Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 839147 canlyniad

Disgrifiad archifol
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llyfrau nodiadau poced / Pocket notebooks

Deg llyfr nodiadau poced (pob un heb ddyddiad), yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys ac yn cynnwys drafftiau o farddoniaeth, dwdlau, a chyfeiriadau, ynghyd â cherdyn trwydded yrru Emyr Humprehys (1954-1961), copi o 'British Painting 40 -49' (1966), a nifer o ffotograffau bychain ([?1930au]). Mae'r bwndel hefyd yn cynnwys llyfr nodiadau (1926) mewn sawl llaw wahanol, wedi'i lofnodi gan y Parch. Griffith Jones, Llanwnda, ac yn cynnwys nodiadau ar 'Natur Eglwys', barddoniaeth, a rhestr rhoddion. / Ten pocket notebooks (all undated), containing manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys and consisting of drafts of poetry, doodles, and addresses, together with Emyr Humprehys' driving licence card (1954-1961), a copy of 'British Painting 40-49' (1966), and a number of small photographs ([?1930s]). The bundle also contains a notebook (1926) written in several different hands, signed by Rev. Griffith Jones, Llanwnda, and containing notes on 'Natur Eglwys', poetry, and a donations list.

Llyfrau nodiadau poced / Pocket notebooks

Pedwar ar ddeg o lyfrau nodiadau poced (1978-1979; 1983-1984; 1986-1988) yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn bennaf yn llaw Emyr Humphreys gydag ambell law arall, ac yn cynnwys cyfeiriadau, teithlenni, nodiadau dyddiadur, brasluniau, drafftiau, a rhestrau, ynghyd â rhaglen y Gymdeithas Lenyddol Capel Charing Cross Road (1978-1979). / Fourteen pocket notebooks (1978-1979; 1983-1984; 1986-1988) containing manuscript notes mainly in the hand of Emyr Humphreys with the occasional other hand, and including addresses, itineraries, diary notes, sketches, drafts, and lists, together with a programme for Cymdeithas Lenyddol Capel Charing Cross Road (1978-1979).

Ymddiriedolaeth Taliesin / The Taliesin Trust

Papurau'n ymwneud â'r sefydliad llenyddol Ymddiriedolaeth Taliesin a'i safle yn Nhŷ Newydd ([1980]-1993), gan gynnwys llythyrau, nodiadau, gweithredoedd ymddiriedolaeth, a phrydlesi. / Papers relating to the literary organisation The Taliesin Trust and its site at Tŷ Newydd ([1980]-1993), including letters, notes, trust deeds, and leases.

Papurau yn ymwneud â Tŷ Newydd / Papers relating to Tŷ Newydd

Papurau yn ymwneud ag Ymddiriedolaeth Taliesin a phrydles Tŷ Newydd, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Taliesin (1989), copïau drafft o brydles Tŷ Newydd a gweithredoedd ymddiriedolaeth (1989), copi o’r weithred ymddiriedolaeth (1990), a nodiadau a threfniadau (1989); ynghyd â nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys yn dwyn y teitl ‘Canol y Cwmwd’ ([?1985]), a gwahoddiad i Emyr Humphreys roi sgwrs i’r Ymddiriedolaeth (1993). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llun (heb ddyddiad); nodiadau pellach gyda’r teitl ‘Text for Billing’ (heb eu dyddio); llythyrau oddi wrth M. A. R. Kemp (1989) ac R. Alun Evans (1990); a chopi o erthygl gan Roland Mathias o’r enw ‘Emyr Humphreys’, yn manylu ar ei weithiau llenyddol ([1980]). / Papers relating to The Taliesin Trust and the lease of Tŷ Newydd, comprising letters from the Welsh Arts Council and The Taliesin Trust (1989), draft copies of the Tŷ Newydd lease and trust deeds (1989), a copy of the trust deed (1990), and notes & arrangements (1989); together with manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys titled ‘Canol y Cwmwd’ ([?1985]), and an invitation for Emyr Humphreys to give a talk for the Trust (1993). The file also includes a photo print (undated); further notes titled ‘Text for Billing’ (undated); letters from M. A. R. Kemp (1989) and R. Alun Evans (1990); and a copy of an article by Roland Mathias titled ‘Emyr Humphreys’, detailing his literary works ([1980]).

