Dangos 567 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales cyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Adroddiadau blynddol,

Adroddiadau blynyddol y Capel yn cynnwys gwybodaeth am fantolen ariannol, cyfraniadau ariannol, pregethwyr y Suliau, enwau'r swyddogion ac enwau'r rhai oedd wedi cael eu bedyddio, priodi neu farw. Ceir rhai adroddiadau blynyddol hefyd ymysg y cyfrifon ariannol.

Cyfrolau amrywiol

Pedair cyfrol o ddeunydd amrywiol, ond gan fwyaf o doriadau papur newydd. Mae tair cyfrol yn cynnwys toriadau o gerddi ar ben nodiadau eraill - dau yn cynnwys yr enw Evan Davies, Pentrebach, ac un yn cynnwys yr enw Annie Davies, Abercanaid, heb eu dyddio. Mae'r bedwaredd gyfrol yn cynnwys cyfrifon Miss E. E. Lewis a Margaret Lewis, Mr David H. Lewis, ac ystâd Plasmarl, 1891-1903, a thoriadau allan o'r Darian, 1916, a thoriadau yn ymwneud â choginio, heb eu dyddio.

Dyddiaduron

Mae'r gyfres yn cynnwys saith dyddiadur o fyfyrdodau ac emynau, 1900-1932.

Papurau llenyddol

Mae'r gyfres yn cynnwys drafftiau llawysgrif a theipysgrif o'r ddrama 'Yr Hen Dŷ a'r Tŷ Newydd', drafft teipysgrif o'r ddrama 'Cartref y Gweithiwr', drafft llawysgrif o'r ddrama 'Tywyll a Golau' a phapurau rhydd o hanesion byrion, pob un heb eu dyddio.

Papurau barddonol

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau nodiadau o gerddi, emynau a nodiadau, 1862 - [1937], a nifer ohonynt yn cynnwys amgaeëdigion, un yn dyddio i 1964. Mae'r gyfres hefyd yn cynnwys amlen o gerddi yn cynnwys rhai cyfieithiadau o gerddi Robert Herrick, John Donne ac Andrew Marvell, heb eu dyddio, a saith pryddest eisteddfodol, [c. 1889] - [c. 1891].

Pregethau, areithiau a darlithiau

Pregethau, darlithiau, ac areithiau gan Ben Davies, [19 gan., hwyr] - 1937. Mae'r rhain yn cynnwys anerchiadau a nodiadau ar Y Wladfa, Ann Griffiths a Watcyn Wyn, a darlithiau a draddodwyd yng Ngholeg Bala Bangor.

W. J. Gruffydd

Llythyrau a drafftiau a anfonwyd at W. J. Gruffydd tra bu'n golygu'r Llenor, 1925-1946.

T. J. Morgan

Llythyrau a drafftiau a anfonwyd at T. J. Morgan tra bu'n golygu'r Llenor, 1946-1955; nodyn gan Prys Morgan, 1987; llythyr at W. J. Gruffydd, 1936; cerddi gan R. Williams Parry, 1937, a phapurau yn ymwneud ag erthygl Prys Morgan arnynt, 1967, 1971-1972; drafft o 'Cymraeg Llafar Safonol', c. 1962; Copïau o Caneuon y Canor, heb ei ddyddio, a Yn Mlaen yw Arwyddair y Byd, 1893, gyda llythyr, 1962; papurau yn ymwneud â Richard Williams (Gwydderig), heb eu dyddio, a llythyr, 1975.

Canlyniadau 541 i 560 o 567