘Home sweet home’ (translation of ‘Cartref’), [1961]-[1963]; ‘The lilac tree’, 1968; ‘Escape route’; 'A fight for boyo', 'The milestone' ac 'At the milestone' ; 'The green parrot'; 'Black pastures'; 'Muted strings' a ‘Not without honour’ (drafft cyntaf, 1979).

Dramâu Saesneg

Sgriptiau gan gynnwys ‘Judith’; ‘A bride for Moc’; ‘A fight for boyo’; ‘On a Saturday’; a ‘Children of the white gloves’, ynghyd â sgript 'The voice of Merlin. A pageant of Carmarthenshire' gan Ken Etheridge a Gwynne D. Evans.

Gohebiaeth

Llythyrau yn ymwneud â byd y ddrama, gan gynnwys llythyr oddi wrth y dramodydd E. Eynon Evans, 1974.

Canlyniadau 41 i 60 o 1284