Gŵyl y Gelli / Hay Festival

Rhaglen ar gyfer Gŵyl y Gelli 1993, a oedd yn cynnwys digwyddiad gydag Emyr Humphreys, ynghyd â llythyr at Peter Florence (cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli), tocynnau, a gwybodaeth. / A programme for Hay Festival 1993, which featured an event with Emyr Humphreys, together with a letter to Peter Florence (Hay Festival director), tickets, and information.

Cronfa Goffa Saunders Lewis / Saunders Lewis Memorial Fund

Papurau yn ymwneud â Chronfa Goffa Saunders Lewis, yn cynnwys papurau gweinyddol gan gynnwys cofnodion ac agendâu cyfarfodydd (1989-1996; 1998), gwybodaeth cyfrifon (1989-1991; 1994-1998), datganiad o ymddiriedaeth (1989), a gweithred amrywio (1998); ceisiadau i'r gronfa, gan gynnwys tystlythyrau a llythyrau argymhelliad oddi wrth John Isgoed Williams, Phil Cooke, D. Ellis Evans, Ann Jefferson, Gareth Williams, Richard Wyn Jones, Malcolm Bowie, a James Naughton (1995-1996; 1999); a gohebiaeth (1975; 1977-1979; 1986; 1989-1991; 1996; 1998-1999) yn cynnwys llythyrau a drafftiau o lythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd (2), Emyr Humphreys (7), William Griffiths (1), Alun Creunant Davies (2), Ann Ffrancon (1), a Meredydd Evans, 'Merêd' (1). / Papers relating to Cronfa Goffa Saunders Lewis (Saunders Lewis Memorial Fund), consisting of administrative papers including meeting minutes and agendas (1989-1996; 1998), accounts information (1989-1991; 1994-1998), declaration of trust (1989), and deed of variation (1998); applications to the fund, including references and letters of recommendation from John Isgoed Williams, Phil Cooke, D. Ellis Evans, Ann Jefferson, Gareth Williams, Richard Wyn Jones, Malcolm Bowie, and James Naughton (1995-1996; 1999); and correspondence (1975; 1977-1979; 1986; 1989-1991; 1996; 1998-1999) including letters and drafts of letters from R. Geraint Gruffydd (2), Emyr Humphreys (7), William Griffiths (1), Alun Creunant Davies (2), Ann Ffrancon (1), and Meredydd Evans, ‘Merêd’ (1).

'The Romantics in Wales'

Pamffled yn hysbysebu cyhoeddiad ‘The Romantics in Wales: An Anthology’ gan Glyn Tegai Hughes a Hilary Paynter (Y Drenewydd, Powys: Gwasg Gregynog, 2009). / A pamphlet advertising the publication of ‘The Romantics in Wales: An Anthology’ by Glyn Tegai Hughes and Hilary Paynter (Newtown, Powys: Gwasg Gregynog, 2009).

Llyfrau nodiadau personol / Personal notebooks

Cyfres o lyfrau nodiadau poced (1926-2006) yn perthyn i Emyr Humphreys, y mwyafrif yn cynnwys nodiadau personol megis cyfeiriadau, rhestrau, drafftiau, brasluniau, a syniadau. / A series of pocket notebooks (1926-2006) belonging to Emyr Humphreys, the majority containing personal notes such as addresses, lists, drafts, sketches, and ideas.

Graddau er anrhydedd a chymrodoriaethau / Honorary degrees and fellowships

Papurau (1950-2013) yn ymwneud â Graddau Er Anrhydedd a Chymrodoriaethau a dderbyniwyd gan Emyr Humphreys, gan gynnwys rhaglenni, ardystiadau, a gohebiaeth. / Papers (1950-2013) relating to Honorary Degrees and Fellowships received by Emyr Humphreys, including programmes, certification, and correspondence.

Erthyglau, toriadau, teipysgrifau, a phamffledi / Articles, cuttings, typescripts, and pamphlets

