Showing 567 results

Archival description
series
Advanced search options
Print preview View:

Gohebiaeth,

Llyfr o lythyron a ysgrifennwyd yn bennaf gan ysgrifennydd Moriah yn ymwneud â materion eglwysig, gan gynnwys gohebiaeth yn trafod cynnal a chadw'r adeilad a sefyllfa ariannol yr Eglwys.

Gohebiaeth gyffredinol,

Llythyrau, [1926]-1992, oddi wrth aelodau o'r teulu, cyfeillion a llenorion yn ymwneud â'i fywyd cyhoeddus, ei yrfa fel academydd a'i ddiddordebau ysgolheigaidd ac fel bardd a nofelydd. Ymhlith yr unigolion sy'n gohebu'n gyson mae J. Gwyn Griffiths, Nathaniel Micklem, Gwynfor Evans, R. Tudur Jones, Clem C. LInnenberg a Geoffrey Nuttall. Neillltuwyd ffeiliau unigol hefyd i'r pedwar olaf gan Densil Morgan (gw. cyfres PD2).

Griffiths, John Gwyn.

Llythyrau

Llythyrau, 1903-1982, a anfonwyd at Iorwerth Peate. Maent yn cynnwys llythyrau personol, rhai yn ymwneud â'i fywyd proffesiynol a diwylliant gwerin, llenyddiaeth, a'i ddiddordebau eraill, megis yr iaith Gymraeg. Yn eu plith ceir ambell lythyr, neu ddrafft o lythyr, gan Iorwerth Peate.

George H. Peate

Papurau yn ymwneud â George H. Peate yn bennaf, 1860-1938 a 1949, gan gynnwys ei ddyddiadur, tystlythyrau iddo, llyfrau nodiadau, llythyrau ato, llyfr cyfrifon Cymdeithas Lenyddol Llanbrynmair, 1890-1904, cyfraniadau aelodau o'r Loyal Brynmair Lodge, 1906-1907, a thri llyfr lloffion yn ymwneud ag ardal Llanbrynmair.

Peate, George H. (George Howard), 1869-1938

Dafydd Peate

Papurau yn ymwneud â Dafydd Peate, 1936-1980, gan gynnwys llythyrau at ei rieni ar achlysur ei enedigaeth, papurau ynglŷn â'i gais i gofrestru fel Gwrthwynebydd Cydwybodol yn erbyn gwasanaeth filwrol, erthyglau a llythyrau i'r wasg ganddo, a llythyrau a chardiau cydymdeimlad yn dilyn ei farwolaeth.

Peate, Dafydd, 1936-1980

Dyddiaduron

Mae'r gyfres yn cynnwys 'Dyddlyfr David Bowen', gyda thoriadau papur newydd amdano ef a'i deulu. Sonnir am ddigwyddiadau personol ynghyd â'r cyfarfodydd crefyddol a diwylliannol a fynychai.

Results 541 to 560 of 567