Showing 132 results

Archival description
Papurau Iorwerth C. Peate, file
Print preview View:

Offerynnau cerdd

Llythyr a nodiadau teipysgrif gan Lyndesay G. Langwill, 1941-1944 a 1952, yn rhestru gwneuthurwyr offerynnau gwynt a phres. Yn ogystal, ceir gohebiaeth a nodiadau, 1963-1965, yn ymwneud â thelynau, yn cynnwys llythyrau gan Joan Rimmer a Peter Thornton, a rhestr 'Telynau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru', [1930x1950].

Langwill, Lyndesay Graham, 1897-

Turnio (wood-turning)

Llythyrau, 1925-1928, a anfonwyd at William Rees, Henllan, sir Aberteifi, turniwr coed. Yn ogystal, ceir bwndel o ohebiaeth, 1938, rhwng William Rees ac Iorwerth Peate ynglŷn â chyfraniad William Rees i sgwrs radio am grefft y turniwr coed; ynghyd ag ymateb i'r rhaglen, a cherdyn yn nodi rhestr brisiau cwmni Brodyr Davies, Abercych.

Amryw

Gohebiaeth, torion o'r wasg a nodiadau yn bennaf, 1929-1941 a 1973, yn ymwneud ag amryw o destunau. Yn eu plith mae'r torion 'Llen Gwerin Morgannwg. Marw, angladdau a chladdu', 1929, a 'Clapio a hel wyau'r Pasg', 1931; llythyr, 1934, yn trafod arferion claddu; a sgript ar gyfer sgwrs radio gan Gomer M. Roberts am 'Hen arferion Llandebie', 1937. Yn ogystal, ceir llythyrau, 1929-1931, ynglŷn â llongau; llythyr, 1933, gan Thomas Parry, ynghyd ag adysgrif ganddo o'r gerdd 'Rhybudd i ferched a meibion beidio priodi yn ddi-olud'; teipysgrif 'Lliwio'; torion, 1930, am 'Y Cryman Medi'; catalog yn dangos gwaith D. J. Williams, Gwaith Haearn Brunswick, Caernarfon; a thoriad o deyrnged Bedwyr Lewis Jones i Melville Richards, 1973.

Roberts, Gomer Morgan

Cyngor Rhyngwladol Amgueddfeydd, 1957

Copi teipysgrif o ddatganiad a rhestr aelodau cynhadledd Cyngor Rhyngwladol Amgueddfeydd (International Council of Museums), 'Reunion de L'icom sur les problemes des Musees de Plein Air', Copenhagen-Stockholm, 1957; ynghyd â nodiadau gan Iorwerth Peate.

British Association for the Advancement of Science

Papurau, 1974-1982, yn ymwneud â Phwyllgor Adran H (Anthropoleg) British Association for the Advancement of Science, yn cynnwys cofnodion, rhestri aelodau'r pwyllgor adrannol, a llythyrau gan yr Ysgrifennydd Gwyn I. Meirion-Jones (18). Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys copïau teipysgrif o anerchiad llywyddol Iorwerth Peate, 'The study of folk life and its part in the defence of civilization', 1958.

Meirion-Jones, Gwyn I.

Glamorgan county history

Agenda, cofnodion a phapurau perthnasol, 1972-1982, yn ymwneud â chyfarfodydd Pwyllgor Gwaith Glamorgan County History (The Glamorgan County History Trust Limited yn ddiweddarach).

Llyfrau nodiadau

Llyfrau nodiadau Iorwerth Peate, [1917-1948] (1921-1922 yn bennaf). Ymddengys fod y rhan fwyaf ohonynt wedi'u creu pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, ac maent yn ymwneud â phynciau megis llenyddiaeth Gymraeg, daearyddiaeth, y gyfraith, a hanes. Ceir hefyd llyfr 'Daily Gleanings From the World's Treasures' a gasglwyd ynghyd ganddo, a chyfrol 'Field surveys'. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys papurau arholiad, 1919-1923; a phapurau amrywiol, 1917-1923, yn eu plith llawysgrif o'r bryddest 'Y Briffordd' ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, 1921, a'r soned 'Y diweddar Syr O. M. Edwards', ynghyd â nodiadau ar gyfer dosbarthiadau allanol, 1926-1927.

Personalia

Papurau personol amrywiol, 1915-1961, yn cynnwys tystysgrifau Iorwerth Peate, 1915-1956; tystlythyrau iddo, 1925-1926; gwahoddiad i fynychu cyfarfod Prifysgol Genedlaethol Iwerddon i dderbyn gradd D. Litt. Celt. er anrhydedd, 1960, ynghyd â thorion o'r wasg; a phenillion ar achlysur cinio anrhegu Iorwerth Peate.

Erthyglau

Torion o'r wasg yn bennaf, 1923-1978, sef erthyglau am, neu sy'n cyfeirio at, Iorwerth Peate a'i waith.

Maes-y-coed

Papurau, gohebiaeth yn bennaf, 1969-1982, yn ymwneud â chartref Iorwerth Peate, sef Maes-y-coed, St Nicholas, sir Forgannwg, yn eu plith dogfennau yn gwrthwynebu datblygiadau cynllunio yn yr ardal.

Plaid Genedlaethol Cymru : Cangen Caerdydd

Llyfr cofnodion Cangen Caerdydd a'r Cylch o Blaid Genedlaethol Cymru, 1930-1934, gyda rhestr aelodau yng nghefn y gyfrol. Ffurfiwyd y Gangen yn 1930, a bu Iorwerth Peate yn Is-lywydd, a Nansi Peate yn Ysgrifennydd yn 1932.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Gweisg preifat

Papurau printiedig, 1928-1962, sef prosbectysau, 1929-1940, ar gyfer llyfrau i'w cyhoeddi gan Wasg Gregynog yn bennaf. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys prosbectws yn disgrifio amcanion a rhaglen y Tintern Press, ynghyd â llythyr gan Vincent Graham Stuart, 1935; prosbectws ar gyfer llyfrau i'w cyhoeddi gan y Raven Press, 1931; a phrintiau amrywiol.

Stuart, Vincent Graham.

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, 1826, [?1843] a [1899]-[1982], sy'n adlewyrchu diddordebau Iorwerth Peate yn bennaf. Crynhowyd hwy gan Iorwerth Peate ac o bosib gan aelodau eraill o'r teulu. Yn eu plith ceir rhestr o lyfrau gan Samuel Roberts Llanbryn-mair; torion o'r wasg, yn cynnwys llythyrau at Olygydd Y Dydd, 1930, gan Bob Owen ac eraill ynglŷn â 'Mary Jones a'r Beibl'; adroddiad The Fellowship of Reconciliation, 1953-1954; papurau yn ymwneud â'r International Society for Folk-narrative Research a'r Encyclopädie des Märchens, 1972-1973; teipysgrif erthygl, gyda lluniau, am bensaernïaeth wledig yn Ffrainc; ffotograff a thorion o'r wasg, 1911, ynglŷn ag anrhegu Dr Edwards, Llanbrynmair; trefn gwasanaeth angladdol Frank Price Jones, 1975; nodiadau pregeth yn llaw John Elias, 1826; a chopi o'r gyfrol Gwaith Aristotle, yr enwog philosophydd ... (Llanrwst, [1843?]), o lyfrgell Iorwerth Peate.

Owen, Bob, 1885-1962

Results 41 to 60 of 132