Erthyglau, toriadau, teipysgrifau, a phamffledi yn ymwneud â Saunders Lewis a gasglwyd gan Emyr Humphreys, yn cynnwys teipysgrifau a drafftiau o erthyglau gan Emyr Humphreys yn cynnwys ‘A Necessary Figure’ (cyhoeddwyd Welsh Books & Writers / Llên a Llyfrau Cymru, 1979), ynghyd â copi o'r erthygl gyhoeddedig; ‘Cyfieithu S. L.’ (cyhoeddwyd Y Faner, 1985), gyda chopi cyhoeddedig ohono; ‘Bro a Bywyd S. L.’ (heb ei ddyddio); ‘Theatr Saunders Lewis’ (cyhoeddwyd Bangor: Cymdeithas Theatr Cymru, 1979); a ‘Noson y Tân’ (heb ei ddyddio); ynghyd â chopïau o weithiau gan Saunders Lewis, gan gynnwys y ddrama ‘Gwaed yr Uchelwyr’ (Caerdydd: The Educational Publishing Co., 1922); ac ‘Wrth Aros Godot’, cyfieithiad o ‘En Attendand Godot’ gan Samuel Beckett (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1970); y pamffledi 'Y Blaid i Gymru: Ymatebion Saunders Lewis a J. E. Daniel i Mr Gwilym Davies', [?1942], 'Yr Achos dros Gyngor Datblygu Cenedlaethol Cymreig' ([?1933]), 'Paham y Llosgasom yr Ysgol Fomio ' gan Saunders Lewis a Lewis Valentine (1936), 'At Etholwyr Prifysgol Cymru' (1942); ac ‘At Etholwyr Prifysgol Cymru’ gan W. J. Gruffydd (1945) a ‘Llythyr i Mr Saunders Lewis’, (Etholiad Prifysgol Cymru, 1943). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys rhaglenni i’r dramâu ‘Gymerwch Chi Sigaret?’ gan Saunders Lewis, (Theatr yr Ymylon, 1978), a ‘Cymod Cadarn: Teyrnged i Mr Saunders Lewis’ gan Emyr Humphreys (Cwmni Theatr Cymru, 1973); toriadau o'r wasg yn ymwneud â Saunders Lewis (1972; 1977); rhaglen ar gyfer ‘Cyflwyno Penddelwau Saunders Lewis / Presentation of Busts of Saunders Lewis’, Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1984); a chopi o rodd er anrhydedd i Saunders Lewis gan Brifysgol Cymru (1983). / Articles, cuttings, typescripts, and pamphlets relating to Saunders Lewis collected by Emyr Humphreys, comprising typescripts and drafts of articles by Emyr Humphreys including ‘A Necessary Figure’ (published Welsh Books & Writers / Llên a Llyfrau Cymru, 1979), together with a copy of the published article; ‘Cyfieithu S. L.’ (published Y Faner, 1985), with a published copy of the same; ‘Bro a Bywyd S. L.’ (undated); ‘Theatr Saunders Lewis’ (published Bangor: Cymdeithas Theatr Cymru, 1979); and ‘The Night of the Fire’ (undated); together with copies of works by Saunders Lewis, including the drama ‘Gwaed yr Uchelwyr’ (Cardiff: The Educational Publishing Co., 1922); ‘Wrth Aros Godot’, a translation of ‘En Attendand Godot’ by Samuel Beckett (Cardiff: University of Wales Press, 1970); the pamphlets ‘The Party for Wales: Replies by Saunders Lewis & J.E. Daniel to Mr Gwilym Davies’, [?1942], ‘The Case for a Welsh National Development Council’ ([?1933]), ‘Paham y Llosgasom yr Ysgol Fomio’ by Saunders Lewis & Lewis Valentine (1936), ‘To the Electors of the University of Wales’ (1942); and ‘At Etholwyr Prifysgol Cymru’ by W.J. Gruffydd (1945) and ‘Llythyr Cefnogaeth i Mr Saunders Lewis’, (Etholiad Prifysgol Cymru, 1943). The file also includes programmes for the dramas ‘Gymerwch Chi Sigaret?’ by Saunders Lewis, (Theatr yr Ymylon, 1978), and ‘Cymod Cadarn: Teyrnged i Mr Saunders Lewis’ by Emyr Humphreys (Cwmni Theatr Cymru, 1973); press cuttings relating to Saunders Lewis (1972; 1977); a programme for ‘Cyflwyno Penddelwau Saunders Lewis / Presentation of Busts of Saunders Lewis’, National Museum Wales (1984); and a copy of a bestowment of honorary degree for Saunders Lewis from the University of Wales (1983).

