Showing 567 results

Archival description
series
Advanced search options
Print preview View:

Llythyrau yn ôl pwnc

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau o anogaeth i olygyddion Y Faner, 1988-1989, yn ogystal â llythyrau yn ymwneud â chyfrannu erthyglau golygyddol i'r Faner, 1991.

Ffeiliau pwnc

Mae'r gyfres yn cynnwys ffeiliau'n ymwneud â nifer o bynciau amrywiol.

Cyfrifon a chytundebau

Cyfrol yn nodi swm y casgliad a thaliadau i weinidogion, 1855-1891, cyfrifon Cymdeithas y capel, 1870-1885, biliau adeiladwyr, 1903-1904, cytundebau'n ymwneud â'r capel a'r fynwent, 1926-1959, a chyfrifon y capel, yr Ysgol Sul a'r Gymdeithas, 1962-1982.

Llyfrau nodiadau,

Llyfrau nodiadau Meic Povey, 1988-2005, yn ymwneud â'i waith fel dramodydd, gan gynnwys syniadau ar brosiectau cyfredol, a nodiadau bras ar faterion megis lleoliadau set, ynghyd â rhai drafftiau cynnar o'i weithiau.

Dramâu

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau nodiadau cymysg yn cynnwys copïau llawysgrif a theipysgrif o ddramâu yn bennaf, ynghyd â rhai caneuon, storïau a beirniadaethau.

Gohebiaeth gyffredinol,

Llythyrau oddi wrth nifer fawr o ohebwyr amrywiol at Robat Gruffudd ac aelodau o staff y Lolfa, ynghyd â chopïau o atebion Robat Gruffudd ac eraill. Ceir llythyrau yn trafod y broses gyhoeddi llyfrau, prynu a gwerthu peiriannau a stoc, yr adeiladau, a materion ariannol a busnes, ynghyd â gohebiaeth gydag awduron Cymreig.

Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Papurau, [1936]-1970, yn deillio'n bennaf o'r cyfnod pan oedd Norah Isaac yn Brifathrawes Yr Ysgol Gymraeg, Aberystwyth, 1939-1949, gan gynnwys rhai'n ymwneud â'r gwersi a gweithgareddau allgyrsiol.

Ysgol Gymraeg Aberystwyth (Aberystwyth, Wales)

Sgriptiau radio a theledu

Sgriptiau radio a gynhyrchwyd gan Norah Isaac, rhai y bu'n cymryd rhan ynddynt, a rhai gan bobl eraill, ynghyd â sgriptiau teledu y bu'n gysylltiedig â hwy, 1936-1976.

Results 461 to 480 of 567