(I) 'Cyfarchiad', t. 65. Ysgrifennwyd hwy i Mr Hugh Pugh, ceidwad helwriaeth Nannau ar ei ymweliad cyntaf â Llyn i adara. Maent yn dwyn y teitl 'Englynion i Mr Hugh Pugh Adarwr Nannau pan ddaeth i Lleyn i adara'; (ii) Pennill, t. 81:. 'Cyffyrddwch Gymro 's meiddiwch chwi ...' yn gyfieithedig o'r Saesneg, 'Touch a Welshman ...'; (iii) Pennill, t. 97: 'Dafydd Evan Owen ...' a ysgrifennwyd ar gais ei fab Mr D. E. Owen, o Lynlleifiad; (iv) Pennill, t. 95: 'Mae Evan yn hynod am borthi cwningod ...'; (v) 'Llinellau', t. 95. Ysgrifennwyd hwy cyn iddo ymadael â Fox Hill i Miss Owen eu rhoi yn ei halbwm. Dwy linell yn ychwanegol yn y fersiwn cyhoeddedig; (vi) Englyn, t. 95. Ysgrifennwyd hwy i annerch Miss Owen ar ddiwedd llythyr iddi hi; (vii) Pennill (anghyhoeddedig): 'Do Hugh John and Dafydd ...'.