Showing 114 results

Archival description
Papurau Ambrose Bebb
Print preview View:

Darlithoedd

Mae'r gyfres yn cynnwys dwy yn unig o'i ddarlithoedd Saesneg ar hanes Cymru tra ar staff y Coleg Normal.

'Y Diwygiad Protestannaidd'

Mae'r gyfres hon yn cynnwys proflenni 'Achosion Cyffredinol', sef y rhan gyntaf o erthygl a ymddangosodd mewn dwy ran dan y teitl 'Y Diwygiad Protestannaidd' yn Y Llenor, 1941.

Hanes yr Achos ym Melinbyrhedyn.

Mae'r gyfres yn cynnwys deunydd wedi ei grynhoi gan Ambrose Bebb ar gyfer 'Hanes yr Achos' ym Melinbyrhedyn ynghyd â chopi llawysgrif o'r gwaith. Er i Ambrose Bebb ysgrifennu hanes y Methodistiaid ym Melinbyrhedyn a Darowen ar achlysur canmlwyddiant yr achos yno yn 1954, oherwydd amgylchiadau ar y pryd ni chyhoeddwyd mo'r gwaith. Ymddangosodd detholiad ohono yn Y Drysorfa ym 1965-1966 wedi ei olygu gan y Parchedig Ieuan Lloyd, Rhosllannerchrugog, dan y teitl 'Beerseba (Hanes yr Achos ym Melinbyrhedyn)'.

'Y Beibl'

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau diwygiedig a theipysgrifau terfynol o sgript radio ar y Beibl, 1948.

'Y March Gwyn'

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau a sgriptiau terfynol o gyfieithiad Cymraeg Ambrose Bebb o 'The White Steed', drama gan Paul Vincent Caroll a gyhoeddwyd gan Macmillan ym 1944, [1944]-[1945].

Caroll, Paul Vincent,

Dyddiadur

Mae'r dyddiadur yn cynnwys nodiadau bras a luniwyd yn ddiweddarach ynglŷn â'r cyfarfod cyntaf i drafod y brotest yn erbyn yr ysgol fomio ym Mhenyberth.

Dyddiadur

Mae'r dyddiadur yn cofnodi agweddau rhai Llydawyr cenedlaetholgar tuag at Ffrainc a'r Almaen yn y dyddiau olaf cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd. Fe gyhoeddodd Bebb y dyddiadur yn 1939 dan y teitl Dyddlyfr Pythefnos neu y Ddawns Angau.

Results 41 to 60 of 114