Papurau yn ymwneud â Saunders Lewis a David Jones / Papers relating to Saunders Lewis and David Jones

Papurau yn ymwneud â Saunders Lewis a David Jones a gasglwyd ac a ysgrifennwyd gan Emyr Humphreys, yn cynnwys teipysgrifau o'r traethodau 'A Necessary Figure' ac 'Enaid Digimar' (cyhoeddwyd yn Y Faner, 1985), drafft llawysgrif o draethawd yn ymwneud â'r gwaith' Excelsior' gan Saunders Lewis (heb ei ddyddio), a phamffledi a thoriadau pellach yn ymwneud â Saunders Lewis, yn cynnwys copi o deyrnged gan Thomas Parry (heb ddyddiad), teyrnged gan Theatr Ymylon ([1973]), toriad o'r Radio Times ( 1987), a phamffled 'Y Ddrama yn Ewrop' (gyda rhagair gan Emyr Humphreys); ynghyd â nodiadau teipysgrif a llawysgrif gyda’r teitl 'Hours by the Window: an artist in Philistia' (heb ddyddiad), nodiadau teipysgrif yn ymwneud â rhaglen ar David Jones gan Harlech Television (heb ddyddiad), pamffled ar gyfer Gŵyl David Jones (1973), a copi o adolygiad o 'In Parenthesis' David Jones o 'The Tablet' (1964), gan Saunders Lewis, ac o 'Time and Tide' (1952) gan Emyr Humphreys, a llyfryn ar gyfer arddangosfa David Jones (1972) , ymhlith papurau eraill. / Papers relating to Saunders Lewis and David Jones collected and written by Emyr Humphreys, comprising typescripts of the essays ‘A Necessary Figure’ and ‘Enaid Digymar’ (published in Y Faner, 1985), a manuscript draft of an essay related to the work ‘Excelsior’ by Saunders Lewis (undated), and further pamphlets and cuttings relating to Saunders Lewis, including a copy of a tribute by Thomas Parry (undated), a tribute by Theatr Ymylon ([1973]), a cutting from the Radio Times (1987), and a pamphlet ‘Y Ddrama yn Ewrop’ (with foreword by Emyr Humphreys); together with typescript and manuscript notes titled ‘Hours by the Window: an artist in Philistia’ (undated), typescript notes relating to a programme on David Jones by Harlech Television (undated), a pamphlet for the David Jones Festival (1973), a copy of a review of David Jones’ ‘In Parenthesis’ from ‘The Tablet’ (1964), by Saunders Lewis, and from ‘Time and Tide’ (1952) by Emyr Humphreys, and a booklet for a David Jones exhibition (1972), among other papers.

Cylchgronau o ddiddordeb llenyddol / Magazines of literary interest

Copïau o nifer o gylchgronau cyhoeddedig (1973-2019) yn cynnwys erthyglau neu golofnau a ysgrifennwyd gan Emyr Humphreys a/neu yn cynnwys darnau yn ymwneud â’i weithiau, gan gynnwys copïau o Llwyfan: Cylchgrawn Theatr Cymru (Gaeaf 1973); Arcade: Wales Fortnightly (1981); Y Faner (Medi 1985); See 4: News From Channel 4 (Gwanwyn 1988); Rhaglen Gŵyl Lenyddiaeth Caerdydd (1989 & 1991); rhaglen Llyfrau Seren (1989); Golwg 3.22 & 3.23 (Chwefror 1991); Llais Llyfrau / Book News from Wales (1980; 1985; 1991); Gwyliedydd: Cyfnodolyn y Wesleaid Cymraeg 51 (1992); Books in Wales 3/98 (Hydref 1998); Barn 326 (Mawrth 1990), 342 (Gorffennaf 1991), & 676 (Mai 2019); ac @470: What’s on in Literary Wales / Beth sy’ ‘mlaen yn Llên Cymru (2000). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys toriadau o Y Faner (1991), Yr Herald Gymraeg (1991), a'r Financial Times (2006). / Copies of a number of published magazines (1973-2019) featuring articles or columns written by Emyr Humphreys and/or featuring pieces relating to his works, including copies of Llwyfan: Cylchgrawn Theatr Cymru (Winter 1973); Arcade: Wales Fortnightly (1981); Y Faner (September 1985); See 4: News From Channel 4 (Spring 1988); the Cardiff Literature Festival Programme (1989 & 1991); programme for Seren Books (1989); Golwg 3.22 & 3.23 (February 1991); Llais Llyfrau / Book News from Wales (1980; 1985; 1991); Gwyliedydd: Cyfnodolyn y Wesleaid Cymraeg 51 (1992); Books in Wales 3/98 (Autumn 1998); Barn 326 (March 1990), 342 (July 1991), & 676 (May 2019); and @470: What’s on in Literary Wales / Beth sy’ ‘mlaen yn Llên Cymru (2000). The file also includes cuttings from Y Faner (1991), Yr Herald Gymraeg (1991), and The Financial Times (2006).

