Showing 188 results

Archival description
Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Print preview View:

Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

  • GB 0210 UWCHEFRYD
  • Fonds
  • [1921x1930], a 1970-2017

Gohebiaeth a phapurau, [1921x1930]; 1970-2017, yn ymwneud â sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a gweithgareddau'r Ganolfan, ac adran cyntaf Ysgol Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru, y rhan fwyaf yn cynnwys papurau gweinyddol a gohebiaeth gysylltiedig; yn cynnwys llythyrau oddi wrth staff a myfyrwyr y Ganolfan a phrifysgolion a sefydliadau academaidd eraill. Mae’r cofnodion yn cynnwys cofnodion pwyllgorau a chyrff gweinyddol y Ganolfan, a phapurau cysylltiedig, 1977-2017; papurau yn ymwneud â gweithgareddau’r Ganolfan a’i staff, yn cynnwys digwyddiadau, 1974-1994, a gwaith ymchwil a pharatoi cyhoeddiadau, 1980-1993; papurau ariannol, 1972-1991, yn cynnwys papurau yn ymwneud â chodi arian ac Apêl Syr Thomas Parry-Williams, ysgoloriaethau, a cheisiadau am grantiau mewnol ac allanol; a chofnodion yn ymwneud â datblygiad sefydliadol y Ganolfan, [1921]-1993, yn cynnwys rhai cofnodion yr Adran Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru, agoriad swyddogol y Ganolfan, cartrefi’r Ganolfan, materion staffio, a datblygiad Llyfrgell y Ganolfan.

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Agenda a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Medi 1989; chofnodion cyfarfod Medi 1988 a Medi 1989; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1988-1989 (1989); adroddiad ariannol y Ganolfan, 1988-1989 (1989); nodiadau’r Cadeirydd, Medi 1987; cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol Prifysgol Cymru (1989), a chofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Staffio Prifysgol Cymru (1989). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1987-1989), yn cynnwys llythyrau oddi wrth M. A. R. Kemp; N. T. Hardyman; Gareth Wyn Evans; R. Geraint Gruffydd; a Bedwyr Lewis Jones.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Medi 1989; a chofnodion cyfarfod a Chyfarwyddyd i’r Cadeirydd, Hydref 1990; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1988-1989 (1989); adroddiad ariannol y Ganolfan, 1989-1990 (1990); a nodiadau ar gyhoeddiadau aelodau staff [1990]. Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1990), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gareth Wyn Evans; R. Geraint Gruffydd; M.A.R. Kemp; Kenneth O. Morgan & R. Geraint Gruffydd; a Susan Jenkins.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan yn cynnwys agenda, chofnodion cyfarfod , a nodiadau’r Cadeirydd, Hydref 1991; chofnodion cyfarfod, Hydref 1990; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1990-1991 (1991); ac adroddiad ariannol y Ganolfan, 1990-1991 (1991). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod trefnu'r cyfarfod a materion gweinyddol (1991-1992), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Kenneth Morgan; M.A.R. Kemp; Hywel Wyn Jones; D. Simon Evans; Morfydd E. Owen; ac R. Geraint Gruffydd.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Medi 1992; agenda a chofnodion cyfarfod, Medi 1993, yn cynnwys adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1992-1993 (1993), ac adroddiad ariannol (1993). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1993), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Kenneth O. Morgan; R. Geraint Gruffydd; J. D. Pritchard; J. Gwynn Williams; Gareth Wyn Evans; John Andrews; a Syr John Meurig Thomas.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Agenda, cofnodion cyfarfod, a’r Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 1996; cofnodion cyfarfod, Medi 1995; adroddiad blynyddol y Ganolfan 1995-1996 (1996); datganiad ariannol y Ganolfan (1996); a chopi o’r Cynllun Strategol y Gofrestrfa a Gwasanaethau Canolog y Brifysgol, 1996-1997 i 2000-2001 (1996). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1996-1997) yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ruth ab Ieuan; Gareth Wyn Evans; Branwen Jarvis; Geraint H. Jenkins; a Derec Llwyd Morgan.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Agendâu, Cyfarwyddyd I’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli, Ebrill 1998 a Medi 1998; adroddiad blynyddol y Ganolfan 1997-1998 (1998); adroddiad ar ariannu’r Ganolfan, Mawrth 1998, a manylion incwm a gwariant y Ganolfan 1991-1997 (1998); adroddiad drafft o gyfarfod y Pwyllgor a sefydlwyd gan y Cyngor i adolygu sefyllfa’r Ganolfan (1998); a chopi o gylchlythyr y Ganolfan, rhif 1 (1998). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1998), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ruth ab Ieuan; Lynn Williams; Geraint H. Jenkins; Jeffrey Pritchard; Gwyn Thomas; Frances Good; a Tony Linforth.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Agendâu, Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Ionawr 2000 a Mai 2000; cofnodion cyfarfod, Hydref 1999; adroddiad ariannol, 1999-2000 (2000), ac adroddiad blynyddol, 1999-2000 (2000); agenda a Chyfarwyddyd i’r Cadeirydd, Hydref 2000; dyraniadau cyllid (2000); cofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Ymarferiad Asesu Ymchwil, Medi 2001; a manylion prosiect ‘The Welsh Romantic Tradition’ (2000). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1999-2000), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Myrddin ap Dafydd; Geraint H. Jenkins; Ruth ab Ieuan; Aeres Davies; Yvonne Hawkins; Ian George; Sara Lee Branch; Branwen Jarvis; Derec Llwyd Morgan; Roy Evans; John King; R. H. Williams; Gillian Birch; a John Andrews.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 2002; agenda, cofnodion cyfarfod a Chyfarwyddyd i’r Cadeirydd, Chwefror 2003; a dogfen Rheoli Sefydlog Llys y Brifysgol, Prifysgol Cymru (2001). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2003), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Patrick Sims-Williams; Ruth ab Ieuan; Geraint H. Jenkins; Ann Parry Owen; Richard Wyn Jones; Gwenan Creunant; Branwen Jarvis; Andrew Green; Beryl Wyn Jenkins; a Penny Dransart.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod ac agendâu Corff Llywodraethol y Ganolfan, 1978-1979; Adroddiad y Llyfrgellydd 1978-1979 (1979); adroddiad ariannol (1979); Adroddiad Blynyddol y Ganolfan 1978-1979 (1979); memoranda; copi o gyfansoddiad drafft y ganolfan (1977); a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1978-1979) oddi wrth J. E. Caerwyn Williams; Ieuan Gwynedd Jones; Glanville Price; Graham L. Rees; R. R. Davies; Dafydd Jenkins; Harold Carter; a W. W. Dieneman.

