Dangos 123 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau'r Athro Griffith John Williams ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth deuluol

Gohebiaeth deuluol amrywiol, 1868-1961, gan gynnwys llythyrau, 1868-1892 (9), a gyfeiriwyd at ei dad, mae'n debyg; llythyrau at G. J. Williams oddi wrth ei dad, [1911x1931]; cardiau post at GJW a'i wraig, [?1949]-1961 (3); cardiau post, 1922-1938, at ei rieni a'i frawd oddi wrth GJW a'i wraig (7); ac un cerdyn post at GJW oddi wrth Elizabeth, ei wraig.

Gohebiaeth John Jones ('Tegid')

Pum llythyr, 1845-1850, oddi wrth John Jones ('Tegid') at y Parch. R. P. a Mrs Llewelyn, Llangynwyd, gan amgau dau lythyr at yr Archaiologia Cambrensis; ac un llythyr, 10 Mehefin 1846, oddi wrth y Parch. R. P. Llewelyn at 'Tegid'.

Gramadegau'r Penceirddiaid

Deunydd perthynol i'r cyhoeddiad Gramadegau'r Penceirddiaid a olygwyd gan G. J. Williams ac E. J. Jones (Caerdydd, 1934), gan gynnwys nifer o adysgrifau a chyfeiriadau at ramadegau mewn llawysgrifau, ynghyd â phapurau'n ymwneud â gramadegau Gutun Owain, Gwilym Tew, Einion Offeiriad a Dafydd Ddu Athro o Hiraddug. Mae rhai o'r papurau yn llaw E. J. Jones.

Jones, Evan J.

Hanes a thraddodiadau Morgannwg

Darlithoedd ac erthyglau'n ymwneud â hanes a thraddodiadau Morgannwg, gan gynnwys 'Bro Morgannwg, ei Hanes a'i Thraddodiadau', 'Haneswyr Cynnar Morgannwg', 'Gwlad Iolo', 'Glamorgan Customs in the Eighteenth Century', 'Cyfraniad Morgannwg i Fywyd Diwylliannol Cymru' a 'Brut Aberpergwm'.

Hanes Iolo Morganwg

Llyfr ysgrifennu yn cynnwys 'Ffeithiau byr am hanes Iolo o'r llythyrau', ynghyd â nodiadau yn seiliedig ar Elijah Waring Recollections and Anecdotes of Edward Williams ... (London, 1850).

Hanes Plaid Cymru

Darlithoedd, nodiadau a thorion papur yn ymwneud â hanes Plaid Cymru, gan gynnwys cofnodion cyfarfod cyntaf y Blaid Genedlaethol yn Ne Cymru, a gynhaliwyd ym Mhenarth, 7 Ionawr 1924. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys copi o lythyr, 1967, oddi wrth Elizabeth Williams yn ymwneud â'r cyfarfodydd cyntaf.

Williams, Elisabeth Elen, 1891-1979

Iolo Morganwg

Drafftiau a llawysgrif y gyfrol Iolo Morganwg (Caerdydd, 1956); ynghyd â pheth deunydd ar gyfer yr ail gyfrol arfaethedig, gan gynnwys 'Nodiadau ar waith Iolo o 1788 i 1826', a llawysgrif pennod yn dwyn y teitl 'O Forgannwg i Gaerfaddon (1788-1791)'.

Llên Cymru

Ffolder yn dwyn y teitl Llên Cymru yn cynnwys teipysgrifau yn bennaf o erthyglau ac adolygiadau a ymddangosodd yn ystod y cyfnod y bu G. J. Williams yn olygydd ar y cylchgrawn.

Llyfr nodiadau

Llyfr nodiadau yn cynnwys hanes John Owen (1616-1683), y diwinydd Piwritanaidd, copi o'r 'Llythyr at Benllywydd y Cymmrodorion', wedi ei gyfieithu o Saesneg Dr Swift gan Lewis Morris, a barddoniaeth Gymraeg gan Lewis Morris a Goronwy Owen.

Morris, Lewis, 1701-1765

Llyfr nodiadau

Llyfr nodiadau yn cynnwys calendr printiedig mewn Ffrangeg am y flwyddyn 1823; cyfarwyddiadau llawysgrif ar gymysgu lliwiau paent; a hanes taith o Boulogne i Folkestone, 25 Gorffennaf 1849, y ddau olaf mewn Saesneg.

Llyfr nodiadau

Llyfr nodiadau yn cynnwys calendr printiedig am y flwyddyn 1858, ychydig englynion gan I. D. Conway ('Ieuan Dyffryn Conwy'), sef Evan Evans, Llanrwst; ynghyd ag ychydig gyfrifon ariannol, a drafft o lythyr, 30 Ebrill 1884, oddi wrth Evan Evans, yn ymwneud â materion ariannol.

Evans, Evan, Llanrwst

Llyfr nodiadau

Llyfr nodiadau yn cynnwys carolau, cerddi rhydd a 'Gramadeg Cerddoriaeth'; ynghyd â thraethawd diwinyddol. Roedd y gyfrol yn eiddo i Joseph Thomas yn 1845.

Llyfr nodiadau

Llyfr nodiadau yn cynnwys englynion a cherddi rhydd gan Rhys Jones, Blaenau, David Evans, Rhagat, John Pritchard o'r Garth, Dewi Wnion (David Thomas), William Jones, Cefn Creuan Isaf, a Jonathan Hughes, 'Y Deuddeg Arwydd', 'Nodau y Planedau, y Tremiadau', a chyfrifon ariannol. Roedd y gyfrol yn eiddo ar un adeg i Hugh Lloyd, 'Rose and Crown', Goswell Street, Llundain, ac i Evan Lloyd, 1 Mawrth 1836.

Canlyniadau 41 i 60 o 123