Showing 1149 results

Archival description
Archifau Urdd Gobaith Cymru
Print preview View:

Toriadau o'r wasg 3

Deunydd print cynnar: toriadau papur newyddion yn adrodd am weithgareddau'r Urdd gan gynnwys dathliadau jiwbilî arian yr Urdd. Casgliad bychan o raglenni gwasanaethau cofroddion (a rhaglenni eraill), 1936-51.

Teledu ac S4C

Ymdrechion yr Urdd i gyfrannu i'r frwydr o gael sianel deledu Gymraeg ar y teledu, gan gynnwys datganiad i'r wasg, toriadau allan o bapurau newydd, copi o'r ddeiseb a luniwyd gan yr Urdd: 'Sianel Deledu i Gymru'. Llythyrau i'r BBC yn gofyn iddynt ddarlledu mwy o faes yr Eisteddfod. Llythyr gan Ffred Ffransis o'r carchar yn trafod yr ymgyrch. 'Second Report from the Committee on Welsh Affairs: Broadcasting in the Welsh Language and the Implications for Welsh and Non-Welsh Speaking Viewers and Listeners. (cyhoeddwyd 24/07/81)

Taith Mistar Urdd

Cyflwyno Mistar Urdd yn fyw: Poster digwyddiad 'Helo Mistar Urdd' Ionawr 24 1979; trefn y prynhawn o safbwynt rhaglen, sgript a pherfformiad a rhestr o wahoddedigion. Taith Mistar Urdd 1979: poster, trefniadau staffio, trefn a dyddiadau'r daith. Shew Hewl: trefn a dyddiadau'r daith, a chyfrifoldebau staffio.

Taith Canada 1955

Argraffiadau Taith Canada - drafftiau cyntaf ac yna'r drafft terfynol: Adroddiad ar yr Ymweliad â Chanada, Awst 18 - Tachwedd 18, 1955. (gwaith dwyieithog).

Swyddog Technegol

Gofynion darpariaeth Gwasanaeth Technegol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol, gan gynnwys disgrifiadau swydd.

Swyddfa Aberystwyth

Papurau gweinyddol amrywiol yn cynnwys nodiadau staff, deunydd yn ymwneud a Jiwbilî hanner canmlwyddiant, llythyrau. Dau lyfr nodiadau R.E. Griffith; casgliad bychan o fathodynnau'r Urdd.

Stampiau arbennig

Gohebiaeth yn ymwneud â'r cais am stamp arbennig - i goffau hanner canmlwyddiant Urdd Gobaith Cymru - yn cael ei gynnwys yn rhaglen stampiau Swyddfa'r Post 1972.

Results 21 to 40 of 1149