Showing 567 results

Archival description
series
Advanced search options
Print preview View:

Personalia

Papurau personol G. J. Williams, yn cynnwys ei basport a phapurau'n ymwneud â'i ymweliad â Rhufain, 1938, a Milan, 1947; tocynnau a rhaglenni ciniawau a darlithoedd, 1916-1962; ceisiadau am swyddi, 1914-1958; a phapurau ariannol ac amrywiol, 1918-1963.

Gohebiaeth gyffredinol

Llythyrau, 1914-1962, at G.J. Williams oddi wrth ysgolheigion, llenorion, cyhoeddwyr a chyfeillion. Mae'r mwyafrif yn ymwneud â'i arbenigedd yn yr iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth, ac ysgolheictod Cymraeg, gan gynnwys ei gyhoeddiadau, ei waith ymchwil, a'i aelodaeth o fwrdd golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae nifer yn ymwneud â'i weithgareddau fel siaradwr gwadd, darlithydd, athro, a beirniad eisteddfodol, a rhai'n ymwneud â materion gwleidyddol, yn arbennig sefydlu Plaid Cymru a helynt yr Ysgol Fomio. Ceir cyffyrddiadau mwy personol yn rhai o'r llythryau.

Rhyddiaith,

Gwaith llenyddol, [1944]-[1993], gan gynnwys nifer fawr o sgriptiau, sgyrsiau, cerddi ac adolygiadau.

Colegau Coffa,

Papurau'n ymwneud â'r cyfnod y bu'n Athro a Phrifathro yng Ngholeg Coffa Aberhonddu, 1950-1959, ac yn Brifathro yng Ngholeg Coffa Abertawe, 1959-1981.

Prifysgol Iâl,

Papurau, 1936-1944, yn ymwneud â'i gyfnod yn astuduio yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys ei draethodau coleg a'r un a gyflwynodd ar gyfer ei ddoethuriaeth, dyddiaduron ac adroddiadau .

Papurau a grynhowyd,

Papurau a grynhowyd ganddo, 1924-[1970], gan gynwys Deiseb ar ddysgu'r Gymraeg yn Ysgolion Cymoedd Rhondda a chyfrol deipysgrif yn cynnwys cerddi R. Williams Parry.

Llythyrau gohebwyr cyson,

Llythyrau, [1940]-1989, oddi wrth ohebwyr cyson sef Gwynfor Evans, R. Tudur Jones, Clem C. Linnenberg a Geoffrey Nuttall. Ceir nifer fawr o lythyrau oddi wrth y pedwar hyn hefyd o fewn cyfres PD1.

Gohebiaeth gyffredinol,

Llythyrau, [1926]-1992, oddi wrth aelodau o'r teulu, cyfeillion a llenorion yn ymwneud â'i fywyd cyhoeddus, ei yrfa fel academydd a'i ddiddordebau ysgolheigaidd ac fel bardd a nofelydd. Ymhlith yr unigolion sy'n gohebu'n gyson mae J. Gwyn Griffiths, Nathaniel Micklem, Gwynfor Evans, R. Tudur Jones, Clem C. LInnenberg a Geoffrey Nuttall. Neillltuwyd ffeiliau unigol hefyd i'r pedwar olaf gan Densil Morgan (gw. cyfres PD2).

Griffiths, John Gwyn.

Dafydd Peate

Papurau yn ymwneud â Dafydd Peate, 1936-1980, gan gynnwys llythyrau at ei rieni ar achlysur ei enedigaeth, papurau ynglŷn â'i gais i gofrestru fel Gwrthwynebydd Cydwybodol yn erbyn gwasanaeth filwrol, erthyglau a llythyrau i'r wasg ganddo, a llythyrau a chardiau cydymdeimlad yn dilyn ei farwolaeth.

Peate, Dafydd, 1936-1980

Nansi Peate

Papurau yn ymwneud â Nansi Peate, [1915]-1983, gan gynnwys tystysgrifau, llyfrau nodiadau, tystlythyrau, a llythyrau.

Peate, Nansi, 1900-1986

Results 441 to 460 of 567