Cofnodion cyfarfod ac agendâu

Cofnodion y Cyfarfodydd Penaethiaid Prosiectau, Ionawr , Chwefror, Ebrill, Gorffennaf, Medi, Hydref, a Rhagfyr 2006; ac agendâu’r Cyfarfodydd Penaethiaid Prosiectau, Chwefror, Ebrill, Mehefin, Gorffennaf, Medi, Hydref, a Rhagfyr 2006. Yn ogystal, ceir copi o Adolygiad o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ar’ Bwrdd Gwybodau Celtaidd Cyngor y Brifysgol (Mehefin 2006); a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2006), oddi wrth Andrew Hawke a Vera Bowen.

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Ymgynghorol a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol y Ganolfan, Hydref 2008, a Chwefror a Mehefin 2009; agendâu, Chwefror, Mehefin, a Hydref 2009; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2008-2009 (2009); adroddiad a datganiadau ariannol y Ganolfan, 2008-2009 (2009); a llythyrau (2009) oddi wrth Angharad Elias. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfodydd y Penaethiaid Prosiectau, Tachwedd 2008 ac Ionawr, Mawrth, Mai, a Mehefin 2009; a chopi o gylchlythyr y ganolfan, rhif 12 (Haf 2009).

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Ymgynghorol a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol y Ganolfan, Hydref 2009, a Chwefror a Mehefin 2010; agendâu, Chwefror, Mehefin, a Hydref 2010; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2009-2010 (2010); adroddiad a datganiadau ariannol y Ganolfan, 2009-2010 (2010); cynllun busnes Geiriadur Prifysgol Cymru 2011-2023 (2010); a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2010) yn cynnwys llythyrau oddi wrth Angharad Elias a Marion Löffler. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfodydd y Penaethiaid Prosiectau, Tachwedd a Rhagfyr 2009, ac Ionawr, Chwefror, Mawrth, Ebrill, a Mehefin 2010; a chopi o gylchlythyr y Ganolfan, rhif 13 (Haf 2010).

Cofnodion cyfarfod y Grŵp Ymgynghorol a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Grŵp Ymgynghorol y Ganolfan (yn flaenorol y Pwyllgor Ymgynghorol), Hydref 2015, a Mawrth a Mehefin 2016; agendâu, Mehefin a Thachwedd 2016; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2015-2016 (2016); a llythyrau (2016) oddi wrth Angharad Elias. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli (yn flaenorol y Penaethiaid Prosiectau), Tachwedd a Rhagfyr 2015, ac Ionawr, Mawrth, Ebrill, Gorffennaf, Medi, a Hydref 2016.

Results 41 to 60 of 188