Showing 2917 results

Archival description
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau Welsh
Advanced search options
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Rhyddiaith,

Stori fer: yn seiliedig ar unrhyw ddihareb; portreadau o dri chymeriad lleol ar gyfer papur bro; sgwrs rhwng dau ar 'Deg o'm cas bethau' yn null Room 101; erthygl hyd at 5000 o eiriau: datblygiad chwyldroadol mewn unrhyw faes o ddechrau'r ugeinfed ganrif ymlaen; ysgrif ar ymdeimlad o le; tywys-daith o amgylch tref neu ddinas; tair ymson gan dri unigolyn yn ymateb i'r un sefyllfa ddirdynnol; a llyfr o deithiau mewn ardal arbennig.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi cainc 5 curiad i'r bar; emyn-dôn i eiriau Tudur Dylan Jones; cân ar gyfer unrhyw lais mewn arddull sioe gerdd; sgôr graffeg ar gyfer ei ddehongli gan unrhyw gyfuniad o berfformwyr; cylch o ganeuon ar gyfer llais a thelyn i eiriau Cymraeg gan fardd cyfoes; a threfniant o gân werin ar gyfer unrhyw gyfuniad o leisiau; cyfansoddiad i achlysur arbennig ar gyfer band pres neu ensemble pres.

Rhyddiaith,

Darn neu ddarnau o ryddiaith ar ffurf benodol (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg); stori fer wedi ei lleoli dramor; casgliad o 10 stori ar ffurf llên meicro ar y thema 'Perthynas'; stori ffantasi i bobl ifanc; ysgrif bortread; un bennod o hunangofiant; a darn o ryddiaith yn dychanu unrhyw sefydliad Cymreig.

Dysgwyr,

Cerdd: 'Y ddinas' (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: 'Gwrthdaro' (y tlws rhyddiaith); darn o ryddiaith: 'Cyflwyno ffrind'; llythyr neu ebost i ysgol eich plentyn neu at ffrind; a gwaith prosiect ar y thema 'Bwyta'n iach' yn seiliedig ar wybodaeth a godwyd o'r wê.

Barddoniaeth,

Awdl: 'Cyffro'; pryddest neu ddilyniant o gerddi: 'Yn y gwaed'; englyn: 'Cylch'; englyn ysgafn: 'Bai ar gam'; 5 englyn milwr - englyn yr un i bum crefftwr; cywydd: 'Cynefin'; telyneg: 'Gafael'; soned: 'Rwy'n gweld o bell'; cyfres o chwe phennill telyn: 'Llannau'; cerdd yn ymateb i un o ffotograffau yng nghyfrolau Geoff Charles; cân ysgafn: 'Arallgyfeirio'; emyn dathlu ar gyfer unrhyw achlysur arbennig; a chyfres o chwe limrig: 'Trafferthion'.

Rhyddiaith,

Darn neu ddarnau o ryddiaith ar ffurf benodol (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg); dwy stori fer yn ymwneud ag un digwyddiad o safbwynt dau berson; casgliad o ddeg stori ar ffurf llên micro; ysgrif: 'Ysguboriau'; pennod gyntaf Cyfarwyddiadur hel achau; erthygl goffa i Gymro neu Gymraes a fu farw yn ystod yr unfed ganrif ar hugain; deuddeg o ddarnau byrion crafog; colofn o newyddion dychmygol ar gyfer papur bro; monolog ar thema: 'Unigrwydd'; llythyr doniol/dychanol gan ymgeisydd am swydd.

Dysgwyr,

Cerdd: 'Gwreiddiau' (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: 'Gŵyl' (tlws rhyddiaith); deialog (holi ac ateb); darn o ryddiaith: 'Ddoe'; cyfres o eitemau amrywiol ... mewn arddull cylchgrawn (gwaith grŵp); dyddiadur tridiau; a chroesair.

Barddoniaeth,

Awdl mewn cynghanedd gyflawn: 'Tonnau'; pryddest neu ddilyniant o gerddi: 'Fflam'; englyn: 'Melin'; englyn digri: 'Y Gweilch'; telyneg: 'Y Clwb Nos'; cerdd gynganeddol ar fesur heblaw cywydd ac englyn (agored); cyfres o dribannau (hyd at 8) i gynnwys enwau llefydd; cyfieithiad o unrhyw gerss gan fardd neu feirdd o Gymu sy'n ysgrifennu yn Saesneg; soned: 'Serch'; cerdd ddychan: 'Prifysgol'; cywydd: 'Cwm'; a chasgliad o 5 cerdd gan rai dan 19 oed.

Rhyddiaith,

Stori fer: 'Creithiau'; ysgrif: 'Clymau'; portread; tair erthygl gyfoes yn null 'Dros fy sbectol'; casgliad o 10 stori ar ffurf llên meicro; cyfres o e-byst rhwng dau gyfandir; casgliad o 3 stori ddigri yn ymwneud â'r Eisteddfod; stori fer iasoer; cyfrol bwrdd coffi: 'Etifeddiaeth'; a stori fer neu ymson; 'Addewid neu addewidion' (ieuenctid dan 19 oed).

Results 41 to 60 of 2917