Showing 556 results

Archival description
series Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Llyfrau bedyddiadau

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfr bedyddiadau, 1859-1882, ag ynddo gofnod o'r dyddiad, enw bedydd y plentyn, enwau bedydd a theulu'r rhieni, enw'r cartref, gwaith y tad, yn ogystal â chan bwy y'i bedyddiwyd.

Llyfrau llofnodion

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau o lofnodion enwogion Cymru, ac enwogion byd-eang, a gasglwyd gan Mathonwy Hughes a'i wraig Mair, [?1956]-[?1969].

Llawysgrifau barddoniaeth

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau o gerddi Mathonwy Hughes, copïau o gerddi gan feirdd eraill yn ei law ef ac yn eu llawysgrif eu hunain, a chopïau o'i gynigion ar gyfer cystadlaethau barddonol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, [?1915]-[?1999].

Drafftiau o gyfrolau

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau a chopïau terfynol o rai o gyfrolau cyhoeddedig Mathonwy Hughes, [?1974]-[?1991].

Papurau R. Silyn Roberts a'i deulu

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau'r Prifardd R. Silyn Roberts, ynghyd â phapurau ei wraig Mary Silyn Roberts, ac ychydig o bapurau eu plant, Glyn ap Silyn, Meilir ap Silyn a Rhiannon Silyn Roberts, [?1898]-[?1940]. Ymysg y papurau ceir ychydig o lawysgrifau cerddi R. Silyn Roberts, a llythyrau oddi wrtho at aelodau eraill ei deulu.

Roberts, R. Silyn (Robert Silyn), 1871-1930

Results 441 to 460 of 556