Cylchgronau yn cynnwys erthyglau yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys / Magazines featuring articles relating to Emyr Humphreys' works

Copïau o gylchgronau yn cynnwys erthyglau yn ymwneud ag Emyr Humphreys a'i gweithiau, gan gynnwys copïau o Sbec S4C (1990); Barn (Ebrill 1990); Llais Llyfrau / Books in Wales (Hydref 1996 & 1998); Bwa: Bulletin of the Welsh Academy (Gorffennaf 1997); Buzz: South Wales’ Entertainment Guide (Mehefin 1999); and Golwg (Mawrth 1994, Awst 1995, Mehefin ac Awst 1996, Ionawr 1997, a Gorffennaf 1998). / Copies of magazines featuring articles relating to Emyr Humphreys and his works, including copies of Sbec S4C (1990); Barn (April 1990); Golwg (March 1994); Llais Llyfrau / Books in Wales (Autumn 1996 & 1998); Bwa: Bulletin of the Welsh Academy (July 1997); Buzz: South Wales’ Entertainment Guide (June 1999); and Golwg (August 1995, June & August 1996, January 1997, and July 1998).

Llyfrau nodiadau a phapurau Griffith Jones / Griffith Jones notebooks and papers

Llyfrau nodiadau a phapurau (1906-1966) y Parch. Griffith Jones, Saron, Llanwnda, a gasglwyd gan ei fab-yng-nghyfraith Emyr Humphreys. Mae'r grŵp yn cynnwys pregethau, cofnodion casgliadau plwyf, nodiadau cwis, llyfrau tanysgrifio, a gohebiaeth. / Notebooks and papers (1906-1966) of the Rev. Griffith Jones, Saron, Llanwnda, collected by his son-in-law Emyr Humphreys. The group includes sermons, parish collection records, quiz notes, subscription books, and correspondence.

Pregethau, nodiadau, a chasgliadau plwyf / Sermons, notes, and parish collections

Naw o lyfrau nodiadau bychain (1920; 1922-23; 1926; 1932-1933; 1936; 1946-55), yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Griffith Jones ac yn cynnwys pregethau a nodiadau amrywiol eraill yn ymwneud â chasgliadau a thanysgrifiadau plwyfol, rhoddion, a nodiadau meddygol. / Nine small notebooks (1920; 1922-23; 1926; 1932-1933; 1936; 1946-55), containing manuscript notes in the hand of Griffith Jones and consisting of sermons and various other notes relating to parish collections and subscriptions, donations, and medical notes.

Pregethau / Sermons

Bwndel o nodiadau llawysgrif (heb eu dyddio) yn llaw Griffith Jones ac yn cynnwys pregethau yn bennaf. / A bundle of manuscript notes (undated) in the hand of Griffith Jones and consisting mainly of sermons.

Nodiadau cwis / Quiz notes

Papurau amrywiol o nodiadau llawysgrif a theipysgrif (1940; 1948-1949) wedi'u labelu 'Quiz a Llenyddol & Gwybodaeth gyffredinol, hefyd englynion', yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol a chwestiynau cwis, emynau, a nodiadau yn ymwneud â hanes teulu, ynghyd â rhestr o gynrychiolwyr dros Undeb yr Annibynwyr Cymraeg Caernarfon a'r Cylch (1930); papur arholiad Undeb Ysgolion Sabothol yr Annibynwyr Cymraeg (1941); a manylion pensiwn (1952-1957). / Various papers of manuscript and typescript notes (1940; 1948-1949) labelled ‘Quiz a Llenyddol & Gwybodaeth gyffredinol, hefyd englynion’, consisting of general knowledge and quiz questions, hymns, and notes relating to family history, together with a list of representatives for Undeb Yr Annibynwyr Cymraeg Caernarvon a’r Cylch (1930); an exam paper for Undeb Ysgolion Sabothol yr Annibynwyr Cymraeg (1941); and pension details (1952-1957).

Pregethau / Sermons

Cyfres o lyfrau nodiadau a thudalennau rhydd (1918-1955) oll wedi eu hysgrifennu yn llaw Griffith Jones ac yn cynnwys yn bennaf bregethau ynghyd ag amryw nodiadau perthynol eraill. / A series of notebooks and loose leaves (1918-1955) all written in the hand of Griffith Jones and consisting mainly of sermons together with various other related notes.

Pregethau / Sermons

Deg llyfr nodiadau (1929; 1934), yn cynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Griffith Jones ac yn cynnwys pregethau a nodiadau perthynol. / Ten ruled notebooks (1929; 1934), containing manuscript notes in the hand of Griffith Jones and consisting of sermons and related notes.

Canlyniadau 21 i 40 o 839147