Showing 567 results

Archival description
series
Advanced search options
Print preview View:

Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Papurau, [1936]-1970, yn deillio'n bennaf o'r cyfnod pan oedd Norah Isaac yn Brifathrawes Yr Ysgol Gymraeg, Aberystwyth, 1939-1949, gan gynnwys rhai'n ymwneud â'r gwersi a gweithgareddau allgyrsiol.

Ysgol Gymraeg Aberystwyth (Aberystwyth, Wales)

Sgriptiau radio a theledu

Sgriptiau radio a gynhyrchwyd gan Norah Isaac, rhai y bu'n cymryd rhan ynddynt, a rhai gan bobl eraill, ynghyd â sgriptiau teledu y bu'n gysylltiedig â hwy, 1936-1976.

Llythyrau oddi wrth gyfeillion a llenorion

Llythyrau, 1911-1969, a anfonwyd at D. J. Williams, gan gynnwys ffeiliau unigol ar gyfer cyfeillion agos ato fel Saunders Lewis, Kate Roberts a Lewis Valentine, a ffrindiau oedd yn filwyr adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Ceir llythyrau o gefnogaeth adeg achos Penyberth a llythyrau'n trafod materion gwleidyddol megis ei waith gyda Phlaid Cymru. Mae nifer yn mynegi gwerthfawrogiad o'i waith fel llenor a llawer yn ymwneud â'i weithgareddau fel siaradwr gwadd a darlithydd poblogaidd. Yn fynych ceir drafft o ateb D. J. Williams.

Torion o'r wasg

Torion o'r wasg, [1912]-1969, yn cynnwys erthyglau ganddo neu amdano, gan gynnwys rhai o'r County Echo (yn arbennig 'Our Readers' Views') a'r Western Telegraph gan mwyaf yn ymwneud â phynciau fel gwleidyddiaeth yn lleol a chenedlaethol; addysg Gymraeg; cenedlaetholdeb; newyddion Abergwaun; ynghyd â llawer iawn o lythyrau at olygyddion papurau newydd oddi wrth D. J. Williams. Nodwyd y cynnwys a'r ffynhonnell ar yr amlenni yn fynych iawn ganddo.

Papurau wedi'u crynhoi

Papurau, 1810-1969, gan gynnwys drafft yn llaw Waldo Williams o'i awdl 'Tŷ Ddewi' y dyfarnwyd iddi'r ail wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936, a cherddi eraill o'i waith; drama gan E. Eynon Evans; a sgript anterliwt gan W. R. Evans.

Gweithiau anghyhoeddedig

Ysgrifau ac erthyglau nas cyhoeddwyd a sgriptiau o'i waith a ddarlledwyd ar y radio, [1921]-[1954]. Cyhoeddwyd rhai o'r storïau hyn a ddarlledwyd, fodd bynnag, yn ddiweddarach, yn ei gyfrolau o storïau byrion.

Papurau amrywiol

Darlithoedd amrywiol, [1919x1963]; deunydd yn ymwneud ag apêl Sain Ffagan, 1958; pregeth yn llaw G. J. Williams, [1911x1963]; a llythyrau, 1962, yn ymwneud â hanes y Cob Cymreig.

Y llawysgrifau Cymraeg

Mynegeion a slipiau ymchwil G. J. Williams, y mwyafrif yn cyfeirio at enwau personol a thestunau mewn llawysgrifau Cymraeg; darlithoedd yn olrhain hanes y llawysgrifau; nodiadau ar eu perchnogaeth; a nifer o adysgrifau a llungopïau.

Llyfrau casgliadau

Ymhlith y llyfrau ceir llyfr cyfrifon a llyfr casgliadau'n ymwneud â chodi'r addoldy cyntaf, 1841-1886; llyfrau casgliadau a thaliadau misol, 1849-1886; llyfr casglu'r Eglwys newydd, 1866-1867; a llyfrau cyfraniadau at yr adeiladau, 1977-1982.

Results 481 to 500 of 567