Showing 556 results

Archival description
series Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Cyfrifon,

Llyfrau cyfrifon yn cynnwys llyfr cyfrifon yr eisteddleoedd, 1904-1947, llyfr y trysorydd, 1915-1943, llyfrau casgliadau'r weinidogaeth, 1919-1949, llyfr 'trysorfa'r tlodion', 1922-1949, a chyfrifon casgliad 'ceiniog yr wythnos', 1935-1947.

Papurau yn ymwneud â'r Ysgoloriaethau

Mae'r gyfres yn cynnwys teipysgrifau o gynnyrch Gwobr Goffa Saunders Lewis, gan Angharad Price, enillydd cyntaf yr ysgoloriaeth, 1994-1995, yn dwyn y teitl 'Smentio Sentiment - Beirdd Concrid Grŵp Fiena 1954-1964', a theipysgrif a chopi cyhoeddedig, 1998, o ffrwyth llafur Heather Williams, deiliad un o'r ysgoloriaethau, gyda'r teitl Barddoniaeth i Bawb? Stèphane Mallarmé.

Papurau ariannol

Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrifon Pwyllgor Rheoli Cronfa Goffa Saunders Lewis, 1989-2000, gohebiaeth Trysorydd y Pwyllgor Rheoli, 1990-1994, llyfr cyfrifon Pwyllgor Sir Gaernarfon, 1992-1993, a ffeil trysorydd Pwyllgor Sir Gaernarfon, 1992-1995.

Cofrestri,

Llyfrau cofrestri Eglwys Ebenezer, Y Tymbl, yn cynnwys llyfr yn rhestri'r aelodau, 1949-1957; cofrestr bedyddiadau, 1923-1992; llyfr claddfa, 1910-1983; llyfryn llythyron aelodaeth, 1977-1999; a llyfr ysgrifennydd yr Ysgol Sul, [c. 1960]-[c. 1970]. Ceir hefyd llyfr nodiadau o gofnodion o bregethau a bregethwyd yn Abergeirw ym 1907.

Results 41 to 60 of 556